Beth yw manteision defnyddio cewynnau go iawn?
Ydyn nhw'n ddiogel ac yn hylan?
Ydyn, yn gyffredinol mae gwasanaethau golchi dillad yn eu golchi i Fanyleb 106 Ar Gael i GIG a'r Cyhoedd (PAS). Os ydych yn eu golchi adref, bydd golchi ar wres 60ºc yn ddigonol i'w golchi'n dda.
Ydy Cewynnau Go Iawn yn gollwng?
Ddim yn fwy na rhai untro. Gwnewch yn siŵr bod yr holl labeli wedi eu gwthio y tu mewn i'r gorchudd gwrth-ddŵr.
Gellir eu defnyddio yn y nos?
Gallau, ond wrth i'ch babi dyfu efallai bydd angen i chi ddefnyddio haen ychwanegol wrth gefn.
Ydyn nhw'n addas ar gyfer babanod newydd eu geni?
Ydyn, ond cynghorir chi i wirio'r maint. Mae maint 1 rhai gwneuthurwyr cewynnau go iawn yn dechrau ar bwysau geni o 6 phwys.
Os angen i chi newid y babi'n amlach?
Nac oes. Bydd y newid yr un fath os ydych yn defnyddio cewynnau go iawn neu barod. Gellir plygu cewynnau fflat mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn cadw'r cynhwys yn ei le!
Ydyn nhw'n achosi brech cewynnau?
Na, does dim tystiolaeth ar gael sy'n awgrymu hyn. Gall fethu newid y cewynnau yn ddigon aml arwain at frech cewynnau. Ffactorau eraill allai achosi hyn yw torri dannedd, newid i fwyd solet neu salwch cyffredinol.
Ydy hi'n cymryd mwy o amser i newid cewynnau go iawn?
Ddim mewn gwirionedd, ond mae'n ddibynnol ar y math rydych yn eu defnyddio