Rydym yn ymrwymedig i leihau ein defnydd o bapur, sy'n golygu y gall cartrefi bellach weld eu calendr casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd ar-lein.
Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd:
Er mwyn gweld eich calendr
Rhowch eich cod post yn y blwch 'Chwilio am eich diwrnod biniau' isod ac wedyn dewiswch eich cyfeiriad.
Bydd hyn yn dangos manylion eich casgliadau gwastraff ac ailgylchu nesaf.
Wedyn, dewiswch 'GWELD CALENDR CASGLIADAU' ar ochr chwith y dudalen ar y gwaelod.
CHWILIO AM EICH DIWRNOD BINIAU
Gallwch hefyd gofrestru am nodyn atgoffa wythnosol am ddim ynghylch y diwrnod biniau trwy hysbysiad neges destun neu e-bost trwy Fy Nghyfrif
Os nad oes gennych fynediad i'r we i lawrlwytho'n calendrau, gallwch ofyn am gopïau papur trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01437 764551.