 |
Ffrâm Bedair Olwyn (Four Wheeled Rollator)
Mae cynllun y fframiau hyn yn helpu pobl sy’n ansad ar eu traed neu sydd heb fod yn ddigon hyderus i gerdded heb rywfaint o gymorth. Mae fframiau pedair olwyn yn gadarn dros ben ac yn aml yn cynnwys seddi defnyddiol a bagiau neu fasgedi.
|
 |
Ffrâm ag Olwynion Mawr (Large Wheeled Rollator)
Mae olwynion blaen y ffrâm gerdded ysgafn hon yn fwy na’r rhai cefn ac yn ôl yr hysbysebion, mae hynny’n gwneud newid lefel (e.e. ymylon palmentydd) yn haws.
|
 |
Ffrâm Gerdded
Wedi’i dylunio i helpu i’ch cynnal a’ch sadio pan fyddwch yn cerdded.
|
 |
Hanner Step
Step symudol ysgafn sy’n lleihau uchder trothwy.
|
 |
Hanner Gris Bigfoot
Gris symudol ysgafn a luniwyd i haneru’r uchder rhwng y drws a’r ddaear. Delfrydol i’r rhai sydd angen cadw cydbwysedd ar arwyneb mwy cyn camu i’r ddaear. Mae modd addasu’r traed i wneud y gris yn wastad ar dir anwastad ac mae modd prynu canllawiau ar wahân i roi cymorth ychwanegol.
|