CYNLLUN LLESIANT SIR BENFRO
Un o brif swyddogaethau statudol y BGC, dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yw cynhyrchu Cynllun Llesiant . Mae’r Cynllun Llesiant yn nodi sut y bydd y BGC yn gweithio ar y cyd i wella llesiant pobl a chymunedau yn Sir Benfro, yn awr ac yn y dyfodol.
Y Cynllun Llesiant yn cynrychioli’r gwerth ychwanegol y gellir ei ddarparu trwy weithio mewn modd arloesol ar y cyd fel partneriaid. Nid yw’n disodli gwasanaethau craidd y sefydliadau unigol, ac nid adlewyrchu’r gwaith da a wneir eisoes gan bartneriaid unigol yw ei bwrpas.
Mae’r BGC wedi nodi dau amcan llesiant cyffredin fel fframwaith i’r Cynllun. Dyma nhw:
Pwy ydym ni: Rydym am helpu ein pobl, ein cymunedau a’n sefydliadau fel y gallwn gefnogi ein hunain a’n gilydd.
Lle’r ydym yn byw: Rydym am warchod a gwella ein hasedau naturiol wrth optimeiddio rhagolygon economaidd, hygyrchedd a iechyd i bawb.
Mae pedwar blaenoriaeth o dan yr amcanion (dau o dan bob un):
Pwy ydym ni |
Lle’r ydym yn byw |
Byw a Gweithio |
Mynd i’r afael â gwledigrwydd |
Cymunedau Medrus |
Diogelu’r Amgylchedd |
I gloi, mae’r BGC wedi nodi wyth prosiect integredig all gyfrannu ar draws a thuag at y pedwar blaenoriaeth ac uchafu cyfraniad y BGC i lesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol:
1. Fframwaith Trawsnewid Recriwtio a Chyflogaeth
2. Asesiad Risg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd
3. Dod yn Sir Carbon Niwtral
4. Gwneud Pethau’n Wahanol
5. Dathlu’r Awyr Agored
6. Cyfranogiad Cymunedol
7. Deall ein Cymunedau
8. Ymgysylltu â’r Gymuned mewn modd Ystyrlon
Bydd y BGC yn defnyddio dull amrywiol o weithredu i gyflawni’r wyth prosiect gan fabwysiadu’r dull mwyaf addas, megis is-grŵp sefydlog, grŵp gorchwyl neu arweinydd annibynnol, gan ddibynnu ar y gwaith sydd angen ei wneud.
Bydd diweddariadau pellach yn ymddangos yma maes o law.
Nick Evans
Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775858
E-bost: nicholas.evans@pembrokeshire.gov.uk