Os oes gennych gŵyn am wasanaeth (nad yw'n gŵyn yn ymwneud ag Ysgolion na chŵyn yn ymwneud a Rhyddid Gwybodaeth) yr ydych wedi ei gael neu eich bod yn credu y dylech fod wedi ei gael, yna dilynwch y camau a amlinellir yn y daflen hon:
Y Cam Anffurfiol
Gall y rhan fwyaf o broblemau gael eu datrys yn gyflym yn y modd anffurfiol hwn
Y Cam Ffurfiol
Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad y Cam Anffurfiol, rhowch wybod i'r Gwneud Cwyn Swyddogion Cyswllt dynodedig (gweler y rhestr ar y tudalennau canlynol) y rheswm dros eich anfodlonrwydd a pha ganlyniad yr hoffech ei weld. Atodir ffurflen gwyno i'r llyfryn hwn.
Rydym yn gobeithio y bydd ein gweithdrefn gwyno yn helpu i ddatrys unrhyw broblemau a allai fod gennych o ran y ffordd y darperir ein gwasanaethau
Beth y gallaf ei wneud os byddaf am gwyno ymhellach?
Yn ein profiad ni, gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn fewnol drwy ein gweithdrefn gwyno. Fodd bynnag, mae gennych hawl i gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) ar unrhyw adeg yn y broses.
Mae'r Ombwdsmon yn sefydliad annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i gwynion o gamweinyddu (arfer gwael) yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus. Bydd fel arfer am wybod a yw eich cwyn wedi ei hystyried o dan Bolisi Cwyno y Cyngor yn gyntaf, cyn dechrau ymchwiliad.
Felly rhowch gynnig ar ein gweithdrefn gwyno yn gyntaf
Cyfeiriad yr Ombwdsmon yw:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1, Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LJ
0845 6010987 (codir pris galwad leol)