Paratowyd yn unol â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol.
Cytunwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ar 17 Gorffennaf 2018.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro
Cylch Gorchwyl
Statws
1. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro (“y Bwrdd”) yn fwrdd statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diben
2. Diben y Bwrdd yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro.
3. Wrth anelu at gyflawni’r diben hwn, bydd y Bwrdd yn cyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol, sef:
· Cymru lewyrchus
· Cymru gydnerth
· Cymru iachach
· Cymru sy’n fwy cyfartal
· Cymru o gymunedau cydlynus
· Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
· Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
4. Wrth gyflawni ei fusnes, bydd y Bwrdd yn gweithredu’n unol â’r ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’, hynny yw, bydd yn gweithredu mewn modd sy’n sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau a gweithio mewn ffyrdd sy’n ystyried y canlynol:
· Hirdymor: pwysigrwydd cydbwyso anghenion byrdymor â’r angen i sicrhau’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor.
· Atal: sut y gall gweithredu er mwyn atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
· Integreiddio: ystyried sut y gall amcanion llesiant y cyrff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion eraill neu ar amcanion cyrff eraill.
· Cydweithredu: cydweithredu â chyrff cyhoeddus eraill i helpu i gyflawni nodau llesiant.
· Cyfranogiad: pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu.
Swyddogaethau’r BGC
5. Mae gan y Bwrdd bedair prif swyddogaeth:
· Paratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro.
· Paratoi a chyhoeddi Cynllun Llesiant lleol i Sir Benfro gan nodi amcanion lleol a’r camau gweithredu y mae’n bwriadu eu rhoi ar waith i’w cyflawni.
· Cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion lleol a bennwyd ganddo.
· Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi cynnydd y Bwrdd wrth gyflawni’r amcanion lleol.
Aelodaeth
Aelodau statudol
6. Mae aelodau statudol y Bwrdd fel a ganlyn:
· Cyngor Sir Benfro (a gaiff ei gynrychioli mewn cyfarfodydd gan yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr)
· Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (a gaiff ei gynrychioli mewn cyfarfodydd gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr, neu’r ddau)
· Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (a gaiff ei gynrychioli mewn cyfarfodydd gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr, neu’r ddau)
· Cyfoeth Naturiol Cymru (a gaiff ei gynrychioli mewn cyfarfodydd gan y Prif Weithredwr)
7. Gellir dynodi cynrychiolydd enwebedig yn lle unrhyw un o’r unigolion a enwir uchod. Dim ond aelod arall o Gabinet y Cyngor y gall Arweinydd y Cyngor ei ddynodi.
8. Rhaid bod gan unrhyw gynrychiolydd dynodedig yr awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran ei sefydliad.
Cyfranogwyr gwadd
9. Rhaid i’r Bwrdd wahodd gwahoddedigion statudol penodedig i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Bwrdd, sef:
· Gweinidogion Cymru
· Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys
· Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
· Prif Swyddog, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
· Y Gwasanaeth Prawf
10. Gall y Bwrdd wahodd unrhyw gyrff / unigolion eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Bwrdd. Mae’r gwahoddedigion anstatudol presennol fel a ganlyn:
· Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
· Prif Weithredwr, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
· Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
· Prif Weithredwr, PLANED
· Cynrychiolydd o Ganolfan Gwaith Ranbarthol Cymru, Yr Adran Gwaith a Phensiynau
· Coleg Sir Benfro
· Cadeirydd, Un Llais Cymru
Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
11. Nid yw’n ofynnol i gyfranogwyr gwadd dderbyn gwahoddiad. Fodd bynnag, unwaith y caiff gwahoddiad ei dderbyn, disgwylir i’r cyfranogwyr gwadd gymryd rhan lawn yng ngweithgareddau’r Bwrdd a chydweithio â’r Bwrdd er mwyn cyflawni ei ddyletswydd mewn perthynas â llesiant, gan gynnwys cyflawni’r swyddogaethau a nodir ym mhwynt 5 uchod.
Partneriaid eraill
12. Bydd y Bwrdd hefyd yn ymgysylltu fel y bo’n briodol â phartneriaid allweddol eraill sydd â buddiant perthnasol yn llesiant yr ardal, neu sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig, wrth baratoi, gweithredu a chyflawni gwaith y Bwrdd. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys y canlynol ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
· Cynghorau Cymuned
· Cynghorau Iechyd Cymuned
· Sefydliadau Addysg Bellach neu Uwch
· Cyngor Celfyddydau Cymru
· Cyngor Chwaraeon Cymru
· Llyfrgell Genedlaethol Cymru
· Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Darparu gwybodaeth
13. Gall y Bwrdd ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gwadd a phartneriaid eraill ddarparu gwybodaeth am unrhyw gamau gweithredu a gymerir ganddynt a all gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth o dan yr amgylchiadau canlynol:
(a) os ydynt o’r farn na fyddai hynny yn gydnaws â’u dyletswyddau, neu
(b) os câi effaith andwyol ar eu gallu i gyflawni eu swyddogaethau, neu
(c) os byddent wedi’u gwahardd rhag ei darparu gan y gyfraith
14. Os bydd cyfranogwr neu bartner yn penderfynu peidio â darparu gwybodaeth y gofynnodd y Bwrdd amdani, rhaid iddo ddarparu rhesymau ysgrifenedig am hynny i’r Bwrdd.
Trefniadau cadeirio ac amlder cyfarfodydd
Cyfnod mewn swydd
15. Cyfnod mewn swydd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yw tair blynedd ac am uchafswm o ddau dymor.
Cyfarfodydd gorfodol
16. Rhaid i’r Bwrdd gynnal cyfarfod, wedi’i gadeirio gan Gyngor Sir Penfro, o fewn 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y caiff y Bwrdd ei sefydlu. Rhaid i’r Bwrdd hefyd gynnal “cyfarfod gorfodol” o fewn 60 diwrnod ar ôl pob etholiad arferol dilynol i ethol cynghorwyr, gan ystyried etholiad arferol fel etholiad lle y mae pob un o seddau cyngor yn destun etholiad neu ailetholiad. Mewn cyfarfod gorfodol, mae’n rhaid i’r Bwrdd:
(a) penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
(b) penderfynu pryd a pha mor aml y bydd yn cyfarfod
(c) adolygu a chytuno ar Gylch Gorchwyl
Cyfarfodydd arferol
17. Bydd y Bwrdd yn cynnal o leiaf pum cyfarfod bob blwyddyn galendr, ar amser ac mewn lleoliad y cytunir arnynt. Gellir cynnal cyfarfodydd eraill fel y bo’n briodol.
18. Bydd y protocol ar gyfer cyfarfodydd fel a ganlyn:
· Caiff yr agenda a’r papurau eu dosbarthu o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
· Gellir caniatáu eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.
· Caiff pob eitem o sylwedd ar yr agenda ei hategu gan bapur ac argymhelliad (argymhellion) clir.
· Gall arsylwyr gyfrannu at bynciau busnes perthnasol ar yr agenda os byddant wedi cael caniatâd ymlaen llaw gan y Cadeirydd neu wedi cael gwahoddiad penodol ganddo.
· Bydd agenda, cofnodion, papurau ac allbwn arall o gyfarfodydd y Bwrdd ar gael i’r cyhoedd ar wefan y Bwrdd.
Llywodraethu ac atebolrwydd
Gwneud penderfyniadau
19. Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd fydd ei bedwar aelod statudol.
20. Dim ond pan fyddant wedi’u gwneud ar y cyd gan y Bwrdd a chyda phob aelod statudol yn bresennol y bydd penderfyniadau’r Bwrdd (er enghraifft, cytuno ar yr asesiad llesiant lleol a’r cynllun llesiant lleol) yn ddilys.
21. Os cynhelir pleidlais, bydd y Bwrdd yn gweithredu yn unol â’r egwyddor y caiff pob sefydliad / asiantaeth un bleidlais ni waeth sawl cynrychiolydd o’r sefydliad / asiantaeth sy’n bresennol mewn cyfarfod.
22. Os ceir anghytundeb rhwng aelodau, cyfrifoldeb y Cadeirydd fydd cyfryngu er mwyn datrys y sefyllfa a chyflwyno’r datrysiad yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd neu mewn cyfarfod arbennig os bydd angen.
Adroddiad blynyddol
23. Bydd y Bwrdd yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol o fewn 14 mis ar ôl cyhoeddi ei Gynllun Llesiant cyntaf. Yn dilyn hynny, caiff adroddiad blynyddol ei gyhoeddi o fewn blwyddyn ar ôl cyhoeddi pob adroddiad blaenorol.
24. Rhaid anfon copi o’r adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor craffu perthnasol yr awdurdod lleol.
Craffu
25. Er mwyn darparu atebolrwydd democrataidd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddynodi un o’I bwyllgorau trosolwg a chraffu yn gyfrifol am graffu effeithiolrwydd y Bwrdd a’I waith. I’r diben hwn, mae’r awdurdod lleol wedi dynodi y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Partneriaethau.
26. Gall y pwyllgor craffu dynodedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw aelod o’r Bwrdd roi tystiolaeth ond dim ond mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaethau ar y cyd a roddwyd iddynt fel aelod o’r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw unigolyn neu gorff sydd wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Bwrdd.
Is-grwpiau
27. Gall y Bwrdd sefydlu is-grwpiau i’w helpu i gyflawni ei swyddogaethau. Rhaid i is-grŵp gynnwys o leiaf un aelod statudol o’r Bwrdd, a all ddewis cynrychiolydd priodol i fynd i gyfarfodydd i gyfrannu at waith yr is-grŵp. Gall yr is-grŵp hefyd gynnwys unrhyw gyfranogwr gwadd neu bartner arall. Caiff nodau is-grŵp eu pennu gan y Bwrdd pan gaiff yr is-grŵp ei sefydlu. Bydd yr is-grŵp yn paratoi cylch gorchwyl i’w gyflwyno i’r Bwrdd i’w gymeradwyo.
Ar hyn o bryd, mae’r is-grwpiau canlynol wedi’u sefydlu:
· Grŵp Gweithredol Plant a Theuluoedd
· Partneriaeth Cyd-gomisiynu Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant
· Fforwm Amgylchedd Sir Benfro
· Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
· Panel Busnes Sir Benfro
· Pwyllgor Diogelu Oedolion
· Partneriaeth Weithredol Diogelu Plant
Ymgysylltu’n ehangach
28. Gall aelodau’r cyhoedd fynd i gyfarfodydd y Bwrdd i arsylwi ac i ofyn cwestiynau ar unrhyw eitem o bwys ar yr agenda gyda chaniatâd ymlaen llaw gan y Cadeirydd.
29. Bydd y Bwrdd yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff llais y cyhoedd ei glywed a’i fod yn helpu i lywio’r Asesiad Llesiant a’r Cynllun Llesiant dilynol. Bydd y Bwrdd yn mabwysiadu ffocws ar ddinasyddion a bydd yn meithrin cydberthynas bwrpasol â phobl a chymunedau yn ei ardal, gan gynnwys plant a phobl ifanc, siaradwyr Cymraeg, a’r rhai â nodweddion gwarchodedig, ym mhob agwedd ar ei waith.
30. Bydd y Bwrdd yn cyd-drafod yn fanwl â’r cynghorau tref a chymuned hynny y mae’r ddyletswydd llesiant yn berthnasol iddynt wrth bennu amcanion yn ei Gynllun Llesiant.
31. Caiff copi o’r Asesiad Llesiant, y Cynllun Llesiant a’r adroddiad blynyddol eu hanfon at Weinidogion Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor craffu perthnasol yr awdurdod lleol.
Cymorth
32. Darperir cymorth gweinyddol ac ysgrifenyddol i’r Bwrdd gan Gyngor Sir Penfro. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys y canlynol:
· Sicrhau y caiff y Bwrdd ei sefydlu a’i fod yn cyfarfod yn rheolaidd
· Paratoi’r agenda a chomisiynu papurau ar gyfer pob cyfarfod
· Gwahodd cyfranogwyr a rheoli presenoldeb
· Paratoi a chydgysylltu blaenraglen waith
· Paratoi’r adroddiad blynyddol
· Paratoi tystiolaeth a chydgysylltu presenoldeb ar gyfer y pwyllgor craffu dynodedig
Adolygu
33. Rhaid i’r Bwrdd adolygu ei gylch gorchwyl mewn cyfarfod gorfodol. Gall y Bwrdd hefyd adolygu ei gylch gorchwyl a chytuno i’w ddiwygio ar unrhyw adeg ar yr amod bod pob aelod statudol yn cytuno.