Coronafeirws (Covid-19)
Casglu Gwastraff
Casgliadau Gwastraff Ardd
Rhwng 28 Chwefror a 2 Rhagfyr 2022, rydym yn cynnig casgliadau bob pythefnos o wastraff gardd o gartrefi.
Cost y gwasanaeth hwn i danysgrifwyr yn unig yw £52.00 fesul bin.
Bydd cwsmeriaid debyd uniongyrchol blynyddol hefyd yn elwa ar y pris rhatach o £47.00
Mae'r gwasanaeth ar gael i gartrefi a busnesau. Mae gyda ni’r hawl i benderfynu a allwn ni ddarparu’r gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd neu beidio.
Tanysgrifio neu Adnewyddu
I canslo eich tanysgrifiad gallwch canslo ar-lein
Mae gyda fi wastraff o'r ardd i'w waredu ond nid wyf yn dymuno ymgofrestru yn y gwasanaeth casglu - beth allaf i ei wneud ag e?
Gallwch:
- Ddefnyddio bin Gwneud Compost Gartref
- Mynd â'ch gwastraff o'r ardd i'ch Canolfan Amwynder Dinesig ac Ailgylchu agosaf lle gallwch ei waredu am ddim a sicrhau y bydd e'n cael ei droi yn gompost.
Telerau ac amodau
Rhowch amser os gwelwch yn dda i ddarllen y telerau ac amodau hyn oherwydd eu bod yn rhan o’n Cytundeb ni gyda chi.
- Bydd y casgliadau’n digwydd bob pythefnos rhwng yr wythnos y bydd Mawrth 1af a’r wythnos y bydd Tachwedd 30ain yn digwydd bod arnynt (gan gynnwys Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus).
- Mae'r gwasanaeth ar gael i gartrefi a busnesau Cyngor Sir Penfro. Gall cymdogion rannu bin ond i un cyfeiriad yn unig y mae’r bin wedi ei gofrestru ac o’r cyfeiriad hwnnw mae’n cael ei gasglu. Mae’n rhaid talu am y gwasanaeth bob blwyddyn o flaen llaw ac nid oes modd cael ad-daliad mewn unrhyw amgylchiadau.
- Eiddo Cyngor Sir Penfro o hyd yw’r bin(iau) gwastraff o’r ardd a dim ond ar gyfer gwastraff o’r ardd y dylid eu defnyddio. Rhaid ichi beidio â’u hagru nag arysgrifennu arnynt mewn unrhyw ffordd. Rhaid ichi roi gwybod, ar unwaith, am fin(iau) a ddifrodwyd neu a gafodd eu dwgyd, ac efallai y codir tâl arnoch am ei gyweirio’r bin neu am roi un newydd ichi.
- Dylai bin(iau) gael eu storio ar eiddo perchennog y tŷ a’i adael ar ddiwrnod y casgliad mewn man hygyrch, dirwystr yn eich man casglu arferol wrth y palmant, a’i ddychwelyd i’r eiddo cyn gynted ag sy’n bosib ar ôl casglu. Rydym yn cadw’r hawl i newid yr amseroedd casglu gwastraff ac felly dylech wastad ddodi’r bin(iau) mas erbyn 6.30 y bore.
- Does dim modd trosglwyddo’r gwasanaeth o’r naill breswyliwr i’r llall. Wrth newid cyfeiriad, bydd y gwasanaeth yn cael ei drosglwyddo i’r cyfeiriad newydd os yw yn Sir Benfro. Os yw’ symud mas o’r Sir, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r Cyngor a dodi’r bin(iau) mas i’w gymryd.
- Fydd biniau ddim yn cael eu gwagio os ydyn nhw’n rhy drwm i’w trin a’u trafod yn ddiogel neu’n anniogel i’r peiriant codi. Mae’n rhaid i ddeiliad y tŷ gael gwared â’r pwysau gormodol a dodi’r bin mas eto ar gyfer y casgliad nesaf sydd wedi’i drefnu.
- Dim ond pethau gyda chaniatâd y mae modd cael gwared â nhw ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn rhydd yn y bin(iau) ac nid mewn bagiau. Fydd bin(iau) gwastraff gerddi wedi eu heintio â phethau heb ganiatâd ddim yn cael eu casglu hyd nes bydd y pethau hynny wedi eu tynnu mas a’r bin wedi ei ddodi mas ar gyfer y casgliad nesaf sydd wedi ei drefnu.
- Os bydd y bin(iau) wedi eu heintio’n rheolaidd bydd rhagor o gyngor yn cael ei roi. Os bydd yr heintio yn parhau, bydd y bin(iau) yn cael eu cymryd a bydd y casgliadau yn dod i ben.
- Mae’n rhaid i bob gwastraff o’r ardd fod yn y bin(iau) sydd wedi eu darparu. Fydd gwastraff sydd ddim mewn bin(iau) gwastraff gardd Cyngor Sir Penfro ddim yn cael ei gasglu.
- Efallai na fydd eiddo anodd mynd atyn nhw yn addas i dderbyn y gwasanaeth hwn. Byddwn yn asesu eich eiddo ac os nad yw’n addas byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddewisiadau eraill sydd ar gael.
- Nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am anafiadau trwy ddefnyddio’r bin yn anghywir.
- Mae gwasanaeth casglu gyda chymorth i’w gael i’r preswylwyr hynny sy’n gymwys i gael casgliad gwastraff ac ailgylchu gyda chymorth, os yw gwneud hynny’n ymarferol.
- Efallai y bydd rhaid inni gael mynediad i’ch eiddo er mwyn mynd â bin(iau) bant os na fyddwn wedi derbyn taliad.
- Anelwn i yrru biniau newydd o fewn 21 diwrnod, ond gall hyn fod yn amhosib yn ystod cyfnodau prysur. Gall adnewyddu’r gwasanaeth gymryd 3 diwrnod gwaith i'w brosesu, ac ni fydd casgliadau’n cychwyn tan fydd y broses wedi’i chwblhau. Ni roddir ad-daliad os nad ydym yn cyflenwi o fewn 21 diwrnod.
- Mae’r biniau a ddychwelir gan gwsmeriaid blaenorol wedi cael eu hailddefnyddio. Ni fydd cwsmeriaid newydd o reidrwydd yn derbyn bin newydd, efallai y bydd rhywfaint o ôl defnydd.
ID: 310, adolygwyd 01/04/2022