COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws

Beicio Sir Benfro

| like '%%'|Route like '%%'

Llwybr Dewisland

Overview
Information

    Llwybr pellter hir golygfaol sy’n archwilio ardal arfordirol gogledd orllewin Sir Benfro gan ymweld â Thyddewi, sef y ddinas leiaf ym Mhrydain, ar y ffordd. Mae’n cychwyn ac yn gorffen ar lan y môr yn Wdig wrth ymyl porthladd fferi Môr Iwerddon. Dyma hefyd fan cychwyn/gorffen Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n rhedeg am 432 milltir i Greenwich yn Llundain ac oddi yno. Ar Lwybr Dewisland, byddwch yn mwynhau golygfeydd mewndirol ac arfordirol syfrdanol, nifer o bentrefi tlws, maes awyr segur o’r Ail Ryfel Byd, melinau gwlân, gwarchodfeydd natur a nifer o gilfachau arfordirol deniadol, safleoedd hanesyddol a golygfannau. Mae’r llwybr yn cysylltu’n uniongyrchol â Llwybr Cefnwlad y Preseli, y Llwybr Aneddiadau, Llwybr yr Ymosodiad Olaf, Llwybr Gorllewin y Ddinas a Llwybr Maes Awyr Tyddewi

     

    Ffeil Ffeithiau
    Uchafbwyntiau:

    Dewch i ddarganfod harddwch mewndirol ac arfordirol syfrdanol gogledd orllewin Sir Benfro, a elwid gynt yn Dewisland ac sy’n gartref i’r ddinas leiaf ym Mhrydain. Bydd y daith hirach hon yn mynd â chi drwy ardal o ddiddordeb golygfaol a diwylliannol, sydd â’i gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i’r cyfnod Cristnogol a Cheltaidd cynnar a thu hwnt

    Gradd: Egnïol

    Pellter:

    50 milltir (80 cilometr)

    Amser: Diwrnod cyfan – gan gynnwys amser ar gyfer seibiau byr mewn mannau penodol o ddiddordeb
    Man cychwyn/gorffen Maes Parcio’r Parrog, Wdig (Cyfeirnod Grid SM946380, Llywio â Lloeren SA64 0DE). Codir tâl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Ar ffordd yr A40 ar lan y môr yn Wdig, trowch wrth y gylchfan tuag at derfynfa’r fferi a throwch i’r dde eto wrth y gylchfan gyfagos. Mae’r maes parcio ar y chwith. Mae maes parcio am ddim arall ar gael ar ochr arall ffordd yr A40 y tu ôl i’r orsaf betrol
    Grsaf Drenau Agosaf:

    Abergwaun ac Wdig, 200 llath. Mae llwybr beiciau yn arwain i lawr at ddechrau’r llwybr

    Tirwedd: Yn bennaf ar ffyrdd gwledig tawel gyda rhannau byr ar ffordd yr A487 yn Solfach a Thyddewi. Mae graddiannau’n esmwyth yn gyffredinol ond yn fwy serth mewn mannau, yn enwedig ger dechrau’r llwybr ac yn arbennig mewn lleoliadau lle mae’r llwybr yn mynd trwy gymunedau bach arfordirol. Ni ddylai unrhyw un o’r bryniau hyn fod yn broblem i unrhyw un sydd wedi arfer â beicio. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn dymuno gwthio’ch beic i fyny rhai o’r rhannau mwyaf serth os byddwch chi’n eu cael yn anodd, a dylech gymryd gofal arbennig ar unrhyw rannau serth tuag i lawr. Mewn gwirionedd, ni fydd dod oddi ar eich beic ar fryniau serth yn ychwanegu’n sylweddol at hyd y daith a bydd yn rhoi rhywfaint o saib o feicio a chyfle i fwynhau’r golygfeydd
    Codiad tir:

    Cyfanswm pellter dringo (cyfanswm yr holl adrannau i fyny allt) - 905 metr

    Lluniaeth:

    Wdig, Solfach, Felinganol, Tyddewi, Porthstinian, Porth Mawr, Porth-gain, Tre-fin, Tre-gwynt (ar gael yn dymhorol yn unig mewn rhai                         mannau)

    Toiledau:

    Wdig, Solfach, Tyddewi, Porth Mawr, Porth-gain, Abercastell, a rhai cyfleusterau i gwsmeriaid ar hyd y llwybr

     

    Cyfarwyddiadau'r Llwybr (pellter mewn milltiroedd)

    0.0       Man cychwyn. Ymunwch â llwybr y promenâd o flaen y maes parcio a throwch i’r dde. Mae’r Llwybr yn dilyn Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN4) i ddechrau, felly bydd yr arwyddion perthnasol yn helpu gyda chyfarwyddiadau. Ar ddiwedd glan y môr, dilynwch y llwybr beicio i fyny’r bryn, croeswch y briffordd ac ewch i fyny trwy ardal goediog  a thu hwnt hyd nes i chi gyrraedd y gyffordd â NCN47. Ewch yn syth ymlaen ar hyd NCN4

    1.3       Trowch i’r dde o dan bont ac wedyn i’r chwith ar unwaith, i lwybr beicio gweddol serth arall. Ar ben y bryn, mae’r llwybr yn rhedeg ochr yn ochr â phriffordd cyn cysylltu â ffordd ochr. Croeswch y ffordd ochr hon (gan adael NCN4), yna croeswch y briffordd a pharhewch i’r dde ar hyd y llwybr

    3.0       Ym mhentref Scleddau, croeswch y briffordd eto a pharhewch i’r chwith am 30 llath cyn troi i’r dde i ffordd fach wrth ochr The Gate Inn. Ar ôl bron i 1/2 milltir, trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’. Ewch ymlaen ar y ffordd hon o dan bont reilffordd ac i fyny’r bryn. Trowch i’r chwith ar yr ail groesffordd 11/2 milltir y tu hwnt i’r bont reilffordd, h.y. y gyffordd gyferbyn â fferm. Ar ôl mynd trwy bentrefan Llangloffan gyda chapel ar y chwith, ewch ymlaen i lawr y bryn a thros bont gul Llangloffan. Ar eich chwith, mae un o’r mynedfeydd i gerddwyr i Warchodfa Natur Corsydd Llangloffan. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd ac i fyny’r bryn i Gasmorys

    6.9       Ewch yn syth ymlaen ar groesffordd Casmorys gan ddilyn arwydd Croes Cas-lai. Ar ôl gadael y pentref, anwybyddwch y cyffyrdd ar y naill ochr a’r llall wrth Fferm a Bythynnod Penfeidr. Ewch ymlaen i groesffordd a throwch i’r dde. Dilynwch y ffordd hon ac anwybyddwch gyffordd i’r chwith a chyffordd i’r dde ychydig ymhellach ymlaen. Dilynwch y ffordd o gwmpas i’r chwith wrth yr ail gyffordd hon ac ewch ymlaen i gyffordd ‘T’ ychydig y tu hwnt i fwthyn bach.

    10.1     Cadwch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ a dilynwch y ffordd hon o gwmpas i’r dde ar ôl 100 llath. Ewch ymlaen am 1/2 milltir ac wedyn trowch i’r dde (gan ddilyn arwydd Solfach). Ewch ymlaen yn syth ar y groesffordd nesaf (gan ddilyn arwydd Solfach unwaith eto) a pharhewch am 2.7 milltir gan anwybyddu pob troad ochr. Trowch i’r chwith 250 llath y tu hwnt i Barc Birtwick (gan ddilyn arwydd Solfach unwaith eto). Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd nesaf

    15.2     Wrth y gyffordd ‘T’ â phriffordd yr A487, trowch i’r dde i gyfeiriad Tyddewi. Beiciwch yn ofalus i lawr y bryn eithaf cul a serth i mewn i bentref Solfach, dros y bont ac ar hyd y brif stryd i’r maes parcio ar y chwith. Ar ôl saib os dymunwch er mwyn crwydro’r harbwr, trowch i’r dde allan o’r maes parcio ac yn ôl ar hyd y brif stryd. Trowch i’r chwith cyn y bont (gan ddilyn arwydd Felinganol). Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon am filltir hyd nes y cyrhaeddwch y pentrefan a Melin Wlân Solfach ar y dde

    17.1     Ar ôl saib os dymunwch, ewch ymlaen ar yr un ffordd i fyny’r bryn allan o’r pentrefan. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ nesaf ac ar ôl tua 1/3 milltir byddwch yn gweld man parcio wrth ochr y ffordd ar y dde. Ewch drwy’r gât gyfagos a dilynwch y llwybr o amgylch perimedr y maes awyr segur gan gadw’r cylch meini ar eich ochr chwith. Trowch i’r dde pan fydd y llwybr yn ailymuno â’r ffordd. Anwybyddwch y troad cyntaf i’r chwith (i Fachelych) a throwch i’r chwith wrth yr ail gyffordd a pharhewch hyd nes y cyrhaeddwch gyffordd ‘T’ yn Nhyddewi

    20.9     Trowch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ a beiciwch yn ofalus ar hyd ffordd yr A487. Ewch yn syth ymlaen wrth y gylchfan fach ac i lawr i’r ddinas. Byddwch yn pasio Oriel y Parc ar y chwith. Cadwch i’r chwith ym mhen isaf Sgwâr y Groes gan ddilyn arwydd Porth Clais. Ewch ymlaen allan o ganol y ddinas gan basio cyffordd â ffordd ochr ar y chwith sy’n arwain at Gapel Non (gallwch ddilyn taith gron 1/2 milltir os dymunwch, i weld man geni Dewi Sant, nawddsant Cymru). Ganllath y tu hwnt i gyffordd Capel Non, trowch i’r dde i lawr yr allt ac wedyn i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ (mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Llys yr Esgob i lawr lôn fer ar y dde). Ewch ymlaen i lawr dros y bont ac i fyny’r bryn ar yr ochr arall am 1/4 milltir

    21.9     Trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Treginis. Ar y groesffordd, trowch i’r dde gan ddilyn arwydd Porthstinian, ac wrth y gyffordd ‘T’ nesaf, trowch i’r chwith ac ewch ymlaen i Borthstinian

    23.9     Trowch yn ôl ym Mhorthstinian ac ewch yn ôl ar hyd yr un ffordd. Ar ôl pasio dwy gyffordd ar y dde, trowch i’r chwith wrth y gyffordd nesaf gan ddilyn arwydd Traeth Mawr. Ar ôl tua 1/4 milltir, dilynwch dro siarp i’r chwith. Ewch ymlaen ar y ffordd hon tuag at Draeth Mawr, ac wrth y gyffordd ‘T’ nesaf dilynwch yr arwydd i’r chwith. Wedyn, ar ôl bron i 1/4 milltir, trowch i’r dde oddi ar ffordd Traeth Mawr gan ddilyn arwydd yr Hostel Ieuenctid (gellir gwneud taith 1/2 milltir i lawr i Draeth Mawr os dymunwch, i weld golygfeydd neu ar gyfer toiledau/lluniaeth)

    26.7     Ar ôl troi i’r ffordd ochr gan ddilyn arwydd yr Hostel Ieuenctid, anwybyddwch  arwydd nesaf yr Hostel Ieuenctid ac ewch ymlaen ar hyd yr un ffordd hyd nes i chi gyrraedd cyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith, ac i’r chwith eto wrth y gyffordd ‘T’ nesaf gan anwybyddu cyffyrdd ochr eraill i’r chwith. Ewch ymlaen ar y ffordd hon am dros 4 milltir hyd nes i chi gyrraedd pentrefan Llanrhian

    32.9     Yn Llanrhian, trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Porth-gain. Ym Mhorth-gain, cadwch i’r chwith wrth y ciosg ffôn coch, gan fynd i lawr i’r harbwr. Ewch mewn cylch hyd nes i chi basio’r ciosg ffôn unwaith eto a dychwelwch ar hyd yr un ffordd i fyny at groesffordd Llanrhian. Trowch i’r chwith

    36.0     Ar waelod y bryn byddwch yn pasio’r llwybr byr i lawr i Aberfelin ar eich chwith. Ewch ymlaen i fyny’r bryn i bentref Tre-fin. Cadwch i’r chwith ym mhen draw’r pentref gan ddilyn arwydd Abercastell. Tua 1/3 milltir y tu hwnt i’r pentref, mae lôn ar y chwith sy’n arwain at The Longhouse. Os dewiswch, bydd gwyriad byr o’r llwybr (500 llath) yn mynd â chi at gromlech Carreg Samson mewn cae i’r dde o fuarth y fferm. Bydd angen i chi gerdded pellter byr ar hyd llwybr troed cyhoeddus o ddiwedd tramwyfa’r fferm i gyrraedd Carreg Samson ei hun. Ar ôl dychwelyd i’r llwybr, ewch ymlaen i lawr y ffordd i bentref glan môr Abercastell

    37.4     Ar waelod y bryn yn Abercastell, ceir mynediad i’r harbwr ar ffordd bengaead 100 llath o hyd ar y chwith. Wedyn, ewch ymlaen i fyny’r bryn a thu hwnt hyd nes i chi gyrraedd croesffordd. Trowch i’r chwith gan ddilyn arwydd Abermawr. Ar ôl tua milltir ac ar waelod bryn arall, fe welwch lwybr sy’n arwain i’r chwith ar ochr allanol tro ger rhai bythynnod. (Os bydd amser yn caniatáu, gellir gwneud gwyriad byr ar hyd y llwybr hwn ar droed trwy Goedwig Pen-yr-allt i draeth Abermawr – pellter o 1/2 milltir). Ewch ymlaen ar hyd y llwybr, heibio’r bythynnod ac i fyny’r bryn i gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith

    41.1     Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd ac i’r chwith wrth y gyffordd nesaf gan ddilyn arwyddion Melin Wlân Tregwynt. Dilynwch y ffordd o gwmpas i’r chwith ychydig y tu hwnt i’r felin a throwch i’r dde wrth y gyffordd ‘T’ ac i fyny’r bryn

    43.5     Trowch i’r chwith wrth y gyffordd ‘T’ ac yn syth i’r chwith eto gan ddilyn arwydd Pwll Deri a’r Hostel Ieuenctid. Yn dilyn saib fer ym Mhwll Deri, trowch yn ôl a dilynwch y ffordd yn ôl i’r gyffordd gyntaf ar y chwith wrth ochr bwthyn. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd hon, ac wedyn i’r chwith eto ger y bwthyn nesaf. Ewch ymlaen ar y ffordd hon am ychydig dros 11/2 milltir gan anwybyddu’r troad i’r chwith i Ben-caer

    46.6     Trowch i’r dde wrth y gyffordd â ffordd Rhos-y-caerau. Anwybyddwch y gyffordd nesaf ar y dde ac ewch ymlaen i’r gyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith ac wedyn i’r dde wrth y gyffordd nesaf

    49.2     Ewch yn syth ymlaen ar draws y briffordd i lôn ag arwydd Ivybridge. Ar ôl mynd o dan yr hen bont, ymunwch â llwybr beicio ar y chwith a dilynwch hwn yr holl ffordd i’r llwybr glan môr yn Wdig gan gymryd gofal wrth groesi priffordd yr A40. Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr yn ôl ar hyd y promenâd

    50.0     Gorffennwch ym Maes Parcio’r Parrog 

    Pethau o ddiddordeb ar hyd y Ffordd

    1. Wdig. Bu gynt yn bentref pysgota bach, ond bellach mae’n gartref i derfynfa fferi Môr Iwerddon ac arddangosfa bywyd gwyllt morol Ymddiriedolaeth y Môr yn Ocean Lab wrth ochr y llwybr. Traeth Wdig oedd man ymgynnull llu ymosod o Ffrainc cyn iddo gael ei drechu ac felly ildio ym 1797

    2. Gwarchodfa Natur Corsydd Llangloffan. Ceir llwybrau estyll a phaneli gwybodaeth ar y safle 50 erw hwn sy’n un o’r mignenni dyffryn mwyaf sydd wedi goroesi yng Nghymru, ac mae’n gynefin prin i lawer o rywogaethau a geir yma yn Sir Benfro yn unig. Mae ar gau weithiau am resymau ecolegol

    3. Solfach. Pentref pysgota bach hyfryd sydd â harbwr trawiadol a llu o siopau crefftau, orielau a thai bwyta diddorol

    4. Felinganol. Clwstwr bach o adeiladau tlws wrth ymyl Afon Solfach, gan gynnwys y felin wlân weithredol hynaf yn Sir Benfro

    5. Maes Awyr Tyddewi. Maes awyr segur o’r Ail Ryfel Byd a ddefnyddiwyd fel Canolfan Rheoli Arfordirol y Llu Awyr Brenhinol yn ystod Brwydr yr Iwerydd. Bellach, mae wedi’i adfer a’i dirlunio fel cynefin bywyd gwyllt

    6. Tyddewi. Y ddinas leiaf ym Mhrydain, gydag Eglwys Gadeiriol, Llys yr Esgob a safleoedd treftadaeth Gristnogol a Cheltaidd cynnar eraill gerllaw. Mae canol hanesyddol y ddinas yn llawn orielau, siopau anrhegion a chaffis. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld ag oriel tirwedd a chanolfan ymwelwyr Oriel y Parc wrth i chi ddod i mewn i’r ddinas

    7. Porthstinian. Lleoliad trawiadol sydd â dwy orsaf bad achub ac adfeilion capel canoloesol yn nodi man claddu honedig Sant Stinian o’r 6ed ganrif (ar dir preifat)

    8.  

      Traeth Mawr. Traeth eang o dywod mân gyda brigiad folcanig mawreddog Carn Llidi yn codi uwchlaw iddo. Dywedir i Sant Padrig hwylio o Draeth Mawr i Iwerddon yn y 5ed ganrif ar ôl cael gweledigaeth o droi Iwerddon at Gristnogaeth

    9. Porth-gain. Pentref bach poblogaidd â harbwr. Bu gynt yn borthladd diwydiannol prysur yn allforio llechi, brics a cherrig ffyrdd   

    10. Aberfelin. Cildraeth bach garw lle mae adfeilion melin rawn

    11.  

      Carreg Samson. Cromlech Neolithig sy’n 5,000 mlwydd oed. Saif mewn lleoliad godidog yn edrych dros y bae

    12. Abercastell. Pentref bach tlws â thraeth, wedi’i leoli mewn cildraeth cysgodol. Yr harbwr oedd safle glanio’r dyn cyntaf i hwylio dros Fôr Iwerydd ar ei ben ei hun (o’r gorllewin i’r dwyrain) ym 1876

    13. Pen-yr-allt. Gwyriad byr hyfryd ar droed trwy goedwigoedd yn llawn clychau’r gog hudolus i Draeth Abermawr, sef safle arfaethedig porthladd trawsiwerydd a therfynfa reilffordd Brunel, ond ni wireddwyd y cynlluniau

    14.  

      Melin Wlân Tregwynt. Melin weithredol ddiddorol â siop a chaffi

    15. Pwll Deri. Lleoliad swynol ar glogwyn, â golygfeydd gwych ar hyd arfordir Dewisland i lawr i Dyddewi 

    ID: 5726, revised 17/03/2020