Helpwch ni i wella’n gwefan...
Logo Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir Penfro
Pont Cleddau Facebook Social Media Icon Twitter Social Media Icon Youtube Icon
 

Y Tîm Cynghori ac Atal Digartrefedd

Tîm o gynghorwyr yw’r Tîm Atal Digartrefedd sy'n cynnig cyngor ynglŷn â llety i unrhyw un y mae arno ei angen. Bydd Swyddog Tai yn gweithio gyda chi i geisio’ch atal rhag bod yn ddigartref.

Sut all Tîm Atal Digartrefedd eich helpu?

Efallai y gallai Swyddog Tai eich helpu gyda:

  • Llenwi ffurflen Cais am Gartref
  • Cyngor cyffredinol ynglŷn â chael cartref, gan gynnwys:
    • Cyngor ynglŷn â rhentu’n breifat
    • Cyngor ynglŷn â rhentu gyda Chyngor neu Gymdeithas Tai
    • Cyngor ynglŷn â beth i’w wneud os yw talu eich morgais yn anodd i chi
  • Cyfryngu gyda'ch teulu, eich landlord neu eich cwmni morgais
  • Eich cyfeirio at asiantaethau eraill a allai helpu efallai
  • Cyngor cyfreithiol sylfaenol ynglŷn â chael cartref
  • Cyngor sylfaenol ynglŷn ag arian a rheoli dyled.

Ble gallaf gysylltu â’r Tîm Atal Digartrefedd?

Mae’r Tîm Atal Digartrefedd yn rhedeg gwasanaeth galw heibio i roi cyngor ynglŷn â chael cartref. Mae ar gael o 9.30 i 16.30 dydd Llun i ddydd Gwener, yn Adain y Gogledd yn Neuadd y Sir, Hwlffordd. Neu gallwch gysylltu â’r Tîm Atal Digartrefedd ar 01437 764551, yn hp&ateam@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ysgrifennu at:

Y Tîm Atal Digartrefedd
Cyngor Sir Penfro
Adain y Gogledd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

 Digartrefedd a ‘Bwriad'

Pan fydd cwsmer digartref yn gwneud cais i'r Awdurdod Lleol am gymorth, mae Swyddog Tai'n gorfod ystyried a ddaeth y cwsmer yn "ddigartref o fwriad". Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn datgan bod rhywun yn ddigartref o fwriad os yw'n gwneud neu'n peidio gwneud rhywbeth yn fwriadol sy'n arwain at adael llety sydd ar gael y byddai modd bod wedi aros yno fel arall.

Pan fydd teulu'n ddigartref o fwriad mae dyletswydd cartrefu'r Awdurdod Lleol gryn dipyn yn llai.

Mae'n ofynnol ar awdurdodau lleol dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 Rhan 2 i benderfynu pa deuluoedd fydd yn cael y prawf "bwriad", a chael cymeradwyaeth y Cabinet i wneud hyn. Cytunwyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2015 ac eto gan yr Aelod Cabinet dros Dai ym mis Mehefin 2015 y bydd holl geiswyr digartref yn cael eu hystyried dan y prawf bwriad.

Bydd hyn yn cynnwys y categorïau / grwpiau angen blaenoriaethol canlynol pan fydd  aelod neu aelodau o deulu (yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru):

(a) dynes feichiog neu berson mae'n byw gyda nhw neu y disgwylir yn rhesymol iddi fod yn byw gyda nhw;

(b) person lle mae plentyn dibynnol yn byw gyda nhw neu y disgwylir yn rhesymol iddo fod yn byw gyda nhw;

(c) person-

(i) sy'n agored i niwed oherwydd rhyw reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

(ii) lle mae person sydd yng nghategori is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn byw gyda nhw;

(d) person-

(i) sy'n ddigartref neu'n cael ei fygwth â digartrefedd oherwydd argyfwng fel llifogydd, tân neu drychineb arall, neu

(ii) lle mae person sydd yng nghategori is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn byw gyda nhw;

(e) person-

(i) sy'n ddigartref oherwydd cam-drin domestig, neu

(ii) lle mae person sydd yng nghategori is-baragraff (i) yn byw gyda nhw (ar wahân i'r camdriniwr) neu y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn byw gyda nhw;

(f) person-

(i) sy'n 16 neu 17 oed pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help i gael neu gadw llety, neu

(ii) lle mae person sydd yng nghategori is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn byw gyda nhw;

(g) person-

(i) sy'n 18 oed, pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help i gael neu gadw llety, ond nid yn 21 oed, ac sydd mewn perygl o ymelwa rhywiol neu ariannol, neu

(ii) lle mae person sydd yng nghategori is-baragraff (i) yn byw gyda nhw (ar wahân i ecsbloetiwr neu ecsbloetiwr potensial) neu y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn byw gyda nhw;

 (h) person-

(i) sy'n 18 oed, pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu help i gael neu gadw llety, ond nid yn 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn lletya neu'u cael ei faethu ar unrhyw adeg tra oedd dan 18 oed, neu

(ii) lle mae person sydd yng nghategori is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn byw gyda nhw;

(i) person-

(i) sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Goron ac wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

(ii) lle mae person sydd yng nghategori is-baragraff (i) yn byw gyda nhw neu y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn byw gyda nhw;

(j) person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy'n agored i niwed oherwydd un o'r rhesymau canlynol-

(i) wedi bod yn y carchar yng nghyd-destun adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000

(ii) wedi cael ei remandio neu ei roi yn y ddalfa gan orchymyn llys, neu

(iii) wedi cael ei remandio i lety cadw'r ifanc dan adran 91 (4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012,

 neu berson y mae'n byw gyda nhw neu y disgwylir yn rhesymol iddynt fod yn byw gyda nhw.

 Fe gymhwysir y penderfyniad hwn o 1 Gorffennaf 2015 am gyfnod amhenodol ac mae'n berthnasol i geisiadau dan adrannau 68 a 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.  

ID: 13212 Adolygwyd: 9/2/2017

Dolenni Perthnasol