Mae Cymhorthdal Incwm yn fudd-dal ar sail incwm i bobl rhwng 16 oed ac oed hawl i Gredyd Pensiwn ac sy’n un o’r canlynol:
Fe all incwm arall i’r aelwyd effeithio ar faint o Gymhorthdal Incwm sy’n ddyledus. Fel arfer bydd cynilion dros swm arbennig yn golygu na allwch gael Cymhorthdal Incwm (bydd y ffigur hwn yn newid bob blwyddyn fel arfer ac, felly, dylech gadarnhau’r swm cyfredol).
Nid oes angen cyfeiriad parhaol arnoch, e.e. gallwch ddal i hawlio os ydych yn cysgu dan y sêr neu’n byw mewn hostel neu gartref gofal. Gallwch hefyd gymhwyso hyd at 21 oed os ydych yn un o’r uchod, yn amddifad neu wedi ymddieithrio o’ch rhieni ac wedi cofrestru ar gwrs addysg.
I wneud cais:
Ffôn: 0800 055 6688
Ffôn Testun: 0800 023 4888
Neu argraffu ffurflen hawlio, ar gael yn www.gov.uk, a mynd â hi i’ch Canolfan Byd Gwaith agosaf