Y LLYFR COFFADWRIAETH
Mae’r Llyfr Coffadwriaeth yn goffâd parhaol o’r ymadawedig. Mae yna dudalen wahanol ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn, ac ar ben pob tudalen nodir y diwrnod a’r mis.
Mae'n bosib cyrraedd y Llyfr Coffa ar lein. Dilynwch y cyfarwyddiadau syml a gallwch archwilio'r E-Llyfr (Mewn ffenest newydd) trwy ddefnyddio enw'r ymadawedig neu ddyddiad gosod y manylion yn y llyfr Coffa neu'r rhif sydd ar y cerdyn. Gellir edrych ar y delweddau ychwanegol rydych wedi'u harchebu trwy ddefnyddio'r rhifau sydd ar eich cerdyn.
CARDIAU COFFA
Mae’r rhain ar gael yn gopïau o’r hyn sy wedi ei roi yn y prif Lyfr Coffadwriaeth neu yn gofebion ar wahân.
DYDDIAD DANGOS
Bydd eich arysgrif i’w weld yn y Capel Coffa ar y dyddiad y gofynnoch amdano yn eich cais. Gall y dyddiad rydych yn gofyn amdano fod yn ddyddiad marwolaeth, dyddiad geni neu briodas neu goffâd arall.
EDRYCH AR Y LLYFR
Gellir mynychu’r Capel Coffa 365 diwrnod y flwyddyn o 10.00 a.m. tan 5.00 p.m. (4.00 p.m. yn y gaeaf). Os byddwch yn ymweld ar ddiwrnod ar wahân i’r diwrnod coffâd rydych wedi’i ddewis bydd angen i chi ofyn i aelod o’r staff i’ch cynorthwyo. Mae rhywun bob amser ar gael i’ch helpu ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 9.00 a.m. a 4.00 p.m. Gellir trefnu’r un modd ar benwythnosau o wneud trefniant rhag blaen.
NODWCH Y BYDD YNA ADEGAU PAN NA FYDDWCH YN MEDRU GWELD EICH ARYSGRIF:
Hyn am nad yw arysgrifau newydd yn cael eu gwneud ym Mharc Gwyn. Os bydd arysgrif arall yn cael ei hychwanegu at yr un dudalen â’ch un chi, yna, ni fydd yn bosib i chi weld eich arysgrifen.
BYDDWCH BOB AMSER YN MEDRU EDRYCH AR EICH ARYSGRIF FIS CYN AC AR ÔL Y DYDDIAD COFIO RYDYCH WEDI GOFYN AMDANO.
Nid yw arysgrifau newydd yn cael eu hychwanegu yn ystod y cyfnod oddeutu’r dyddiad cyfredol.
Yn ystod gweddill y flwyddyn fe’ch cynghorir i gysylltu â Swyddfa’r Amlosgfa cyn ymweld rhag eich bod yn cael eich siomi. Mae yna hefyd ffyrdd eraill o weld eich arysgrif sy’n cael eu disgrifio drosodd.
LLUNIO EICH ARYSGRIF