Bydd sefydliadau neu unigolion sy’n awyddus i gynnig adloniant neu werthu alcohol angen trwydded neu ganiatâd gan yr awdurdod lleol.
Mae Tîm Trwyddedu Cyngor Sir Benfro yn darparu trwyddedau, cofrestriadau, a chaniatâd ar gyfer ystod eang o weithgareddau er mwyn gwarchod a diogelu’r cyhoedd.
Mae’r Tîm Trwyddedu’n cydweithio â Heddlu Dyfed-powys a Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru er mwyn sicrhau fod cydymffurfiaeth ag amodau a thelerau’r trwyddedau yn ogystal ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall.
Rydym yn defnyddio systemau monitro er mwyn canfod ac atal unrhyw weithgareddau sydd heb eu trwyddedu. Rydym hefyd yn cyfrannu at fentrau addysg a gwybodaeth ar gyfer deiliaid trwyddedau a’u staff er mwyn gwella eu hymwybyddiaeth o faterion diogelwch y cyhoedd.
Isod ceir enghreifftiau o adegau y gall fod angen trwydded neu ganiatâd: