Coronafeirws (Covid-19)
Eich bywyd bob dydd
Cynllun Ymwelydd Cymunedol
Mae’r Cynllun Ymwelydd Cymunedol yn darparu cefnogaeth cysylltiedig â thai i oedolion bregus i’w galluogi i aros mor annibynnol ag sy’n bosibl. Ar ôl asesu eich angen, bydd Ymwelwyr Cymunedol yn ymweld â chi’n rheolaidd yn y cartref ar adegau yr ydych wedi’u trefnu, gan roi cynlluniau cefnogi yn eu lle. Mae’r math o gefnogaeth y gellir ei darparu yn cynnwys:
- Cymorth i’ch galluogi i fyw’n annibynnol gartref
- Cymorth i wneud cais am dŷ a chael cyngor ynglŷn â thai
- Gwybodaeth, cyngor a chymorth eiriolaeth
- Cymorth i lenwi ffurflenni, budd-daliadau, budd-daliadau tai / treth y cyngor
- Cymorth i sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w derbyn
- Help i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i sefydlu a chynnal tenantiaeth
- Cymorth i drefnu bod rhywun yn dod i atgyweirio’r cartref / gwelliannau / cael gafael ar grantiau cyfleusterau i’r anabl
- Asesu angen ac atgyfeirio at wasanaethau priodol
Am wybodaeth bellach am y gwasanaeth neu i gyflwyno atgyfeiriad, ffoniwch 01437 764551
ID: 2026, adolygwyd 24/08/2021