Helpwch ni i wella’n gwefan...
Logo Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir Penfro
Pont Cleddau Facebook Social Media Icon Twitter Social Media Icon Youtube Icon
 

Cynghorau Tref a Chymuned

Ar hyn o bryd mae deg o Gynghorau Tref yn Sir Benfro, sy'n gwasanaethu aneddiadau mwyaf yr ardal, a 67 o Gynghorau Cymuned, sy'n gwasanaethu'r ardaloedd mwy gwledig.

Bydd Cynghorau Tref a Chymuned yn gwasanaethu eu cymuned trwy ddefnyddio amrywiaeth o bwerau a dyletswyddau statudol gyda'r bwriad o wella ansawdd bywyd yn eu bröydd.

Ffurfiwyd pob cyngor o aelodau etholedig neu, mewn rhai achosion, aelodau cyfetholedig. Mae cynghorau tref a chymuned yn gyfrifol i'w hetholwyr lleol am gyflenwi pob math o wasanaethau ac am ddarparu a chynnal amwynderau lleol.  

Rydym wedi datblygu gwefan newydd ar gyfer cynghorau tref a chymuned sy'n tynnu gwybodaeth ynghyd am ein holl gynghorau tref a chymuned. Mae'r rhan fwyaf o gynghorau tref a chymuned wedi rhestru agenda a chofnodion eu cyfarfodydd diweddaraf ynghyd â manylion cysylltu cynghorwyr tref neu gymuned unigol. 

www.pembstcc.co.uk

 

Etholiadau Tref a Chymuned

Rhybudd Rtholiad o un Cynghorwr Cymuned ar gyfer Cyngor Cymuned Saundersfoot 

CANLYNIAD ETHOLIAD DIWRTHWYNEBIAD  

ID: 19714 Adolygwyd: 23/2/2016

Dolenni Perthnasol