> Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod

Canolfan Hamdden Dinbych-Y-Pysgod

Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod
Marsh Road
Dinbych y Pysgod
Sir Benfro
SA70 8DU

Mae’r ganolfan ar Marsh Road, un o'r prif ffyrdd sy'n arwain i Ddinbych-y-pysgod. Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol: Gwersi nofio ar gyfer pob oedran, dosbarthiadau ymarfer corff grŵp, hyfforddiant personol 1-1, gweithgareddau iau, Cynllun Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (cyfeiriadau meddygon teulu), gweithgareddau gwyliau ysgol a chwaraeon raced.

What 3 Words: hudol.terfyniad.swmddiaf

 

Y gampfa

Ystafell ffitrwydd modern, sy'n cynnwys amrywiaeth o beiriannau cardio Technogym, peiriannau ymwrthedd, pwysau rhydd ac ardal ymestyn.

Os nad ydych chi wedi defnyddio ein campfeydd o'r blaen, bydd angen cwblhau anwythiad campfa. I drefnu amser ac archebu, e-bostiwch:

tenbyleisurecentre@pembrokeshire.gov.uk

Hoffech chi ddefnyddio ein campfa ond dim ond am gyfnod byr rydych chi yma? Dim problem, gallwch gofrestru ar gyfer ein Mynediad Campfa i Ymwelwyr, sy'n eich galluogi i ddefnyddio ein campfeydd am gyfnod o 14 diwrnod.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi. 

Pwll Nofio

Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein pyllau.

Mae’r prif bwll yn hirsgwar traddodiadol sy'n mesur 25 metr x 8.5 metr gyda dyfnderoedd 

yn amrywio o 0.91 metr i 1.98 metr. Mae'n ddelfrydol ar gyfer hyfforddi neu nofio'n hamddenol.

 

Mae ein pwll dysgwyr yn bwll cynhesach 8.5 x 8.5m sy'n berffaith i blant iau ddechrau eu taith Dysgu i Nofio ac ar gyfer hwyl i'r teulu. Mae'r dyfnder yn amrywio o 0.41m - 0.76m. 

Ymarfer Grŵp

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ymarfer corff grŵp sy'n cynnwys Cardio, Dawns, Meddwl a Chorff, Cryfder a Chyflyru a Dosbarthiadau Seiclo Grŵp. Bydd ein hyfforddwyr yn eich arwain ac yn eich ysgogi trwy gydol y sesiwn. Mae dosbarthiadau Ymarfer Grŵp yn ffordd dda i chi hyfforddi gyda'ch ffrindiau neu gwrdd â phobl newydd. Fel arfer, mae dosbarthiadau Ymarfer Grŵp naill ai’n cael eu cynnal yn ein neuadd chwaraeon neu stiwdio.

Neuadd chwaraeon

Mae ein neuadd chwaraeon ar gael i’w harchebu i gynnal amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:

  • Pêl-droed
  • Pêl-rwyd
  • Badminton
  • Tenis bwrdd
  • Castell neidio a chwarae meddal Partïon plant

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â’r ganolfan yn uniongyrchol ar 01437 775678 neu e-bostiwch:tenbyleisurecentre@pembrokeshire.gov.uk