COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws neu am wybodaeth sut i wneud cais am breaf Covid-19 ewch i llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19

Beicio Sir Benfro

|Name like '%Heritage Coast%'|Route like '%Heritage Coast%'

Llwybr Arfordir a Ffin

Overview
Information

    Mae’r Llwybr yn dechrau yng nghyrchfan arfordirol Dinbych-y-pysgod ac yn troelli tua’r tir i ymweld â nifer o bentrefi darluniadwy ar y ffordd i Sir Gaerfyrddin a thref aberol Talacharn, a fu’n gartref ar un adeg i fardd iaith Saesneg enwocaf Cymru, Dylan Thomas. Mae’n dychwelyd i Ddinbych-y-pysgod ar hyd y llwybr arfordirol godidog gan fynd heibio i gyrchfannau Amroth, Wisemans Bridge a Saundersfoot

     

    Ffeil Ffeithiau
    Uchafbwyntiau:

    Llwybr hirach hardd sy’n cynnwys golygfeydd hyfryd o’r arfordir, trefi a phentrefi hanesyddol, cyrchfannau glan môr godidog a thaith ar draws y ffin i Sir Gaerfyrddin gyfagos

    Gradd: Egnïol

    Pellter:

    45 milltir (72 cilometr)

    Amser: Trwy’r dydd – gan gynnwys amser ar gyfer seibiannau byr
    Man cychwyn/gorffen

    Maes Parcio Traeth y Gogledd, Gas Lane, Dinbych-y-pysgod (Cyfeirnod Grid SN132011, cod post Llywio â Lloeren SA70 8AG). Mae taliadau’n berthnasol. Ar yr A478 i mewn i Ddinbych-y-pysgod, trowch i’r chwith wrth y gylchfan a dilynwch yr arwyddion ar gyfer y Dref Gaerog ac Ysbyty Bwthyn. Ar waelod y bryn, trowch i’r chwith i mewn i Gas Lane a dilynwch y ffordd i’r maes parcio

    Gorsaf Drenau Agosaf:

    Dinbych-y-pysgod 0.6 milltir. Trowch i’r chwith allan o’r orsaf. Ewch ymlaen yn syth wrth y groesffordd ger yr eglwys a throwch i’r chwith wrth y gylchfan fach sy’n edrych dros y traeth. Ar ôl 1/4 milltir, trowch i’r dde i mewn i’r ffordd sy’n dangos yr arwydd Maes Parcio Traeth y Gogledd

    Tirwedd: Ffyrdd gwledig tawel yn bennaf gyda rhan fer ar yr A4066 i Dalacharn a rhan fer iawn ar yr B4316 yn Saundersfoot. Mae’r graddiannau’n gymedrol ar y cyfan ond yn fwy serth mewn mannau, yn enwedig lle mae’r llwybr yn gadael cyrchfannau arfordirol Talacharn, Amroth a Saundersfoot. Ni ddylai’r un o’r bryniau achosi problem i unrhyw un sy’n gyfarwydd â beicio, ond fe allech ddymuno dod oddi ar eich beic a’i wthio i fyny rhai o’r rhannau serthaf os ydynt yn anodd i chi. Ni fydd hyn yn ychwanegu’n sylweddol at hyd y daith. Mae’n rhoi seibiant byr o feicio a chyfle i fwynhau’r golygfeydd ac edmygu’r perthi deniadol
    Codiad tir:

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 964 metr

    Lluniaeth:

    Dinbych-y-pysgod, St Florence, Croesfan Old Tenby Road, Talacharn, Amroth, a Saundersfoot

    Toiledau:

    Dinbych-y-pysgod, Talacharn, Amroth, Wisemans Bridge, Saunderfoot, ac mae cyfleusterau i gwsmeriaid ar gael ar hyd y llwybr (tafarndai yn bennaf)

     

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0       Dechrau. Gadewch y maes parcio a throwch i’r chwith i ymuno â’r brif ffordd. Ewch ymlaen yn syth wrth y gylchfan fach i ganol y dref. Trowch i’r dde yn union ar ôl Eglwys y Santes Fair a dilynwch y ffordd hon o amgylch i’r dde. Trowch i’r chwith i Stryd y Santes Fair wrth y Three Mariners a throwch i’r dde ar ddiwedd y ffordd hon. Ewch ymlaen trwy’r bwa carreg a throwch i’r chwith. Dilynwch y ffordd hon sy’n edrych dros y traeth ac ymunwch â’r llwybr trwy’r bolardiau ar y diwedd. Ewch ymlaen yn syth ar hyd y llwybr hwn gan fynd heibio i ardal chwarae i’r dde (ildiwch i gerddwyr wrth i chi fynd), yna dilynwch y rhan o’r ffordd sy’n disgyn yn serth ar ddiwedd y llwybr. Ar waelod y bryn, ewch yn syth ymlaen gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Ar ôl mynd heibio i 3 thŷ ar y dde, ymunwch â llwybr culach ar y chwith ac ewch ymlaen yn syth ar ôl mynd trwy rwystr. Bydd y llwybr yn mynd â chi wrth ymyl cwrs golff

    1.5       Trowch i’r dde dros y bont reilffordd a throwch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ yng Nghanolfan Wyliau Parc Kiln. Ewch i’r chwith yn union ar ôl y farchnad fach ac ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon. Ar eich chwith, byddwch yn mynd heibio i’r cyfadeilad odyn galch mwyaf sy’n goroesi yn Sir Benfro, a gaeodd ym 1902. Mae’n werth mynd i mewn yn gyflym i weld y strwythur tebyg i ‘eglwys gadeiriol’ y tu mewn. Y tu hwnt i’r odynau calch, mae’r ffordd yn troi i’r dde. Trowch i’r chwith yn union ar ôl y tro hwn ac ewch ymlaen i brif ffordd yr A4139. Croeswch y brif ffordd hon wrth y goleuadau traffig, ewch i’r dde ar yr ynys draffig a chroeswch y ffordd ymyl gan ddilyn yr arwydd Llwybr 4 i’r chwith. Ar ôl 100 llathen, trowch i’r dde i ymuno â ffordd ymyl gulach ac ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon am fwy na 21/2 milltir tan i chi gyrraedd pentref St Florence

    5.0       Ewch yn syth ymlaen wrth y llinell Ildio yn y pentref gan fynd heibio i’r hen Simnai Ffleminaidd ar y dde, yna trowch i’r dde ar ôl 100 llathen. Ar ôl 200 llathen arall, ewch yn syth ymlaen wrth y gyffordd. Dilynwch y ffordd hon am fwy na 3/4 milltir gan anwybyddu troeon ymyl i’r chwith a’r dde

    6.0       Croeswch ffordd brysur y B4318 gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Redberth

    7.0       Ar ôl croesi’r bont dros brif ffordd yr A477, trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’. Cymerwch y tro nesaf i’r chwith tuag at Jeffreyston ac ewch ymlaen am 11/4 milltir cyn troi i’r dde wrth gyffordd ‘T’. Bydd hyn yn mynd â chi i gyrion pentref Jeffreyston a byddwch yn mynd heibio i Ysgol Sant Oswald ar eich chwith. Wrth y llinell Ildio, trowch i’r chwith i ymuno â ffordd y B4386 a dilynwch y ffordd hon am bron 1 filltir

    9.7       Lle mae ffordd y B4386 yn gwyro i’r chwith ar ôl pont gul, cymerwch y ffordd ymyl i’r dde gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Reynalton. Ewch ymlaen am oddeutu milltir ar ôl pentref Reynalton tan i chi gyrraedd cyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith tuag at Yerbeston a throwch i’r dde wrth y gyffordd nesaf tuag at Arberth

    13.0     Wrth y gyffordd â ffordd yr A4115 ewch yn syth ymlaen tuag at Arberth. Yna cymerwch y tro nesaf i’r dde tuag at Templeton. Ar ôl ychydig dros filltir byddwch yn cyrraedd Templeton. Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac yna croeswch brif ffordd yr A478 gan ddilyn ffordd y B4315 i Cold Blow. Ar ôl mynd trwy Cold Blow ewch ymlaen am 3/4 milltir i bentref Princes Gate. Er gwybodaeth, roedd y rhan fer hon o’r ffordd yn rhan o lwybr tyrpeg pellter hir 200 mlynedd yn ôl. Roedd yn arwain o Lundain a Bryste i Iwerddon trwy bacedlongau a hwyliai o Aberdaugleddau. Trowch i’r dde wrth y groesffordd yn Princes Gate gan ddilyn yr arwydd i’r Eglwys Lwyd, ac ar ôl bron 1 filltir trowch i’r chwith wrth y groesffordd tuag at Tavernspite. Ar ddiwrnod clir, fe welwch Ynys Wair ac arfordir gogledd Dyfnaint ar y dde. Mae’r man uchaf yn ne Sir Benfro i’r chwith, a dywedir yn lleol mai dyna lle y glaniodd Arch Noa ar ôl y dilyw mawr. Mae rhai enwau lleol yn gysylltiedig â’r chwedl hon. Dilynwch y ffordd hon am bron 3 milltir tan i chi gyrraedd pentref Tavernspite

    20.1     Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ger pympiau’r pentref ac yna cymerwch yr 2il gyffordd i’r chwith gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Llanddowror. Ar ôl tua 3 milltir, trowch i’r dde wrth ymyl eiddo o’r enw Cnwce. Bydd hyn yn mynd â chi i bont dros brif ffordd yr A477. Dilynwch yr is-ffordd hon am bron 11/2 milltir tan i chi gyrraedd Croesfan Old Tenby Road lle mae caffi ar y chwith. Trowch i’r chwith ac yna’n syth i’r dde gan ddilyn yr arwydd ar gyfer New Mill. Ewch ymlaen i fyny’r bryn a thu hwnt tan i chi gyrraedd cyffordd ‘T’

    25.4     Wrth y gyffordd ‘T’, trowch i’r chwith tuag at Dalacharn. Hanner ffordd i fyny’r bryn, trowch i’r dde ac ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon tan i chi gyrraedd ffordd yr A4066 i Dalacharn. Trowch i’r dde, a byddwch yn ofalus wrth feicio ar hyd y brif ffordd hon sy’n disgyn yn bennaf

    28.5     Wrth gyrraedd Talacharn, byddwch yn mynd heibio i Eglwys Sant Martin ar y chwith lle mae’r bardd a’r awdur Dylan Thomas wedi’i gladdu o dan groes wen syml. Ar ôl 1/4 milltir arall, trowch i’r chwith yn syth ar ôl Gwesty Brown (hoff dafarn Dylan Thomas). Ewch ar hyd y ffordd ymyl hon gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Tŷ Cychod Dylan Thomas, a fydd yn eich arwain at ffordd bengaead lle y gwelwch ei sied ysgrifennu enwog a’i gartref (y tŷ cychod) ar y pen. Mae’r ddau wedi cael eu gwarchod gan gadw’r dodrefn gwreiddiol a phethau cofiadwy. Ar ôl saib dewisol, dychwelwch ar hyd yr un llwybr a throwch i’r chwith yn union ar ôl y fynwent. Byddwch yn mynd heibio i fan arall lle y bu Dylan Thomas yn byw ar y dde – y tŷ tal o’r enw Seaview. Dyma lle’r oedd y bardd yn croesawu llu o bersonoliaethau gan gynnwys T.S. Elliot. Wrth y gyffordd ‘T’ ychydig y tu hwnt i Seaview, trowch i’r dde ac yna i’r chwith pan fyddwch yn cyrraedd y brif ffordd. Ewch ymlaen i lawr y bryn i ganol y dref fach, gan fynd heibio i’r fynedfa i Gastell Talacharn ar eich chwith. Ewch ymlaen i’r maes parcio ar y chwith i weld golygfeydd trawiadol o’r castell yn edrych dros aber Taf

    29.7     Ailymunwch â’r ffordd gyfagos gan droi i’r dde ac yna’n union i’r chwith heibio i’r groes garreg yn Sgwâr Grist. Dilynwch y ffordd droellog, gul ac eithaf serth i fyny allan o’r dref. Mae’r bryn oddeutu 1 filltir o hyd ac mae ei enw anarferol, sef The Lacques, yn ymwneud â’r les a arferai gael ei gwau gan y Ffleminiaid niferus a ymgartrefodd yn yr ardal.  Efallai y byddai’n well gan feicwyr llai abl ddod oddi ar eu beiciau a’u gwthio i fyny rhannau o’r bryn. Ni ddylai hyn ychwanegu mwy na 10 munud at hyd cyfan y daith ac fe allech deimlo’n fwy egnïol ar gyfer gweddill y Llwybr. Ar gopa’r bryn, ewch ymlaen i feicio am 3 milltir arall gan anwybyddu unrhyw droeon ffyrdd ymyl

    33.9     Ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Amroth. Ar ôl 11/4 milltir, trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ a dilynwch y ffordd hon am 4 milltir tan i chi gyrraedd pentref glan môr Amroth. Wrth fynd allan o’r pentref, dilynwch y ffordd i fyny’r bryn am 300 llathen a chymerwch y gyffordd gyntaf i’r chwith sy’n dangos arwydd Dim Ffordd Drwodd. Ar ôl 200 llathen arall eithaf serth, byddwch yn mynd trwy giât i ymuno â llwybr beicio sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir ar y chwith. Dilynwch y llwybr cyfan hwn, a arferai fod yn ffordd a oedd yn cysylltu pentrefi arfordirol ar un adeg tan i rannau ohoni ddisgyn i mewn i’r môr

    40.2     Ewch ymlaen trwy’r giât ar ddiwedd y llwybr ac i lawr y bryn, gan fynd i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Bydd hyn yn mynd â chi i lawr i bentrefan glan môr bach Wisemans Bridge. Ar ddiwedd y traeth, dilynwch y ffordd o amgylch i’r chwith a throwch i’r chwith trwy linell o folardiau i ymuno â’r llwybr Dramway (a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer rheilffordd a oedd yn cludo ‘dramiau’ o lo o byllau lleol i Harbwr Saundersfoot). Dilynwch y llwybr uchel hwn tan i chi gyrraedd twnnel. Wrth fynd ychydig ymhellach fe welwch ail dwnnel sy’n mynd â chi allan wrth ymyl traeth Neuadd Coppet a’r adeilad ‘Coast’. Dilynwch y llwybr o amgylch ochr dir y maes parcio i drydydd twnnel. Ni chaniateir beicio yn y twneli hyn, felly ewch oddi ar eich beic a gwthiwch ef drwodd i’r pen arall. Hefyd, gall y rhan hon o’r Llwybr fod yn brysur iawn gyda cherddwyr, felly byddwch yn ofalus. Wrth fynd allan o’r trydydd twnnel, byddwch yn cyrraedd cyrchfan arfordirol Saundersfoot. Ewch ymlaen yn syth ar hyd y ffordd heibio i nifer o siopau, a phan fydd yn troi, ewch yn syth ymlaen ar hyd ymyl maes parcio’r harbwr. Ar ôl tua 50 llathen, byddwch yn mynd heibio i hen adeilad Swyddfa Lo Saundersfoot ar y dde. Mae standiau beiciau ar gael gerllaw os hoffech aros i fynd am dro o amgylch y pentref

    41.9     Ychydig y tu hwnt i’r hen Dŷ Glo, trowch i’r dde wrth allanfa’r maes parcio ac yna i’r chwith i ymuno â’r brif ffordd. Ar y tro chwith ysgubol ar y bryn, ewch i’r lôn ganol a throwch i’r dde. Gall hyn fod yn symudiad anodd a braidd yn anghyfforddus i feicwyr llai hyderus. Os felly, fe allai fod yn well ganddynt fynd oddi ar eu beiciau cyn dechrau mynd i fyny’r bryn a gwthio eu beiciau ar hyd y llwybr troed gerllaw hyd at ac i mewn i’r gyffordd ffordd ymyl ar y dde. Dilynwch y ffordd ymyl hon allan o’r pentref

    42.9     Ymunwch â’r llwybr beiciau ar y chwith yn syth ar ôl y fynedfa i ganolfan arddio Sandyhill Nurseries a chyn y gyffordd â phrif ffordd yr A478. Dilynwch y llwybr hwn o amgylch i’r chwith wrth y gylchfan gyfagos a chroeswch ffordd y B4316 ychydig y tu hwnt i’r gyffordd sy’n dangos arwydd ar gyfer New Hedges. Ar ôl tua 50 llathen, bydd y llwybr yn cysylltu â’r ffordd sy’n arwain i lawr i bentref New Hedges. Dilynwch y ffordd hon trwy’r pentref

    43.7     Ym mhen pellaf New Hedges, ymunwch â’r llwybr ar y chwith yn union cyn i’r ffordd gysylltu â phrif ffordd yr A478. Ar ddiwedd y llwybr hwn, trowch i’r chwith i ymuno ag is-ffordd. Ar ôl 1/4 milltir, mae’r ffordd yn arwain at lwybr. Dilynwch y llwybr hwn tan iddo ledu i is-ffordd unwaith eto a fydd yn mynd â chi i lawr bryn eithaf serth i gyffordd â phrif ffordd sy’n arwain at Ddinbych-y-pysgod. Byddwch yn ofalus iawn wrth nesáu at y gyffordd hon ar y bryn a throwch i’r chwith i ymuno â’r brif ffordd pan fydd yn glir. Ar ôl pellter byr, trowch i’r chwith gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Maes Parcio Traeth y Gogledd.

    45.0     Gorffennwch ym Maes Parcio Traeth y Gogledd 

    Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    1. Dinbych-y-pysgod. Tref harbwr a chyrchfan glan môr brydferth sy’n llawn hanes hynafol ac y mae ei ‘Hen Dref’ wedi’i gwarchod gan furiau carreg canoloesol

    2. St Florence. Pentref bach dymunol a hen ffasiwn sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Normanaidd gyda bythynnod tlws a simneiau ‘Ffleminaidd’. Roedd yn borthladd llanw bach ar un adeg cyn i rwystr gael ei adeiladu rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun ym 1820

    3. Reynalton. Pentref bach gwledig tawel, sy’n wahanol iawn i 100 mlynedd yn ôl pan gloddiwyd am lo carreg o ansawdd uchel yma. Roedd ganddo ei reilffordd fwynau ei hun yn cysylltu’n ôl â’r harbwr yn Saundersfoot, hyd yn oed

    4. Talacharn. Tref glan afon ddarluniadwy fach yn Sir Gaerfyrddin, sy’n fwyaf adnabyddus am fod yn gartref i’r bardd a’r awdur Dylan Thomas. Yn ogystal â’r holl dai tlws, ceir hefyd gastell adfeiliedig o’r 13eg ganrif a’r Tŷ Cychod byd-enwog lle’r oedd Dylan Thomas yn byw a lle yr ysbrydolwyd cynifer o’i greadigaethau mawr

    5.  Amroth. Traeth tywodlyd hir, gwastad, hanner milltir o hyd lle y gwelir olion fforest foddedig betraidd pan fydd y llanw’n isel iawn. Cyn i’r amddiffynfeydd môr gael eu hadeiladu, achosodd stormydd gaeaf difrifol erydu mawr, gan sgubo cartrefi a busnesau ymaith ar yr ochr o’r ffordd trwy’r pentref sy’n wynebu’r môr

    6. Wisemans Bridge. Pentref bach arall y tu ôl i draeth tywodlyd eang gyda phyllau trai diddorol. Ar un adeg, roedd glo carreg o’r pyllau glo lleol yn cael ei lwytho ar fadlongau hwylio ar y traeth yn barod i fynd i ddinasoedd fel Bryste, Abertawe a Chaerdydd. Ymwelodd Winston Churchill a chadlywyddion y Cynghreiriaid â’r Wisemans Bridge Inn ym 1943 pan ddefnyddiwyd y traeth fel maes hyfforddi ar gyfer glaniadau D-Day

    7. Saundersfoot. Cyrchfan glan môr fach gyda thraeth tywodlyd euraid mawr. Mae’n llai na Dinbych-y-pysgod, ond mae ganddi swyn a chymeriad unigryw. Datblygwyd yr harbwr fel porthladd glo yn wreiddiol, ond caeodd y pyllau lleol a oedd yn ei gyflenwi dros 70 mlynedd yn ôl

    ID: 7086, revised 06/01/2021