COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws

Clywed Ein Straeon

Stori Doreen

Rwyf wedi bod yn rhoi Llety gyda Chynhaliaeth ers dros 29 mlynedd a des i’r rôl fel rhiant sengl pan oedd fy mhlant yn dal yn bur ifanc. Rydym yn dal mewn cysylltiad â nifer o’r bobl ifanc hyn heddiw ac ystyriwn eu bod yn rhan o’n teulu estynedig.

Clywais gyntaf am y cynllun pan welais hysbyseb yn fy siop KwikSave leol. Rwy’n cofio meddwl “Beth sy’n digwydd i’r bobl ifanc hyn pan na fyddant yn dal i allu byw gyda’u teuluoedd eu hunain.” Tarodd yr hysbyseb fi a dechreuais ofyn i mi fy hun “Beth fyddai’n digwydd i fy mhlant i pe bai rhywbeth yn digwydd i mi.”

Felly ddechreuais ar y gwaith gan feddwl “Byddaf yn gwneud i’r bobl ifanc hyn beth fyddwn am i bobl eraill ei wneud dros fy mhlant i pe na fyddwn o gwmpas.”

Rwy’n glir iawn gyda’r bobl ifanc hyn o’r dechrau ac nid yw fy agwedd wedi newid drwy’r blynyddoedd – “Trin fy nghartref a’r bobl ynddo fel yr hoffech chi gael eich trin.” Rwy’n seilio fy mherthynas â nhw ar ymddiried os na fyddaf yn gweld na allaf.

Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n hollol iawn i mi rwy’n onest ac agored iawn gyda nhw. Rwy’n rhannu fy mhryder mewn ffordd bendant ond teg ac yn cael trafodaeth gyda nhw, gan ddweud nad yw rhywbeth yn gweithio a bod angen iddo newid. Unwaith y byddwn wedi rhoi sylw iddo, gallwn symud ymlaen. Fyddaf i fyth yn dal dig.

Rwy’n gweld y gwaith yn dda i mi oherwydd fy mod yn mwynhau cwmni pobl ifanc. Eu gweld yn datblygu a llwyddo i wneud rhywbeth, pa mor fychan bynnag, yw’r wobr i mi. Roeddwn bob amser eisiau teulu mawr, daw â phleser i mi – mae gennyf bedwar fy hun.

Rwy’n hoffi gallu helpu trwy ddysgu sgiliau newydd iddynt, cael hwyl gyda’r bobl ifanc a gwneud y symlaf o dasgau gyda’n gilydd. Trwy roi amser i siarad â nhw, weithiau tan oriau mân y bore pan oedd fy mhlant i’n cysgu, cefais help i ddatblygu perthynas â nhw.

Rwyf wedi dysgu gwrando ar bobl ifanc ac aralleirio pethau wrth eu hannog i feddwl am bethau’n wahanol.

Mae llawer o bobl ifanc y byddaf yn gweithio gyda nhw’n dioddef gyda phryderon, anhwylderau bwyta a hunan-niweidio. Methodd llawer ohonynt fynd i’r afael â’u problemau wrth fyw gyda’u teuluoedd eu hunain ac maent angen amser ar wahân. Yn aml ni fyddant yn dychwelyd adref oherwydd eu bod yn teimlo’n barod i symud ymlaen i fyw’n annibynnol pan fyddant yn fy ngadael. Y gobaith wedyn yw bod eu perthynas â’u teuluoedd wedi gwella ac y bydd cysylltiad.

Fyddaf i ddim yn cymryd siomedigaethau’n bersonol a ni fyddaf yn beirniadu’r bobl ifanc hyn. Yn hytrach rwy’n parchu’r hyn yr aethant drwyddo ac yn eu trin yn garedig ac yn ofalus hyd yn oed pan fydd eu harferion, eu hiaith neu efallai eu glanweithdra’n gallu bod yn her ar adegau. Mae’n bwysig eu derbyn a pheidio fyth eu beirniadu neu redeg arnynt.

Dywedodd un o’r bobl ifanc wrthyf “Rydych chi bob amser wedi bod yno i mi, hyd yn oed pan oedd pawb arall wedi troi eu cefn arnaf a wnewch chi fyth ddeall mor ddiolchgar ydw i am hynny, wnaf i fyth anghofio.”

Rwy’n mwynhau bod yn brysur. Mae’r rôl yn cynnwys gweithio gyda nifer o weithwyr proffesiynol sy’n helpu’r bobl ifanc hyn, tra bo’r hyfforddiant ac ymweliadau cymorth yn helpu i mi adeiladu ar y sgiliau a ddysgais drwy’r blynyddoedd. Rwy’n teimlo na fyddaf fyth yn ymddeol o’r rôl hon ac mae’n syndod meddwl fod gennyf swydd yr un pryd am flynyddoedd.

 

ID: 4256, adolygwyd 22/10/2018