Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro yn bartneriaeth strategol statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Diben y Ddeddf hon yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Sir. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau'r BGC gydweithio i wella llesiant yn Sir Benfro drwy feddwl mwy am y tymor hwy; gweithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a chyda'i gilydd; ac anelu at atal problemau cyn iddynt ddigwydd.
Gall aelodau'r cyhoedd ddod i gyfarfodydd y BGC. Rhestrir dyddiadau ac amseroedd cyfarfodydd hyd at ddiwedd mis Tachwedd 2021 isod;
Date
|
|
Time
|
|
Location
|
Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020 |
|
10.00yb |
|
Swyddfeydd Porthladd Aberdaugleddau |
Dydd Llun 27 Ebrill 2020 |
|
10.00yb |
|
Cyfarfod Skype |
Dydd Llun 22 Mehefin 2020 |
|
10.00yb |
|
Cyfarfod Skype |
Dydd Mawrth 22 Medi 2020 |
|
10.00yb |
|
Cyfarfod Skype |
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2020 |
|
10.00yb |
|
Cyfarfod Skype |
|
|
|
|
|
Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021 |
|
10.00yb |
|
Cyfarfod Skype |
Dydd Mawrth 27 Ebrill 2021 |
|
10.00yb |
|
Cyfarfod Skype |
Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021 |
|
10.00yb |
|
Lleoliad i'w gadarnhau |
Dydd Mawrth 21 Medi 2021 |
|
10.00yb |
|
Lleoliad i'w gadarnhau |
Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2021 |
|
10.00yb |
|
Lleoliad i'w gadarnhau |
Anogir aelodau'r cyhoedd i gyflwyno cwestiynau i'w hystyried gan y BGC. Noder bod yn rhaid i gwestiynau o'r fath ymwneud â swyddogaethau statudol neu raglen waith y BGC. Ni chaiff cwestiynau sy'n ymwneud â gwaith sefydliadau unigol ymateb gan y BGC ond cânt eu hanfon i'r sefydliad unigol fel y bo'n briodol. Os hoffech gyflwyno cwestiwn, cysylltwch â ni psb@pembrokeshire.gov.uk.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddeddf yn .