COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws

Coronafeirws: Cyngor a Chanllawiau

Lles

Cyngor presennol y llywodraeth yw y dylem wneud y canlynol:

  • Mynd allan yn unig i brynu bwyd, am resymau iechyd neu i weithio (ond yn unig os na allwch weithio gartref). Mae Canolfannau Garddio a Chanolfannau Gwastraff ac Ailgylchu hefyd wedi cael cyfle i ail-agor.
  • Dylech deithio'n lleol yn unig (h.y. dylai eich taith ddechrau a gorffen yn eich prif gartref).
  • O'r 1af o Fehefin ymlaen, gallwch hefyd fynd allan i gwrdd ag aelodau o aelwyd arall ond dim ond i wneud hynny y dylech deithio yn lleol (awgrymir 5 milltir ond gyda rhywfaint o ddisgresiwn mewn ardaloedd gwledig).
  • Arhoswch 2 fetr (6tr) oddi wrth bobl eraill bob amser
  • Golchwch eich dwylo cyn gynted ag y cyrhaeddwch adref

Gallwch ledaenu’r firws hyd yn oed os nad oes gennych symptomau

 

EDRYCH AR ÔL EIN GILYDD

Llywodraeth Cymru Edrych ar ôl ein gilydd - Fideo

Llywodraeth Cymru Edrych ar ôl ein gilydd - Wefan

 

YMARFER GARTREF 

Gartref

Manteisiwch ar unrhyw gyfleo a gewch i ymarfer yn eich tŷ neu ardd, os oes gennych un. Efallai fod gennych offer eisoes y gallwch ei ddefnyddio, ac mae toreth o ddosbarthiadau a sesiynau ymarfer y gallwch ymuno â nhw ar y teledu ac ar-lein.

Mae tîm hamdden Sir Benfro hefyd wedi bod yn brysur yn rhoi amrywiaeth o adnoddau ar-lein at ei gilydd.

Mae You Tube Hamdden Sir Benfro am ddim ac mae ar gael i unrhyw un, nid dim ond aelodau o Hamdden Sir Benfro

Gall Aelodau Hamdden Sir Benfro hefyd fanteisio ar dreial 60-Day rhad ac am ddim o fideos ffitrwydd les Mills ac adnoddau ffitrwydd gan Technogym a Life Fitness.

Mae app Mywellness Technogym gyda Hamdden Sir Benfro yn ap ar-lein lle gall pobl ymuno am ddim, gweld a chymryd rhan mewn gwaith bob dydd, symudiadau a heriau. Mae mwy na 300 o aelodau wedi ymuno ag app Mywellness ers ei ryddhau. Dylai pob aelod sydd wedi cofrestru gyda chyfeiriad e-bost gweithredol fod wedi derbyn e-bost gwybodaeth am yr adnoddau ychwanegol.

Allan o’ch cartref

Mae canllawiau presennol y llywodraeth yn caniatáu i chi adael eich cartref i wneud ymarfer corff.

Mae’r canllawiau’n crybwyll cerdded, rhedeg a beicio. Gallwch fynd gyda phobl eraill yr ydych yn byw gyda nhw a/neu'ch ci os oes gennych un.

Dylech deithio'n lleol yn unig (h.y. dylai eich taith ddechrau a gorffen yn eich prif gartref).

Os byddwch yn mynd allan, arhoswch 2 fetr (6tr) oddi wrth bobl eraill bob amser.

Dylech hefyd gadw eich ci neu gŵn oddi wrth bobl eraill a chŵn eraill. Y ffordd orau o wneud hyn yw eu cadw ar dennyn byr. Cofiwch lanhau ar ôl eich ci neu gŵn.

Gellir dod o hyd i gyngor pellach ar barchu Cefn Gwlad a chadw'n ddiogel yma

 

CAM-DRIN DOMESTIG A THRAIS RHYWIOL

Nid yw pob cartref yn hafan ddiogel. I rai, gall ddatblygu yn fan lle mae ynysu yn cynyddu’r risg o drais a chael eich rheoli.

Cymorth a chyngor i’r rheini sy’n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod argyfwng y Coronafeirws neu i’r rheini sy’n nabod rhywun sy’n dioddef ar gael drwy Linell Gymorth Byw Heb Ofn 0808 80 10 800 neu ar ei gwefan

 

IECHYD MEDDWL 

Mae gwybodaeth a chyngor ar ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod haint y coronafeirws i’w cael yn y canlynol:

Adran Every Mind Matters ar wefan NHS One You

 Sefydliad Iechyd Meddwl

 Mind

Pobl Ifanc ac Iechyd Meddwl

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i rieni a gofalwyr ar gynnal iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn ystod haint y coronafeirws, sydd ar gael yma

Mae Young Minds, elusen iechyd meddwl, hefyd yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol ar iechyd meddwl yn ystod haint y coronafeirws ar gyfer pobl ifanc a rhieni - yma

Bwyd a Lles Meddyliol

Bwyd a Lles Meddyliol

 

GWYBODAETH A GWEITHGAREDDAU I BLANT A PHOBL IFANC

Cymerwch olwg ar ein Parth Dysgu o Chwaraeon Sir Benfro

A'n Parth Dysgwr Gwasanaethau Cerdd Sir Benfro

Comisiynydd Plant Cymru - Hwb Gwybodaeth

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi sefydlu Hwb Gwybodaeth ar-lein ar ei gwefan, yn rhoi cyngor i blant, pobl ifanc a rhieni yn ystod haint y coronafeirws.

Mae’r Hwb Gwybodaeth yn cynnwys gweithgareddau ac adnoddau i blant a phobl ifanc, gwybodaeth am ddysgu gartref a syniadau chwarae.

Hwb Gwybodaeth

 

 

ID: 6246, adolygwyd 01/06/2020