Rwyf eisiau helpu
Os ydych yn unigolyn sy’n awyddus i wneud beth allwch i helpu ymateb i’r pandemig, dyma’r lle i chi. Hyd yn oed os ydych yn hunan-ynysu, fe all ddal i fod pethau defnyddiol y gallwch wneud i helpu, fel cadw mewn cysylltiad â rhywun agored i niwed dros y ffôn.
Os ydych eisoes yn rhan o Grŵp Cymorth Cymunedol sy’n helpu gyda’r ymateb, cynigiwch eich cymorth i’r grŵp. Dyma’r ffordd orau o gael cymorth i bobl yn eich cymuned.
Os nad ydych yn ymwybodol o unrhyw Grwpiau Cymorth Cymunedol sy’n gweithredu yn eich ardal, neu ddim yn gwybod sut i gysylltu â nhw, edrychwch yn ein cyfeiriadur yma:
Gallwch hefyd gynnig gwirfoddoli trwy Gwirfoddoli Cymru yma:
Cofrestru a chael hyd i gyfleoedd gwirfoddoli ar Gwirfoddoli Cymru
Os ydych chi’n fusnes gyda rhywbeth i’w gynnig, er enghraifft bwyd neu logisteg, cysylltwch â’r Canolbwynt Cymunedol (manylion cysylltu isod).
Manylion cysylltu’r Canolbwynt Cymunedol
E-bost: communitycovid19@pembrokeshire.gov.uk.
Ffôn: 01437 776301