Rydym yn ymrwymedig i leihau ein defnydd o bapur, sy'n golygu y gall cartrefi bellach weld eu calendr casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd ar-lein.
Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd:
Er mwyn gweld eich calendr
Rhowch eich cod post yn y blwch 'Chwilio am eich diwrnod biniau' isod ac wedyn dewiswch eich cyfeiriad.
Bydd hyn yn dangos manylion eich casgliadau gwastraff ac ailgylchu nesaf.
Wedyn, dewiswch 'GWELD CALENDR CASGLIADAU' ar ochr chwith y dudalen ar y gwaelod.
CHWILIO AM EICH DIWRNOD BINIAU
Gallwch hefyd gofrestru am nodyn atgoffa wythnosol am ddim ynghylch y diwrnod biniau trwy hysbysiad neges destun neu e-bost trwy Fy Nghyfrif
Os nad oes gennych fynediad i'r we i lawrlwytho'n calendrau, gallwch ofyn am gopïau papur trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01437 764551.
Byddwn yn trefnu casglu bin a fethwyd:
Os oedd eich biniau a sachau’n barod i’w casglu gallwch hysbysu casgliad a fethwyd wrthym. Os nad oedd eich biniau neu sachau’n barod, byddwn yn eu casglu ar eich Diwrnod Bin priodol nesaf.
Gallwch gael cyflenwadau pellach o’r lleoedd canlynol.
(Mae * yn dynodi ffi. Bagiau bwyd 23 litr £6.70 y rholyn)
Cliciwch ar y testun glas i gael yr oriau agor
Gall cwsmeriaid ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy dodi nodyn ar eu cadi pan fyddant yn cael eu rhoi ar ymyl y ffordd ar y diwrnod casgl
Noder nad oes gan unrhyw allfeydd fagiau llwyd. Mae pob eiddo domestig yn derbyn 52 o fagiau bob blwyddyn
Enw | Cyfeiriad | Bagiau gwastraff bwyd 23 litr* | Bagiau gwastraff bwyd 5 litr | Cadi bwyd 5 litr | Cadi bwyd 23 litr | Blwch dal gwydr 44 litr | Sach Las Ailddefnyddiadwy – cardbord a cherdyn | Blwch Glas – papur | Sach Goch Ailddefnyddiadwy | AHP sachau 60 litr porffor |
Aberteifi Cyngor Sir Ceredigion | Stryd Morgan, Aberteifi. SA43 1DG | Nac Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Swyddfa Bost Cilgerran | Siop y Pentre, Cilgerran, Sir Benfro, SA43 2SG | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Crymych | Crymych, SA41 3QH | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Abergwaun | Neuadd y Dref, Abergwaun, SA65 9HE | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Abergwaun | Abergwaun SA65 9DT | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Hwlffordd | St Thomas Green. Hwlffordd SA61 1QX | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Hwlffordd | Glan-yr-afon, Hwlffordd | Nac Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Adain y Gogledd Hwlffordd | Neuadd y Sir, Freemans Way Hwlffordd. SA61 1TP | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes |
Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu Hermon | Hermon, Rhydiau, Hermon, Crymych. SA41 3QT | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Aberdaugleddau | Priory Road, Aberdaugleddau SA73 2EE |
Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Aberdaugleddau | Cedar Court, Parc Busnes Haven's Head, Aberdaugleddau SA73 3LS |
Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Gymuned Tŷ Bloomfield | Redstone Road, Arberth, Sir Benfro, SA67 7ES | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell Arberth | Stryd St James, Arberth. SA67 7BU |
Nac Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Newgale Siop | Gerddi a Hamdden M M Carter, Siop Niwgwl, Hwlffordd SA62 6AS | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Swyddfa Bost Trefdraeth | 2 Heol Hir, Trefdraeth SA42 0TJ | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell Neyland | Stryd St Clement, Neyland. SA73 1SH | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Doc Penfro, Stryd Argyle, Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid | Stryd Argyle, Doc Penfro. SA72 6HL | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes |
Llyfrgel Doc Penfro | Stryd y Dŵr, Doc Penfro,Sir Benfro SA72 6DW | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Penfro | Bush, Penfro SA71 4RJ | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Penfro | Heol y Comin, Penfro, Sir Benfro, SA71 4AE | Nac Oes | Oes | Nac Oes | Nac oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Neuadd y Dref Penfro | Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Penfro. SA71 4JS | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod | Marsh Road, Dinbych-y-pysgod SA70 8DU | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Llyfrgell Dinbych-y-pysgod | Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 7LB | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod | Pafiliwn De Valence, Upper Frog Street, Dinbych-y-pysgod. SA70 7JD | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Parc Busnes Thornton | Cyngor Sir Penfro, Uned 23, Parc Busnes Thornton, Aberdaugleddau, SA73 2RR | Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Oes | Oes | Oes |
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Saundersfoot | Regency Hall, Saundersfoot, Sir Benfro. SA69 9NG | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Neuadd y Ddinas Tyddewi | Neuadd y Ddinas, Y Stryd Fawr, Tyddewi, SA62 6SD | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Canolfan Hamdden Tyddewi | Ysgol Dewi Sant, Tyddewi SA62 6QH |
Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Swyddfa Bost Llandudoch | 1 Heol Fawr, Llandudoch SA43 3ED | Nac Oes | Oes | Oes | Oes | Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes | Nac Oes |
Casgliadau Gwastraff Swmpus – Gwasanaeth Cyfyngedig yn Gweithredu
Mae casgliadau gwastraff swmpus o gartrefi wedi ailddechrau ar sail gyfyngedig.
Os oes gennych daclau cartref mawr dieisiau fel gwelyau, oergelloedd a dodrefn gallwch drefnu casgliad gwastraff cartref swmpus. Caiff eitemau cartref swmpus eu casglu ar ein rhan gan Frame, mudiad elusennol lleol.
Gallwch wneud ceisiadau am y gwasanaeth hwn trwy lenwi Ffurflen Casglu Gwastraff Cartref Swmpus yn ‘Fy Nghyfrif’ eich cyfrif ar-lein y Cyngor. Rydym yn gwneud popeth a allwn i leihau’r cysylltiad rhwng y cyhoedd a staff a chadw pellter cymdeithasol ar hyn o bryd. Felly, rhaid talu o flaen llaw am y casgliad wrth archebu gan sicrhau prosesu archebion yn brydlon wrth gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru.
Y taliad am gasgliad o eitemau cartref yw £20 am 10 eitem neu lai. Sylwch y byddai set dridarn o ddodrefn yn cyfrif fel 3 eitem, ac y byddai bwrdd and 4 cadair yn cyfrif fel 5 eitem. Ar hyn o bryd ni allwn gasglu unrhyw eitemau trwm, a fyddai’n gofyn mwy na 2 o bobl i’w symud h.y. pianos ac ati.
Sylwer: unwaith y mae cwsmer wedi gwneud cais am gasgliad o hyd at 20 o eitemau (cost dau gasgliad), ni allant drefnu casgliad arall nes bod y casgliadau cyfredol wedi'u cwblhau.
Wrth ofyn am y gwasanaeth hwn, nodwch yr eitemau i’w casglu, oherwydd mai dim ond eitemau a nodwyd fydd yn cael eu symud.
Cofiwch, unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r casgliad gwastraff swmpus, ni ellir ei ddiwygio. Y rheswm am hyn yw na fyddai’r fan yn gallu darparu ar gyfer gwahanol eitemau oherwydd cyfyngiadau lle.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais bydd yn cael ei anfon at Frame a fydd yn cysylltu â’r aelwyd i drefnu’r casgliad. Bydd yr eitemau’n cael eu casglu’n unig oddi allan i’r eiddo a pheidiwch â’u dodi allan i’w casglu cyn i Frame ddweud wrthych.
Bydd hi'n bosibl prynu bagiau gwastraff gwydn sy'n gwrthsefyll gwylanod, am £5.30 yr un, yn y lleoliodau canlynol:
Rhwng 1 Mawrth a 3 Rhagfyr 2021, rydym yn cynnig casgliadau bob pythefnos o wastraff gardd o gartrefi.
Cost y gwasanaeth hwn i danysgrifwyr yn unig yw £46.30 fesul bin ar gyfer tanysgrifiadau ac adnewyddiadau a dderbynnir cyn 1 Ebrill neu £51.30 fesul bin o 1 Ebrill ymlaen.
Bydd cwsmeriaid debyd uniongyrchol blynyddol hefyd yn elwa ar y pris rhatach o £46.30.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i gartrefi domestig yn unig.
Ddebyd Uniongyrchol
Gallwch hefyd gael y pris gostyngol drwy arwyddo i dalu drwy ddebyd uniongyrchol yn flynyddol. Lawrlwythwch y Debyd Uniongyrchol a'i phostio'n ôl i'r cyfeiriad ar y ffurflen.
I canslo eich tanysgrifiad gallwch:
Gwasanaeth Casglu Gwastraff o`r Ardd - Cwestiynau Cyffredin
Mae gyda fi wastraff o'r ardd i'w waredu ond nid wyf yn dymuno ymgofrestru yn y gwasanaeth casglu - beth allaf i ei wneud ag e?
Gallwch:
Pum rheswm dros ailgylchu eich gwastraff bwyd
1) Mae'n hawdd
2) Mae'n atal arogleuon bwyd
3) Mae’r blychau’n cloi i atal plâu rhag mynd i mewn iddynt
4) Caiff ei gasglu unwaith yr wythnos
5) Caiff ei droi’n drydan
Beth alla' i ei roi yn y cadi?
Fe allwch chi roi bwyd amrwd neu fwyd wedi'i goginio yn eich cadi. Gallwch hyd yn oed crafu bwyd heb ei fwyta yn syth i mewn i’ch cadi.
Dim diolch! Peidiwch â rhoi un o'r deunyddiau hyn yn eich cadi gwastraff bwyd.
Cofiwch: Os ydych yn compostio gartref yn barod, daliwch ati i gompostio eich crafion llysiau a ffrwythau sydd heb eu coginio yn eich bin neu eich tomen.
Sut galla’ i ailgylchu fy ngwastraff bwyd?
Er mwyn ailgylchu eich gwastraff bwyd, yr oll bydd arnoch angen yw:
Cam 1
Mynnwch yr offer cywir - bydd arnoch angen cadi cegin, bagiau cadi a blwch ymyl y palmant.
Cam 2
Rhowch y bag yn eich Cadi Cegin.
Cam 3
Rhowch unrhyw wastraff bwyd yn y cadi, gan ofalu eich bod chi’n gwaredu unrhyw ddeunydd pacio.
Cam 4
Pan fo’ch cadi cegin yn llawn, dylech roi’r gwastraff yn y blwch ymyl y palmant, a’i roi allan i’w gasglu bob wythnos er mwyn ei ailgylchu.
Beth ALLAF I ei ddodi yn y blwch?
Poteli a jariau gwydr gwag o bob lliw, math a maint. Nid oes rhaid ichi dynnu bant y labeli, caeadau, na cyrcs ac ati oddi ar boteli.
Beth NA ALLAF I ei ddodi yn y blwch?
Unrhyw fath o wydr nad yw'n botel na jar chwaith e.e. cynwysyddion peirecs, gwydrau yfed, sbectols, gwydr ffenestri, ornaments gwydr, briwfyrddau gwydr, na bylbiau goleuni.
Pam nad ydych chi'n derbyn y pethau hyn?
Mae'r nwyddau hyn yn toddi ar wahanol dymereddau â photeli a jariau gwydr. Pe byddent yn cael eu cymysgu a'u casglu, byddent yn halogi'r broses ailgylchu gwydr. O ganlyniad byddai'r llwyth yn ddiwerth ac ni fyddem yn gallu ei ailgylchu.
Sut allaf i waredu'r pethau hyn, na allaf eu dodi yn y blwch, heb iddynt orfod cael eu hanfon i safle tirlenwi?
Gallwch fynd â hwy i'ch Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu agosaf er mwyn iddynt gael eu dodi mewn cynwysyddion arbennig. Fel arall, gallwch roi'r rhan fwyaf o'r nwyddau hyn i'ch siop elusen leol cyhyd â'u bod mewn cyflwr da ac mae'r rhan fwyaf o optegwyr yn fodlon derbyn sbectols.
Ble allaf i gadw fy mlwch?
Rhag ofn y byddwch chi'n cadw'r blwch yn y tŷ, mae'r tyllau gwagio ynddo yn uwch nag arfer, er mwyn i hylifau aros yn y blwch a sicrhau na fydd lloriau'n cael eu baeddu. Bwriad y tyllau yw gadael i'r dŵr glaw lifo bant mewn modd dan reolaeth.
Dim ond y pethau hynny sydd ar y rhestr y dylech eu dodi yn y blwch er mwyn inni eu casglu. Diolch yn fawr. Os bydd y pethau anghywir yn cael eu casglu a'u cymysgu yn y llwyth yna ni ellir ei ailgylchu. Bydd unrhyw bethau nad ydynt yn addas i'w casglu wrth ymyl y ffordd, yn cael eu gadael yn y blwch er mwyn ichi eu didoli a'u gwaredu'n gywir.
Beth fydd yn digwydd i'r gwydr sy'n cael ei gasglu?
Bydd y gwydr yn cael ei gludo i Abertawe er mwyn defnyddio system cylch caeedig i'w ailgylchu. Mae ailgylchu trwy system cylch caeedig yn golygu y bydd y gwydr yn cael ei ailgylchu er mwyn ei droi'n boteli a jariau gwydr unwaith eto, sef y ffordd fwyaf cynaliadwy o wneud hynny.
Awgrymiadau ardderchog ar gyfer ailgylchu eich gwydr
Rydym wrthi'n ystyried beth yw'r ffordd orau o fynd i mo'yn gwydr o flociau mawr o fflatiau ac o gartrefi/tai sydd heb unrhyw gwrbyn y gallwn ni fynd ato.
Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01437 764551, neu anfon e-bost at wastemanagement@pembrokeshire.gov.uk
Ni ddylem wastraffu dim byd yn Sir Benfro!