 |
Ffon Gydio
Teclynnau defnyddiol, amrywiol eu cynllun, i’ch helpu i godi eitemau o’r llawr neu i estyn a chydio mewn eitemau (ysgafn) uwch.
|
 |
Siasbi â Choes Hir (Long Handled Shoe Horn)
Gall hwn eich helpu i wisgo esgidiau os ydych yn cael trafferth plygu
|
 |
Carrai Esgidiau Elastig
Gall y rhain fod yn ddefnyddiol os ydych yn cael trafferth clymu carrai neu’n cael trafferth plygu.
|
 |
Cymorth Gwisgo Sanau (Sock Aid) 
Nid oes angen i chi blygu i estyn am eich traed – dim ond gosod eich hosan dros y cymorth, ei ollwng i’r llawr a thynnu eich hosan dros eich troed gan ddefnyddio’r clustiau hir.
|
 |
Soxon Stocking Aid 
Bydd hwn yn eich helpu i chi wisgo sanau a sanau cywasgu yn annibynnol.
|
 |
Jobst Stocking Aid 
Dyfais i’ch helpu i wisgo sanau fasgwlaidd neu sanau cywasgu. Mae’n cynnwys ffrâm â gorchudd plastig sydd â dwy handlen ochr a sbwng gafael.
|
 |
Heel Guide Stocking Aid 
Dyfais gwisgo sanau cywasgu â chanllaw sawdl, siâp côn arbennig o lydan a handlenni â nifer o fannau gafael.
|
 |
Etac Compression Stocking Aid 
Cymorth i’ch helpu i wisgo sanau cywasgu. Mae’n cynnwys darn o ffabrig hirgul sy’n dal yr hosan sydd wedyn yn cael ei thynnu i fyny’r goes â’r tapiau ffabrig gan ddefnyddio un llaw neu’r ddwy.
|
 |
Ffon Wisgo 
Gall hon eich helpu i wisgo crysau a siacedi, codi trowsusau a dillad isaf neu dynnu sanau.
|
 |
Clip Trowsus
Gall dal eich trowsus i fyny â chlip ar eich crys fod yn ddefnyddiol os bydd angen codi’ch trowsus ag un llaw.
|