COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws

Beicio Sir Benfro

| like '%%'|Route like '%%'

Llwybr Cefnwlad y Preseli

Overview
Information

    Dyma lwybr pellter hir diddorol o amgylch ardal bryniau’r Preseli yng Ngogledd Sir Benfro. Mae’n cychwyn ac yn gorffen ar lan y môr yn Wdig wrth ymyl mynedfa porthladd fferi Môr Iwerddon. Dyma hefyd ddechrau/diwedd Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN4). Mae’r llwybr yn cysylltu â NCN47 a NCN82, a Llwybr Dewisland, y Llwybr Aneddiadau, Llwybr yr Ymosodiad Olaf, Llwybr Meini Preseli a Llwybr Crymych. Mae’n dilyn cwrs Afon Gwaun i fyny trwy Gwm Gwaun ac ymlaen trwy gwm Afon Nyfer cyn dringo i fyny ac o amgylch godre dwyreiniol a deheuol bryniau’r Preseli. Heblaw am y golygfeydd gwych, mae cymaint i’w weld wrth i chi feicio ar hyd y llwybr hwn, gan gynnwys nifer o safleoedd hanesyddol, cymunedau anghysbell, a chymysgedd o dirweddau cyferbyniol o ddyffrynnoedd coediog hynafol i fynyddoedd a rhostiroedd 

    Ffeil Ffeithiau
    Uchafbwyntiau:

    Llwybr pellter hirach golygfaol drwy dirweddau hudolus godreon bryniau’r Preseli. Byddwch yn ymweld â phentrefi anghysbell, coetiroedd hynafol, rhostiroedd a nifer o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol

    Gradd: Egnïol

    Pellter:

    51 milltir (81 cilometr)

    Amser: Diwrnod cyfan – gan gynnwys amser ar gyfer seibiau byr
    Man cychwyn/gorffen

    Maes Parcio’r Parrog, Wdig (Cyfeirnod Grid SM946380, Llywio â Lloeren SA64 0DE). Codir tâl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Ar ffordd yr A40 ar lan y môr yn Wdig, trowch wrth y gylchfan tuag at derfynfa’r fferi a throwch i’r dde eto wrth y gylchfan gyfagos. Mae’r maes parcio ar y chwith. Mae maes parcio am ddim arall ar gael ar ochr arall ffordd yr A40 y tu ôl i’r orsaf betrol

    Grsaf Drenau Agosaf:

    Abergwaun ac Wdig, 200 llath. Mae llwybr beiciau yn arwain i lawr at ddechrau’r llwybr

    Tirwedd: Yn bennaf ar ffyrdd gwledig tawel ond gyda rhan fer iawn ar hyd y briffordd trwy Abergwaun (terfyn cyflymder 20 mya) ger y man cychwyn a rhan 31/2 milltir o hyd (i lawr allt yn gyffredinol) ar hyd ffordd dawelach yr A487 wrth nesáu at Wdig ar y diwedd. Mae’r graddiannau yn weddol fas ar y cyfan ond maent yn fwy serth mewn mannau, yn enwedig ger dechrau’r llwybr, wrth nesáu at Bentre Ifan, ac mewn lleoliadau lle mae’r llwybr yn codi allan o rai o’r cymoedd. Ni ddylai unrhyw un o’r bryniau hyn fod yn broblem i unrhyw un sydd wedi arfer â beicio, ond mae’n bosibl y byddwch yn dymuno gwthio’ch beic i fyny rhai o’r rhannau mwyaf serth os byddwch chi’n eu cael yn anodd. Mewn gwirionedd, ni fydd hyn yn ychwanegu’n sylweddol at hyd y daith a bydd yn rhoi rhywfaint o saib o feicio a chyfle i fwynhau’r golygfeydd
    Codiad tir:

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 1215 metr

    Lluniaeth:

    Wdig, Abergwaun a Maenclochog

    Toiledau:

    Wdig, Abergwaun, Maenclochog, a chyfleusterau i gwsmeriaid ar hyd y llwybr (mewn tafarnau yn bennaf)

     

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0       Man cychwyn. Ymunwch â llwybr y promenâd o flaen y maes parcio a throwch i’r dde gan ddilyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN4). Ar ddiwedd glan y môr, dilynwch y llwybr beicio i fyny’r bryn, croeswch y briffordd a pharhewch ar y llwybr beicio i fyny trwy ardal goediog a thu hwnt hyd nes i chi gyrraedd y gyffordd â NCN47. Trowch i’r chwith i NCN4 a pharhewch ar y llwybr i fyny’r bryn

    1.2       Lle mae’r llwybr yn ymuno â ffordd, trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd hon am bron i 300 llath. Wrth y gyffordd ‘T’ ychydig y tu hwnt i orsaf dân, trowch i’r dde. Cymerwch ofal ar y rhan nesaf hon gan ei bod yn briffordd, er bod terfyn cyflymder o 20 mya ar waith. Ar ôl 1/4 milltir, trowch i’r chwith ar y gylchfan ar Sgwâr Abergwaun. Trowch i’r dde ychydig ar ôl yr eglwys ac i’r chwith wrth y gyffordd nesaf gan ddilyn arwyddion NCN47. Dilynwch y ffordd hon allan o’r dref gan anwybyddu unrhyw gyffyrdd â ffyrdd ochr

    3.8       Ewch ymlaen trwy bentref bach Llanychaer ac ar ôl 1/2 milltir dilynwch y ffordd o gwmpas i’r chwith. Ychydig gannoedd o lathenni ar ôl y tro hwn, edrychwch am yr hen ffermdy (Garn) ar y dde sydd ag un o’r ‘simneiau Ffleminaidd’ mewn cyflwr da gorau yng Nghymru. Chwarter milltir ymhellach ymlaen, trowch i’r chwith i ffordd ochr ag arwydd NCN82 a Chwm Gwaun (Gwaun Valley). Dilynwch y ffordd i lawr i’r cwm, dros bont gul, ac wedyn ar hyd llawr y cwm am oddeutu 5 milltir, gan godi allan o’r cwm unwaith eto yn y pen pellaf

    10.3     Ym mhentrefan bach iawn Cilgwyn, trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Trefdraeth. Byddwch chi’n mynd heibio Canolfan Ymwelwyr Bragdy Bluestone ar eich ochr chwith. Ar ôl 250 llath, trowch i’r dde i ffwrdd o NCN82 gan ddilyn arwydd Nanhyfer. Ewch ymlaen ar y ffordd hon am dros 11/2 milltir gan anwybyddu unrhyw droadau ochr

    12.1     Ar y groesffordd ag arwyddion, trowch i’r dde ac i’r dde eto ar ôl 11/4 milltir gan ddilyn arwyddion y Siambr Gladdu. Ewch ymlaen i fyny’r bryn eithaf serth am bron i 3/4 milltir ac mae Siambr Gladdu Pentre Ifan ar hyd llwybr byr i’r dde. Mae standiau beiciau ar gael wrth ochr y ffordd. Ar ôl ymweld os dymunwch, ewch ymlaen ar y ffordd am bron i filltir

    14.9     Trowch i’r chwith ar y groesffordd (ar ôl mynd heibio hen ysgol ar y dde). Ar ôl bron i 1/2 milltir, ewch ymlaen heibio arwydd ‘Anaddas i Gerbydau Llydan’. Wrth i chi ddisgyn yn serth i lawr y ffordd droellog i mewn i gwm, byddwch yn gweld brigiad creigiog Craig Rhos-y-felin yn union o’ch blaen. Mae’r ffordd yn disgyn i ryd – defnyddiwch y bont droed ar y dde i osgoi gwlychu. Gellir cael mynediad i Graig Rhos-y-felin ar lwybr troed ar y dde ychydig cyn y rhyd. Ar ben y bryn (ar ôl y rhyd) trowch i’r chwith ac ewch ymlaen yn ofalus ar hyd y briffordd am 1/4  milltir

    16.5     Ym mhentrefan bach Ffynnongroes, trowch i’r dde ar y groesffordd. Ewch ymlaen ar y ffordd hon am ychydig dros 3 milltir gan anwybyddu pob troad ffordd ochr

    19.7     Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac i’r dde eto ar ôl 200 llath. Bydd Foel Drygarn â’i fryngaerau i’w weld yn glir ar y dde o’ch blaen. Ar ôl 11/4 milltir arall trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’. Mae dau lwybr mynediad ar gyfer cerdded i fyny i Foel Drygarn ar y dde tua 300 llath y tu hwnt i’r gyffordd hon. Ar ôl 2 filltir arall byddwch yn mynd trwy bentref Mynachlog-ddu. Ym mhen draw’r pentref, trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Rosebush. Ar ôl ychydig dros 1/4  milltir, edrychwch am Garreg Waldo ar y chwith a Heneb y Meini Gleision ar y dde. Ewch ymlaen dros grid gwartheg a dilynwch dro siarp i’r chwith. Anwybyddwch y gyffordd gyntaf i’r chwith tua 1/2 milltir y tu hwnt i’r tro hwn ac ewch ymlaen wrth y gyffordd nesaf i’r chwith

    26.8     Trowch i’r chwith i’r ffordd ochr a dilynwch y ffordd syth hon am 1/2 milltir. Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac ymlaen i bentref Maenclochog. Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ yn y pentref wrth ymyl y caffi (mae toiledau cyhoeddus yn y maes parcio, 70 llath i’r chwith). Ewch ymlaen allan o’r pentref a chymryd y troad cyntaf i’r chwith gan ddilyn arwydd Tufton. Yn fuan, mae’r ffordd yn mynd dros hen bont a heibio fferm ar y chwith. Trowch i’r chwith yn syth ar ôl y fferm hon

    30.3     Ar y groesffordd, trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Llys-y-frân. Trowch i’r dde wrth y gyffordd nesaf gan ddilyn arwydd Tufton (mae arwydd ‘Anaddas i Gerbydau Hir’ yno hefyd). Ar ôl disgyn i gwm a chodi allan ohono, anwybyddwch y gyffordd ffordd ochr ar y dde. Ewch ymlaen i mewn i gwm arall ac allan ohono a byddwch yn cyrraedd croesffordd. Ewch yn syth ymlaen dros y briffordd gan ddilyn arwydd Treletert. Lai na 1/2 milltir ymhellach ymlaen, trowch i’r dde ar y groesffordd gan ddilyn arwydd Cas-fuwch

    35.2     Yng Nghas-fuwch, ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd ar hyd y ffordd gydag arwydd uchdwr isel. Mae’r 21/2  milltir nesaf hon o’r llwybr yn mynd trwy gymuned anghysbell Morfil ac mae’n bosibl y bydd gât ar draws y ffordd y bydd angen ei hagor. Peidiwch ag anghofio ei chau eto ar ôl mynd heibio. Cyn mynd i lawr i’r cwm, mae’n bosibl y byddwch yn gweld llwybr hen reilffordd segur Gogledd Sir Benfro ac Abergwaun ar ochr arall llawr y cwm. Bu’r rhan hon yn weithredol rhwng 1899 a 1952 ac mae iddi hanes diddorol iawn. Gobeithir y gellir ei hadfer fel llwybr cerdded a beicio yn y dyfodol, o bosibl fel gwelliant i NCN47

    37.7     Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ a pharhewch ar hyd y ffordd hon am bron i 2 filltir hyd nes y dewch i bentref Cas-mael. Trowch i’r dde ychydig ar ôl y Drovers Arms gan ddilyn arwydd Trecŵn. Bydd y ffordd hon yn mynd â chi heibio darn o rostir gyda golygfa bell o fryniau’r Preseli i’r dde. Ar ôl tua 2 filltir, dilynwch y ffordd o gwmpas y tro i’r chwith (anwybyddwch y gyffordd i’r dde) ac ar ôl tua 1/4 milltir arall, trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Wedyn, ar ôl 50 llath trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Treletert ac ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd nesaf ar hyd y ffordd gydag arwydd uchdwr isel

    44.4     Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ i briffordd yr A40 ac wedyn trowch i’r dde ar ôl 50 llath gan ddilyn arwydd Mathri. Cymerwch ofal mawr oherwydd mae’r briffordd hon yn gallu bod yn eithaf prysur ar brydiau. Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno dod oddi ar eich beic a’i wthio ar hyd rhan o ymyl y briffordd a chroesi drosodd yn uniongyrchol i’r ffordd ochr pan fydd y briffordd yn glir. Ewch ymlaen ar y ffordd ochr am ychydig dros 1/4 milltir a throwch i’r dde ar y groesffordd. Ar ôl ychydig dros 11/2 milltir byddwch yn pasio Eglwys Trefwrdan ar eich ochr chwith

    46.8     Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd gan ddilyn arwydd Wdig. Ar ben y bryn, ac yn union wrth ymyl y gwrych ar eich ochr chwith, mae’n bosibl y gallwch weld golygfa o glostir mawr â chloddiau o’i amgylch o’r Oes Haearn o’r enw Castell Hendre-wen. Ewch ymlaen i’r gyffordd ‘T’ a throwch i’r dde i ffordd yr A487. Dilynwch y ffordd hon (yn ofalus) am ychydig dros 2 filltir hyd nes y dewch i Wdig

    49.8     Ar ôl pasio arwydd enw lle ‘Wdig’, trowch i’r dde i lôn ag arwydd Ivybridge. Ar ôl mynd o dan yr hen bont, ymunwch â llwybr beicio ar y chwith a dilynwch hwn yr holl ffordd i’r llwybr glan môr yn Wdig gan fod yn ofalus wrth groesi priffordd yr A40. Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr yn ôl ar hyd y promenâd

    50.7     Gorffennwch ym Maes Parcio’r Parrog 

    Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    1. Mynydd Preseli. Nifer o fryniau (neu fynyddoedd) wedi’u ffurfio o greigiau igneaidd folcanig caled iawn. Y brigiadau uchel yn y pen dwyreiniol yw ffynhonnell cerrig gleision Côr y Cewri. Oherwydd eu lleoliad strategol rhwng Iwerddon a Phrydain, daeth bryniau’r Preseli i’r amlwg fel un o ganolfannau mawr y diwylliant Celtaidd. Mae’r bryniau’n frith o garneddau a meini hirion. Mae llawer o hen straeon y Mabinogi wedi’u canoli yma ac mae straeon am y Brenin Arthur yn gyffredin

    2. Wdig. Bu gynt yn bentref pysgota bach, ond bellach mae’n gartref i derfynfa fferi Môr Iwerddon ac arddangosfa bywyd gwyllt morol Ymddiriedolaeth y Môr yn Ocean Lab wrth ochr y llwybr. Traeth Wdig oedd man ymgynnull llu ymosod o Ffrainc cyn iddo ildio ym 1797

    3. Abergwaun. Tref farchnad gyda harbwr bach hardd gerllaw. Wrth ymyl y llwybr yn Sgwâr Abergwaun mae Neuadd y Dref lle gallwch weld Tapestri enwog yr Ymosodiad Olaf, sy’n 100 troedfedd o hyd

    4. Cwm Gwaun. Cwm dwfn â choedwigoedd ffawydd ar hyd ei ochrau. Ffurfiwyd y cwm yn ystod oes yr iâ, ac weithiau cyfeirir ato fel y cwm cudd. Yn sicr, mae’n gam yn ôl mewn amser – mae pobl leol yn dal i gadw at galendr Iŵl fel yr oedd cyn 1752, ac maen nhw’n dathlu’r Flwyddyn Newydd yng nghanol mis Ionawr

    5. Pentre Ifan. Heb os, dyma’r safle megalithig mwyaf poblogaidd yng Nghymru gyda lleoliad sy’n wirioneddol drawiadol. Mae’r siambr gladdu/cromlech ysblennydd yn dyddio’n ôl i tua 3500 CC

    6. Craig Rhos-y-felin. Brigiad creigiog nodedig o fewn dyffryn dwfn diarffordd. Tarddodd o leiaf un o gerrig gleision enwog Côr y Cewri o’r safle hwn

    7. Foel Drygarn. Bryngaer o’r Oes Efydd hwyr (â thair carnedd ar y brig) a saif ym mhen draw bryniau’r Preseli. Mae’n un o’r bryngaerau mwyaf dramatig o ran lleoliad a mwyaf trawiadol yng Nghymru

    8. Mynachlog-ddu. Cymuned fach lle, yn y 19eg ganrif, y cychwynnodd y pentrefwyr wrthryfel mewn gwrthwynebiad i’r Deddfau Tyrpeg – dyma oedd dechrau Terfysg Rebeca, a ymledodd yn ddiweddarach o amgylch llawer o’r wlad. Ychydig ar ôl gadael y pentref, byddwch yn mynd heibio Heneb y Meini Gleision a Charreg Goffa Waldo er cof am un o feirdd pwysicaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif

    9. Maenclochog. Pentref sydd wedi’i enwi ar ôl creigiau yn yr ardal sydd â nodwedd gerddorol ac sy’n gallu canu fel cloch neu gong wrth gael eu taro. Defnyddiwyd twnnel rheilffordd segur ychydig i’r de o’r pentref fel safle profi bom sboncio Barnes Wallis yn ystod yr Ail Ryfel Byd

    10. Morfil. Man unig â gwasgariad o ffermydd – cyfeirir ato weithiau fel ‘y pentref coll’. Mae’n nodedig yn bennaf oherwydd straeon am bobl yn gweld brwydrau rhithiol yn yr awyr uwchben Mynydd Morfil, sef y bryn sydd o’ch blaen wrth i chi feicio i lawr i’r cwm

    11. Cas-mael. Pentref anghysbell sydd â chysylltiad cryf â hen ddyddiau’r porthmyn, y cyfeiriwyd atynt ar un adeg fel ‘cowbois’ Gorllewin Gwyllt Cymru. Defnyddiwyd llwybrau’r porthmyn i symud gwartheg ar draws y wlad gan gadw’n glir rhag y nifer cynyddol o ffyrdd tyrpeg er mwyn osgoi talu tollau

    12. Eglwys Trefwrdan. Eglwys fach wedi’i chysegru i Sant Cwrda, sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif. Mae gan yr eglwys gysylltiad â nifer o gymeriadau hanesyddol, gan gynnwys David Lloyd George (Prif Weinidog 1916 – 1922). Roedd ei deulu’n ffermio yma ac mae ei dad, ei neiniau, ei deidiau a pherthnasau eraill wedi’u claddu ym mynwent yr eglwys

    ID: 5882, revised 03/02/2020