Materion CDLl Drafft, Gweledigaeth, Amcanion a Dewisiadau Strategol (Gorffennaf – Medi 2018)
Mae'r cam rhagarweiniol hwn o'r broses CDLl yn gosod amcanion trosfwaol y CDLl ac yn cyflwyno amryw o opsiynau i fodloni gofynion o ran cynnydd mewn tai yn y dyfodol dros gyfnod y Cynllun (hyd at 2033).
Rhwng 16 Gorffennaf a 10 Medi 2018, cynhaliodd Cyngor Sir Penfro ymgynghoriad anffurfiol ar ddwy ddogfen – y papur Materion, Gweledigaeth ac Amcanion Drafft a’r Papur Dewisiadau Tai Strategol (Twf a Dosbarthiad Gofodol).
Cynhaliodd Cyngor Sir Penfro weithdai ym mis Gorffennaf 2018 hefyd er mwyn trafod Dewisiadau gyda Rhanddeiliaid, Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned.
Y Materion – beth yw’r prif faterion sy’n wynebu ardal y Cynllun (hyd at 2033)?
Y Weledigaeth – pwrpas craidd y Cynllun
Amcanion – Ymhelaethu ar y Weledigaeth a chanolbwyntio ar y canlyniadau y dylai’r Cynllun eu cyflwyno
Dewisiadau Strategol – Amryw sefyllfaoedd ar gyfer lefelau twf tai i’r dyfodol a lleoliadau/polisïau eang i’w hystyried ar gyfer darparu’r twf hwn.
Bydd yr adborth a dderbynnir i’r ymgynghoriad anffurfiol hwn yn llywio datblygiad Strategaeth Ddewisol y Cyngor.
Dogfennau a gyhoeddwyd fel rhan o’r ymgynghoriad hwn:
Dogfennau technegol ategol:
Papur Rhagolygon Demograffig - Gorffennaf 2018
Adroddiad Anheddiad Gweledig 2018
- Gorffennaf 2018