Mae Cyngor Sir Penfro’n ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, byddwn yn ystyried o ddifrif unrhyw gwynion a gawn am hyn. Anogwn bobl i roi gwybod inni os credant fod y ffordd y byddwn yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol.
Nid yw’r Hysbysiad Prosesu Teg hwn yn manylu’n gynhwysfawr ar bob agwedd ar ein prosesau casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol neu eglurhad sydd eu hangen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i’r cyfeiriad isod:
Jo Hendy, Prif Swyddog Archwiliad, Risg a Gwybodaeth
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 764551
Os ydych am wneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: caseworker@ico.org.uk Rhif ffôn: 0303 1231113