Sut i Dalu
Ysgolion Cynradd
Rydym eisiau gwneud talu am brydau ysgol mor syml a chyfleus ag y bo modd i holl deuluoedd ledled Sir Benfro. Rydym yn cyflwyno dulliau talu gwahanol sy’n caniatáu i rieni / gwarcheidwaid dalu am brydau ysgol drwy’r gwasanaeth talu ar-lein neu drwy ddebyd uniongyrchol.
Mae’r System Arlwyo Heb Arian ar gael ym mhob ysgol a dyma’r ffordd hawsaf o dalu.
Gallwch ddewis cael prydau ysgol bob dydd neu ar ddiwrnodau arbennig yn unig. Bydd plant yn cael eu holi yn y bore i weld a ydynt yn cael pryd ysgol neu frechdanau.
Bydd cyfrifon disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn cael eu credydu bob dydd yn ddiofyn.
Debyd Uniongyrchol
Taliadau Heb Arian Dros y Ffôn
Canolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Bydd angen i chi lenwi ffurflen debyd uniongyrchol. Bydd angen un ffurflen y plentyn - cofiwch sicrhau bod rhif cyfrif prydau ysgol eich plentyn 8******* yn cael ei nodi ar y ffurflen.
Unwaith y llenwyd ac y proseswyd y ffurflen, byddwch yn cael llythyr ynghyd ag adroddiad manwl yn dangos y gweddill heb ei dalu ar ddiwedd y mis calendr diwethaf. Byddwch yn cael yr adroddiad hwn yn ail wythnos pob mis drwy’r post neu e-bost yn dibynnu ar y dewis a wnaethoch ar y ffurflen debyd uniongyrchol.
** Mae’n bwysig nodi y byddwch yn talu am brydau ysgol ar ôl eu cael h.y. bydd y debyd uniongyrchol o’ch cyfrif ym mis Rhagfyr yn talu am y prydau ysgol a gafodd eich plentyn ym mis Tachwedd.
Os ydych yn cytuno â’r swm, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach a bydd y taliad yn cael ei dynnu o’ch cyfrif banc ar neu’n fuan ar ôl yr 28ain o’r mis.
Fodd bynnag, os nad ydych yn cytuno â chyfanswm y taliad dyledus, cysylltwch â’r Adran Arlwyo cyn pen 5 diwrnod gwaith trwy E-bost: cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk neu dros y ffôn: 01437 775943.
Os na fyddwch yn codi unrhyw gwestiwn o fewn y cyfnod hwn bydd y taliad yn cael ei gymryd o’ch cyfrif banc / cymdeithas adeiladu, ond mae modd ei gywiro yn y dyfodol os bydd angen.