Gall salwch fel peswch ac annwyd a mân ddamweiniau ddigwydd unrhyw bryd, felly mae’n syniad da cadw ychydig o bethau bach syml wrth law yn eich cartref. Er enghraifft:
Cadwch eich moddion o’r golwg mewn cwpwrdd dan glo sydd allan o gyrraedd plant neu unrhyw un a allai gymryd rhywbeth mewn camgymeriad. Cadwch y moddion yn eu cynhwysydd gwreiddiol wedi’i labelu a pheidiwch â storio moddion os yw’r dyddiad arnynt wedi bod. Gall eich fferyllydd lleol gael gwared arnynt yn ddiogel. Ni ddylai moddion ar bresgripsiwn gael eu defnyddio gan neb arall ar wahân i’r sawl sydd â’i enw ar y presgripsiwn.
I gael cyngor ynglŷn â gofalu amdanoch eich hun, cysylltwch â’ch Meddygfa, eich Fferyllydd neu Galw Iechyd Cymru. Gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru drwy ffonio 0845 46 47 neu gallwch edrych ar y wefan www.nhsdirect.wales.nhs.uk