Canolfannau Dydd
Cartref Preswyl Hillside
Mae Cartref Preswyl Hillside yn darparu gwasanaeth gofal preswyl i oedolion dros 65 mlwydd oed yn bennaf, sydd angen cymorth, gofal, adferiad neu ddiogelwch gan gynnwys pobl sy'n gadael yr ysbyty; gweithio mewn partneriaeth gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Hywel Dda.
Mae Cartref Preswyl Hillside wedi ei gofrestru ac yn cael ei arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC). I ddarllen adroddiad arolygu Cartref Preswyl Hillside ewch i wefan AGGCC.
Ble mae'r Cartref Preswyl?
Cartref Preswyl Hillside, Troed y Rhiw, Wdig Sir Benfro, SA64 0AU.
Pryd mae'r Cartref Preswyl yn agored?
Mae Cartref Preswyl Hillside ar agor 24 awr y dydd ar hyd y flwyddyn ac mae ganddo wlâu gofal seibiant, gofal canolraddol a gofal parhaol.
Sut mae cael mynediad i Gartref Preswyl Hillside?
Gall person gael mynediad i Gartref Preswyl Hillside am wely Seibiant neu wely Parhaol yn dilyn asesiad o angen a chael ei gyfeirio gan Ofal Oedolion.
Er mwyn cael mynd i Gartref Preswyl Hillside am y gwasanaeth gofal canolraddol bydd angen i'r person gael asesiad gofal cymdeithasol ac iechyd ar y cyd.
Beth ydy pwrpas Cartref Preswyl Hillside?
Mae Cartref Preswyl Hillside yn darparu gwasanaeth sy'n:
- Darparu gofal mewn awyrgylch gartrefol, gyfeillgar a hamddenol
- Cynorthwyo ac yn annog pobl i fyw bywyd mor llawn ac egnïol ag sydd modd
- Sicrhau bod pawb yn cael yr hawl i fynegi eu daliadau eu hunain
- Sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch a phreifatrwydd bob amser
- Galluogi Gofalwyr i gael amser gwerthfawr i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu
Beth mae Cartref Preswyl Hillside yn ei ddarparu?
Mae Cartref Preswyl Hillside yn darparu 3 math o wasanaeth:
- Gofal Seibiant
Gellir archebu'r gwasanaeth gofal Seibiant drwy gydol y flwyddyn gan alluogi'r person a'i ofalwyr i gael gwyliau wedi eu cynllunio.
- Gofal Canolraddol
Mae'r gwasanaeth gofal canolraddol yn darparu therapi adfer am hyd at 6 wythnos i alluogi pobl i gadw eu hannibyniaeth gyhyd ag y bo modd. Lle bo'n berthnasol gellir cynnig hyn i bobl o 45 mlwydd oed lle y nodwyd angen wedi ei asesu.
- Gwlâu Parhaol
Mae'r gwasanaeth gwlâu parhaol yn darparu cartref i'r rheiny sydd ei angen.
Mae Cartref Preswyl Hillside yn darparu'r canlynol:
- Cymorth i fyw yn iach a lles
- Cymorth gydag anghenion gofal unigol
- Amrywiol weithgareddau
- Prydau bwyd maethlon ac amrywiol sy'n darparu ar gyfer anghenion diet.
- Golchi dillad
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Efallai y bydd tâl am aros yng Nghartref Hillside. Gofynnir i bobl gwblhau asesiad ariannol er mwyn penderfynu a ydynt yn gallu talu a faint fydd y pris a godir. Cyflawnir hyn fel rhan o'u hasesiad.
Gwybodaeth bellach:
Gwneir y cysylltiad cyntaf drwy ganolfan gyswllt CSP ar 01437 764551 a chyfeirir yr atgyfeiriadau at y timau adnoddau perthnasol.
Am ragor o wybodaeth am Gartref Preswyl Hillside, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Annette Narbett, Rheolwr Cofrestredig y Cartref
Ffôn: 01348 873888
e-bost annette.narbett@pembrokeshire.gov.uk