O ganol nos ar ddydd Sadwrn 19eg Rhagfyr, bydd Cymru'n mynd i gyfyngiadau symun Level 4 Rhybudd (gweler yr esboniad isod)
Bydd cyfyngiadau symud Lefel 4 Alert yn cael eu hadolygu bob 3 wythnos
Am ragor o wybodaeth gweler Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru
Canllawiau Iechyd Hanfodol
Mae symptomau mwyaf cyffredin y coronafeirws (COVID-19) yn cynnwys peswch parhaus newydd a/neu dymheredd uchel neu golli synnwyr blas neu arogl arferol, neu newid ynddo. Os oes gennych y symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn, neu os ydych wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19, dylech hunanynysu yn eich cartref yn syth am o leiaf 7 diwrnod o ddiwrnod cyntaf eich symptomau. Os ydych yn byw gyda phobl eraill, rhaid i bob aelod arall o'r cartref sy'n iach aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am 10 diwrnod.
Nid oes angen i chi ffonio GIG 111 er mwyn hunanynysyu. Os byddwch yn teimlo na allwch ymdopi â'ch symptomau gartref, os bydd eich cyflwr yn gwaethygu neu os na fydd eich symptomau'n gwella ar ôl 10 diwrnod, cysylltwch â GIG 111 ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, dylech ffonio GIG 111
Os bydd gennych unrhyw un o symptomau'r coronafeirws (COVID-19), dylech drefnu i gael prawf drwy fynd i wefan y GIG neu ffonio 119 os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd
Dylech olchi eich dwylo'n fwy aml na'r arfer, am 20 eiliad gan ddefnyddio sebon a dŵr poeth neu hylif diheintio dwylo, yn enwedig ar ôl peswch, tisian a chwythu eich trwyn, cyn bwyta neu drin bwyd, neu pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith neu'n cyrraedd gartref
Rhaid i chi wisgo wyneb sy'n gorchuddio ar drafnidiaeth gyhoeddus (bysiau, trenau a thacsis) yng Nghymru o 27 Gorffennaf. Cadw pellter cymdeithasol, golchi eich dwylo a gorchuddio eich wyneb wrth beswch a thisian yw'r prif fesurau o hyd ar gyfer atal coronafeirws (COVID-19) rhag lledaenu.
Dylech orchuddio eich ceg a'ch trwyn â hancesi papur pan fyddwch yn peswch neu'n tisian. Rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig o ddydd Llun 14 Medi. Os nad oes gennych hances, dylech disian i mewn i gamedd eich penelin yn hytrach na'ch llaw. Gwaredwch hancesi papur mewn bag sbwriel untro a golchwch eich dwylo yn syth gyda sebon a dŵr am 20 eiliad neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo
Dylech lanhau a diheintio gwrthrychau ac arwynebau rydych yn cyffwrdd â nhw'n aml gan ddefnyddio eich cynhyrchion glanhau arferol er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint i bobl eraill
Profi. Olrhain. Diogelu - Beth sy'n digwydd?
Llywodraeth Cymru - Cymorth Ariannol i Unigolion
Cyngor i berchenogion busnesau a chwsmeriaid ymghylch llety gwyliau ac achlysuron a gafodd eu canslo oherwydd y coronafeirws yn ystod y cyfyngiadau swyddogol ar symud
Ap COVID-19 y GIG
Mae ap COVID-19 y GIG yn lansio 24 Medi ar draws Cymru a Lloegr a bydd yn hanfodol i helpu i ddiogelu Cymru.
Rydym yn annog pobl yng Nghymru i lawrlwytho a defnyddio'r ap. Y mwyaf o bobl sy'n lawrlwytho’r ap, y mwyaf y bydd yn helpu i leihau a rheoli lledaeniad COVID-19.
Nodweddion yr ap yw:
Mae'r ap yn cefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru a bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r system olrhain cysylltiadau bresennol.
lawrlwytho yma App Store ac yma Google Play
Gwefan Hygyrchedd: Recite me
Hysbysrwydd Hawdd ei Ddarllen ar y Coronafeirws
Taflen Gyngor Hawdd ei Ddarllen Gan Llywodraeth Cymru
Hawdd ei Ddarllen Beth Sy`n Digwydd pan Fyddwch yn Cael Prawf Coronafirus
Hawdd ei Darllen Canolfan Gymunedol
5 Ffordd Gallwch Chi Helpu Eich Fferyllfa Chi
Cysylltiadau Defnyddiol
Canllawiau diweddaraf llywodraeth y DU
Canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru
Canllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Canllawiau diweddaraf Heddlu Dyfed Powys