Bydd yr wybodaeth a rowch yn cael ei phrosesu yn unol â Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu’r cyllid cyhoeddus a weinyddwn a chawn ddefnyddio’r wybodaeth a rowch, yn ogystal â thechnegau paru data, i ddarganfod ac atal twyll. Byddwn yn croeswirio’r wybodaeth ag adrannau eraill Cyngor Sir Penfro i sicrhau mai un cofnod cwsmer sy’n cael ei gadw amdanoch chi, os oes modd. Mae’r broses paru data yn ffordd sicr o helpu i sicrhau bod y cofnodion sydd gennym amdanoch chi yn ddiweddar ac yn gywir.
Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol gan y gyfraith a chawn hefyd rannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am ddarganfod/atal twyll neu archwilio/gweinyddu cyllid cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y modd mwyaf priodol a chost effeithiol. Er mwyn sicrhau hyn, mae’n bosibl y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gydag adrannau mewnol eraill yng Nghyngor Sir Penfro gyda'r archwilydd cyffredinol i gymru.
Bydd y wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn defnyddio’r wybodaeth i atal twyll a gwyngalchu arian, a gwirio pwy ydych chi. Os caiff twyll ei ddarganfod, gellid gwrthod gwasanaethau penodol, cyllid, neu swydd, i chi. Gellir cael rhagor o fanylion am sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gennym ni a’r asiantaethau atal twyll hyn, a’ch hawliau diogelu data, trwy fynd i: CIFAS
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd parti at ddibenion marchnata oni bai eich bod yn rhoi eich caniatad i ni wneud hynny.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roesoch i gysylltu â chi mewn perthynas â gwasanaethau’r Cyngor yr ydych wedi gofyn amdanynt neu gofrestru amdanynt.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol drwy’r amser a dim ond yr wybodaeth bersonol sy’n ofynnol i gael at wasanaethau’r Cyngor y byddwn yn ei chasglu.