Casglu Gwastraff
Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Bwyd
Pum rheswm dros ailgylchu eich gwastraff bwyd
1) Mae'n hawdd
2) Mae'n atal arogleuon bwyd
3) Mae’r blychau’n cloi i atal plâu rhag mynd i mewn iddynt
4) Caiff ei gasglu unwaith yr wythnos
5) Caiff ei droi’n drydan
Beth alla' i ei roi yn y cadi?
Fe allwch chi roi bwyd amrwd neu fwyd wedi'i goginio yn eich cadi. Gallwch hyd yn oed crafu bwyd heb ei fwyta yn syth i mewn i’ch cadi.
- Cig a physgod - amrwd ac wedi'i goginio gan gynnwys esgyrn
- Cynnyrch llaeth megis wyau a chaws
- Llysiau a ffrwythau - amrwd ac wedi'u coginio
- Bara, cacennau a theisennau
- Reis, pasta a ffa
- Bwyd heb ei fwyta o'ch platiau a'ch dysglau
- Bagiau te a gwaddodion coffi
- Gwastraff bwyd cŵn a chathod o eiddo domestig. Cytunir ar unrhyw beth o safle masnachol fesul achos.
Dim diolch! Peidiwch â rhoi un o'r deunyddiau hyn yn eich cadi gwastraff bwyd.
- Defnydd pacio o unrhyw fath
- Bagiau plastig
- Hylifau
- Olew neu saim hylif
Cofiwch: Os ydych yn compostio gartref yn barod, daliwch ati i gompostio eich crafion llysiau a ffrwythau sydd heb eu coginio yn eich bin neu eich tomen.
Sut galla’ i ailgylchu fy ngwastraff bwyd?
Er mwyn ailgylchu eich gwastraff bwyd, yr oll bydd arnoch angen yw:
- Bin mawr gwyrdd 23 litr ar gyfer gwastraff bwyd
- Cadi arian 5 litr ar gyfer gwastraff bwyd addy
- Cyflenwad blwyddyn o fagiau ar gyfer leinio'r cadi.
Cam 1
Mynnwch yr offer cywir - bydd arnoch angen cadi cegin, bagiau cadi a blwch ymyl y palmant.
Cam 2
Rhowch y bag yn eich Cadi Cegin.
Cam 3
Rhowch unrhyw wastraff bwyd yn y cadi, gan ofalu eich bod chi’n gwaredu unrhyw ddeunydd pacio.
Cam 4
Pan fo’ch cadi cegin yn llawn, dylech roi’r gwastraff yn y blwch ymyl y palmant, a’i roi allan i’w gasglu bob wythnos er mwyn ei ailgylchu.