Telir Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gofalu am rywun sy’n anabl. Nid oes angen i chi fod yn perthyn i’r sawl rydych yn gofalu amdano, nac yn byw gydag ef neu hi.
Gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os ydych yn bodloni’r meini prawf a ganlyn:
Gall talu Lwfans Gofalwr leihau budd-daliadau eraill sy’n cael eu talu i chi neu’r sawl rydych yn gofalu amdano. Os ydych yn cael rhai budd-daliadau eraill efallai na thelir Lwfans Gofalwr i chi ond y byddwch yn cael yr hyn a elwir yn ‘hawl sylfaenol’ a phremiwm wedi’i ychwanegu at fudd-daliadau eraill. Gofynnwch am gyngor bob amser cyn hawlio.
Am ragor o wybodaeth neu i hawlio, cysylltwch ag Uned Lwfans Gofalwyr.
Ffôn: 0345 608 4321
Ffon Testun: 0345 604 5312
cau.customer-services@dwp.gsi.gov.uk
Gallwch hefyd hawlio Lwfans Gofalwr arlein yn www.gov.uk/apply-carers-allowance. Gellir defnyddio’r gwasanaeth hwn ar ffôn glyfar neu dabled, ac mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a gall eich helpu i hawlio’n gyflymach. Bydd yn cymryd oddeutu 24 munud i gyflwyno cais ac mae llawer llai o gwestiynau na’r hyn sydd ar y ffurflen bapur. Bydd eich cais yn cyrraedd yr Uned Gofalwyr yn syth wedi i chi ei gyflwyno. Darperir rhifau llinellau cymorth os oes angen help arnoch.
Mae taflen Lwfans Gofalwyr – ‘Everything you need to know about Carer’s Allowance’ ar gael yn www.gov.uk