Byddwn yn gwneud y canlynol:
1. Gwerthfawrogi’r wybodaeth bersonol a ymddiriedwyd ynom a sicrhau parchu’r ymddiried hwnnw;
2. Mynd ymhellach na dim ond llythyren y ddeddf wrth drin gwybodaeth bersonol, a mabwysiadu safonau arferion da;
3. Ystyried a rhoi sylw i’r peryglon preifatrwydd yn gyntaf pan fyddwn yn bwriadu defnyddio neu ddal gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd newydd, fel pan fyddwn yn cyflwyno systemau newydd;
4. Bod yn agored gydag unigolion ynghylch sut y defnyddiwn eu gwybodaeth ac i bwy y rhoddwn hi;
5. Ei gwneud yn hawdd i unigolion gael mynediad at a chywiro eu gwybodaeth bersonol;
6. Cadw’r lleiaf angenrheidiol o wybodaeth bersonol a’i dileu pan na fydd arnom ei hangen mwyach;
7. Bod â dulliau diogelu effeithiol i sicrhau cadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac na fydd yn mynd i’r dwylo anghywir;
8. Hyfforddi staff sy’n trin gwybodaeth bersonol a’i wneud yn fater disgyblu os byddant yn camddefnyddio neu heb ofalu am wybodaeth bersonol yn briodol;
9. Buddsoddi adnoddau ariannol a dynol priodol mewn gofalu am wybodaeth bersonol i sicrhau y gallwn gadw at ein haddewidion; a
10. Cadarnhau’n rheolaidd ein bod yn cadw at ein haddewidion a hysbysu sut ydym yn gwneud.