Bob blwyddyn bydd llawer o bobl yn ‘cael eu cafflo’, sef syrthio i ddwylo twyllwyr sydd â’u bryd ar ddwyn eu manylion personol ac ariannol a phocedu eu harian. Mae’r twyllwyr yn swnio’n argyhoeddiadol, yn broffesiynol ac efallai y byddan nhw’n honni eu bod nhw’n cynrychioli busnes sy’n gyfarwydd i chi, fel eich banc. Efallai y byddan nhw’n pwyso arnoch i weithredu’n gyflym, naill ai oherwydd eu bod am eich twyllo i gredu y byddwch chi’n colli cyfle euraidd i wneud arian neu y byddwch chi’n dioddef colled o ryw fath os na fyddwch chi’n gweithredu. Dim ond un ymateb sydd ei angen ac fe gewch eich boddi gan lawer o wahanol Sgamiau eraill gan fod y twyllwyr hyn yn gwerthu eich manylion ymlaen i eraill.
Mae llawer o bobl yn cael eu hanafu bob blwyddyn trwy gwympo yn eu cartrefi eu hunain ac mae’r risg yn cynyddu wrth i chi heneiddio, ond mae ofn cwympo yn peri pryder mawr i rai pobl. Fodd bynnag, gallwch gymryd rhai camau syml i leihau eich risg o gwympo yn eich cartref.
Os bydd rhywun yn dod i’ch drws yn ddiwahoddiad ac yn cynnig nwyddau neu wasanaethau, mae’r Adran Safonau Masnach (Ffôn: 01437 764551) yn cynnig y cyngor a ganlyn:-
Byddwch yn wyliadwrus os yw rhywun sy’n dod i’ch drws:
Nid yw pawb sy’n dod i’r drws ar berwyl drwg, ond byddwch yn wyliadwrus gan fod galwyr ffug yn ymddangos yn gwrtais ac yn ddymunol iawn ar y dechrau.
Os ydych yn bryderus ynglŷn â rhywun sydd wedi dod i’ch drws ac:
ffoniwch yr Heddlu ar 101 a Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu 0808 223 1144 (llinell Gymraeg). Gallant hwy roi cyngor i chi hefyd.
Yn hytrach na disgwyl i rywun ddod i guro ar eich drws, mae’n well i chi chwilio am fasnachwr dibynadwy eich hun. Holwch eich ffrindiau a’ch perthnasau rhag ofn y gallant hwy argymell masnachwr.
Os ydych chi’n poeni am gael help mewn argyfwng, hwyrach y bydd gennych ddiddordeb mewn cael Larwm Cymunedol. Bydd crogdlws, sy’n cael ei wisgo o amgylch eich gwddf neu arddwrn, yn cael ei gysylltu â’ch ffôn a bydd yn cael ei actifadu os byddwch yn ei wasgu mewn argyfwng. Bydd y gwasanaeth monitro’n ateb eich galwad a bydd y gweithredwr yn penderfynu ar ba gam i’w gymryd (gweler isod am y rhestr o ddarparwyr).
Os ydych chi’n methu neu’n anfodlon cysylltu â gwasanaeth monitro, mae Larymau Diogelwch y Cartref ar gael i’w prynu’n breifat. Gall y rhain amrywio o unedau ar eu pen eu hunain (i’w defnyddio yn y cartref neu’n agos ato) i ffonio ymatebwr dros wasanaethau Wi-Fi, ffôn symudol neu linell tir.
Os ydych chi’n berchen ar eich cartref, yn denant rhentu’n breifat neu’n denant Awdurdod Lleol, ewch i Wasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro i gael gwybodaeth am sut i gael Larwm Cymunedol gan y Cyngor.
Os ydych chi’n denant Tai Cymdeithasol, dylai’ch landlord allu darparu a gosod Larwm Cymunedol yn eich eiddo a bydd angen i chi gysylltu â nhw i drafod eich anghenion. Gall tenantiaid ateb wneud cais ar-lein trwy ymweld â’u Gwasanaeth i Bobl Hŷn.
Gallwch drefnu i ffitio Gwasanaeth Monitro Larwm Personol eich hun sy’n cynnwys y darparwyr canlynol:
Mae gan Teleofal amrywiaeth eang o larymau a synwyryddion sy’n galluogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartref eu hunain. Mae nifer o larymau eraill i’w cael ar wahân i’r rhai rydych yn eu gwisgo am eich gwddf neu eich arddwrn, gan gynnwys synwyryddion syrthio, synwyryddion gwely a synwyryddion mwg. Mae’r cyfarpar yn cael ei gysylltu â chanolfan ymateb i larwm cymunedol a fydd yn cysylltu â chi ac yn cael gafael ar yr unigolyn neu’r gwasanaeth priodol. Mae’n rhaid i weithiwr Iechyd proffesiynol atgyfeirio rhywun at Teleofal.
Ffoniwch Gyngor Sir Penfro ar 01437 764551
Nod y rhan hon yw rhoi gwybodaeth am offer a all eich helpu i aros yn ddiogel yn eich cartref eich hun.
Cynhyrchir CO trwy losgi nwy naturiol neu nwy naturiol hylifedig (LPG) yn annigonol. Mae hyn yn digwydd pan fydd dyfais nwy wedi’i ffitio’n anghywir, wedi’i hatgyweirio’n wael neu ei chynnal a’i chadw’n wael. Gall ddigwydd hefyd os bydd y ffliwiau, simneiau neu’r fentiau wedi’u rhwystro.
Mae larymau CO modern yn debyg o ran cynllun i larymau mwg (nad ydynt yn synhwyro CO) a gellir eu prynu o oddeutu £15 mewn nifer fawr o siopau adwerthu mawrion gan gynnwys siopau DIY ac archfarchnadoedd.
Os na all rhywun sy’n byw adref ymateb i larwm monitro CO, gall larymau CO clyfar anfon rhybudd at unrhyw un i ffwrdd o’r cartref ac mae’r rhain ar gael i’w prynu’n breifat, neu gall Gwasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro ddarparu larymau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth monitro ar ôl mynd trwy asesiad o anghenion.
Gellir canfod rhagor o gyngor am CO yn y Gofrestr Diogelwch Nwy. Cewch hefyd ofyn am Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cynigia Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim i’r rhai sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain neu gartrefi a rentir yn breifat er mwyn lleihau’r risg o dân ac i fod yn ymwybodol o unrhyw bobl ddiamddiffyn yn y cartref. Gallant ffitio offer ar eu pen eu hun am ddim fel larymau mwg a synwyryddion gwres neu, hyd yn oed glustogau sy’n dirgrynu i bobl drwm eu clyw. Gweithiant yn agos gyda Gwasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro i ffitio offer sy’n gysylltiedig â gwasanaeth monitro os na all rhywun ymateb i sefyllfa o argyfwng.
Mae synwyryddion mwg clyfar ar gael i’w prynu’n breifat a gallant anfon rhybudd at unrhyw un sydd i ffwrdd o’r cartref – sy’n hynod ddefnyddiol i rywun sy’n methu ag ymateb i argyfwng yn y cartref.
Cwcers
Mae diogelwch yn y gegin yn ofid mynych, yn enwedig i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain ac/neu sydd â nam gwybyddol. Hwyrach yr hoffech ystyried buddsoddi mewn cwcer nwy modern gyda Dyfais Goruchwylio Fflamau integredig a fydd yn edrych i sicrhau bod fflam mewn unrhyw losgwr sydd wedi’i danio. Os bydd y fflam wedi diffodd am unrhyw reswm, bydd y ddyfais yn cau’r cyflenwad nwy’n awtomatig i’r llosgwr dan sylw, gan atal nwy rhag cronni.
Cloi falfiau cwcers
Mae hyn yn addas i bobl sy’n methu gweithio’u cwcers nwy yn ddiogel mwyach, fel pobl sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer neu Ddementia a allai fod mewn perygl o niweidio’u hunain a’u cartref trwy adael nwy ymlaen heb fflam neu drwy anghofio diffodd y pentan. Mae Cloi Falfiau Cwcers yn galluogi ar gyfer defnyddio’r cwcer dan oruchwyliaeth, a’u cloi yn y safle diffodd pan fydd deilydd yr allwedd yn gadael y tŷ neu’r ystafell, a fydd yn golygu bod eu teulu neu ofalwr yn dawel eu meddwl na fydd unrhyw niwed yn dod i’w rhan pan fyddant ar eu pen eu hunain. Mae’r falfiau hyn wrthi’n cael eu cyflenwi’n rhad ac am ddim i Gwsmeriaid Blaenoriaeth Wales & West Utilities.
Synwyryddion Nwy
Mae Synwyryddion Nwy y Cartref ar gael ar raddfa eang ar y farchnad ac yn cynnig ffordd ddarbodus o gyflwyno rhybudd (heb yr angen i gael falf cau nwy) os bydd dyfais yn gollwng nwy.
Falfiau Cau Nwy
Mae’r risg o anghofio tanio cylch nwy neu dân nwy yn cynyddu wrth i bobl gael anawsterau gyda’u cof. Mae Falfiau Cau Nwy yn torri’r cyflenwad nwy o gael eu sbarduno gan synhwyrydd nwy wedi’i gysylltu â blwch rheoli teleofal. Caiff swîts sy’n cael ei weithio trwy allwedd ar y blwch rheoli ei ddefnyddio i aildanio’r cyflenwad nwy ar ôl i’r rheswm am y gollyngiad gael ei ymchwilio. Bydd y falfiau cau hyn yn cael eu ffitio a’u hailosod gan ffitwyr Gas Safe cofrestredig yn unig ac ni chânt eu darparu gan Gyngor Sir Penfro.
Mae blancedi trydan sydd wedi torri neu sydd â nam yn achosi 5,000 o danau y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Gall y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyflawni Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref o flancedi trydan.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch blancedi trydan, cyfeiriwch at y cyngor sydd yn Electrical Safety First.