Beth yw Gwerthusiad Cynaliadwyedd?
Mae Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC) yn ofyn statudol. Diben GC yw sicrhau bod rhai polisïau, cynlluniau a chynigion neilltuol yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Fe allai cynlluniau a pholisïau’r Cyngor gael goblygiadau posibl i’r amgylchedd, yr economi a chymdeithas a bydd y gwerthusiad yn caniatáu i’r Cyngor bwyso a mesur a lliniaru’r goblygiadau hyn. Bydd hefyd o gymorth wrth baratoi’r cynlluniau sy’n hybu ffurfiau cynaliadwy ar ddatblygu.
Beth yw Asesiad Amgylcheddol Strategol?
Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) yn ofyn cyfreithiol er mwyn cydymffurfio â Chyfeireb (2001/42/EC) yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Gyfeireb AAS yn cael ei thrawsnodi i gyfraith Cymru gan Reoliadau’r Asesiad Amgylcheddol ar Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Rheoliadau AAS). Bwriad y broses yw pwyso a mesur yr effaith debygol a gaiff cynllun neu raglen ar yr amgylchedd, cyn iddo/iddi gael ei roi ar waith. Amcan AAS yw “sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod yn ddirfawr, a chyfrannu at sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol yn cael eu cynnwys yn bendant pan mae cynlluniau a rhaglenni’n cael eu paratoi a’u mabwysiadu, gyda’r bwriad o hybu datblygu cynaliadwy” . Cafodd cyfarwyddyd ynghylch GC ac AAS ei restru yn y LDP Manual a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n sôn am gyfarwyddyd ynghylch AAS gan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (SDBW).
Yn ôl Rheoliadau AAS mae gofyn i rai cynlluniau a rhaglenni neilltuol sydd yn yr arfaeth a allai gael effaith ar yr amgylchedd, fynd ati i bwyso a mesur beth fyddai eu heffaith debygol. Fe wneir hyn trwy lunio Adroddiad Amgylcheddol a thrwy ymgynghori, wedi hynny, â CADW, Cyfoeth Naturiol Cymru (Y Cyrff Ymgynghori dros Gymru).
Pryd mae AAS yn berthnasol?
Nid oes unrhyw restr swyddogol o’r cynlluniau a’r rhaglenni y bydd Rheoliadau AAS yn berthnasol iddynt; bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Y sefydliad sy’n paratoi’r cynllun neu’r rhaglen sy’n gyfrifol am benderfynu a yw’r rheoliadau’n berthnasol i’r cynllun neu’r rhaglen dan sylw. Yn y Canllaw Ymarferol ynghylch Cyfeireb AAS mae rhestr awgrymedig o gynlluniau a rhaglenni y bydd AAS yn berthnasol iddynt. Mae hefyd yn dweud yn union beth yw’r meini prawf mewn perthynas â rhoi Cyfeireb AAS ar waith.
Rhoi AAS a GC ar waith yn Sir Benfro
Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir Penfro’n cael GC ac AAS ar hyn o bryd. Yn unol ag awgrym Llywodraeth Cymru cafodd yr agwedd AAS ei chynnwys ym mhroses y GC. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y GC/AAS ar y CDLl byddwch cystal â bwrw golwg ar y gwe-dudalennau cynllunio hyn:
Gwybodaeth/dolenni buddiol
Mae gwybodaeth ychwanegol am GC ac AAS i’w chael yn:
Gwybodaeth SEA Llywodraeth Cymru
Canllaw Ymarferol ynghylch y Gyfeireb AAS. Cyfarwyddyd gan gyn SDBW a’r gweinyddiaethau a ddatganolwyd.
Swyddog Gwerthu
Y Tim Cadwraeth