Eich Hawliau
O dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi:
- Yr hawl i weld y wybodaeth – mae gennych hawl i ofyn am gael gweld gwybodaeth sydd gennym amdanoch ac i gael copi ohoni
- Yr hawl i gael gwybod – Mae gan unigolion yr hawl i gael gwybod am gasglu a defnyddio eu data personol. Mae hwn yn ofyniad tryloywder allweddol o dan y GDPR.
- Yr hawl i gywiro – mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro eich gwybodaeth.
- Mae'n bosibl y bydd yr hawl i gyfyngu ar brosesu yn gymwys – gallwch ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data personol, ond gall hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â'ch cais ond mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol.
- Yr hawl i ddileu - nid yw'r hawl hon yn hawl absoliwt.
- Yr hawl i symud data - nid yw'r hawl hon yn hawl absoliwt.
- Yr hawl i beidio â bod yn ddarostyngedig i benderfyniadau a phroffilio awtomataidd – sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol neu affeithiau sydd yr un mor bwysig i destun y data