Gwahoddir ceisiadau bellach i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer prosiectau sydd ar waith yn Sir Benfro.
Ar 3 Mawrth, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, yr AS Rishi Sunak, Gronfa Adfywio Cymunedol y DU i bara am flwyddyn.
Gobeithir y bydd y gronfa hon yn cael ei defnyddio i dreialu dulliau newydd wrth symud o Gronfeydd Strwythurol yr UE a pharatoi ar gyfer cyflwyno Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU yn 2022-2023.
Bydd Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn darparu cyllid ar gyfer y canlynol:
Cydlynir ceisiadau ar gyfer Cronfa Adfywio Cymunedol y DU gan yr awdurdodau lleol ledled y DU. Bydd Cyngor Sir Penfro yn cydlynu'r gwaith o gyflwyno ceisiadau ar ran Sir Benfro. Disgwylir i'r cyngor arfarnu'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno a chreu rhestr fer cyn cyflwyno'r cynigion ar y rhestr fer i'w hasesu a gobeithio cael eu cymeradwyo gan y Weinyddiaeth dros Dai a Llywodraeth Leol. Rhaid i'r holl gynghorau gyflwyno'r cynigion sydd ar eu rhestrau byrion i'r Weinyddiaeth erbyn canol dydd 18 Mehefin 2021.
Mae’r Llywodraeth wedi mynegi dewis ar gyfer y ceisiadau sy'n gofyn am o leiaf £500,000. Ni ddylai'r rhestr fer o gynigion sydd wedi'u blaenoriaethu fod yn werth mwy na £3 miliwn. Blaenoriaeth y gronfa (90%) yw ariannu costau gweithredu yn hytrach na buddsoddiad cyfalaf.
Gall unrhyw sefydliad â chyfansoddiad cyfreithiol sy'n darparu gwasanaeth priodol wneud ceisiadau am gyllid. Ni ellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau sydd o fudd i un endid (er enghraifft, un busnes) - rhaid bod tystiolaeth o effaith ehangach i unigolion, busnesau neu sefydliadau eraill niferus.
Ceir cyfarwyddiadau a ffurflenni cais ar gyfer ymgeiswyr ar y dudalen hon. Mae'n hanfodol bwysig bod pob ymgeisydd yn cyfeirio at y prosbectws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Gellir dod o hyd i'r prosbectws yma: Cronfa Adfywio Cymunedol y Du
Strategaeth Adnewyddu ac Adfywio 2020-2030
Cronfa Adfywio Cymunedol y DU Y Broses Asesu
Cronfa Adfywio Cymunedol y DU Gwahoddiad i Gyflwyno Cynigion Prosiect
Ffurflen Gais Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
Nodyn technegol ar gyfer ymgeiswyr a chyflenwyr prosiect
CronfaAdfywioCymunedoly DU PowerPoint