Mae PATH yn rhoi cyngor, cymorth ac eiriolaeth i bobl ddigartref neu’r sawl sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, er mwyn eu galluogi i sicrhau llety diogel a fforddiadwy. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n gallu helpu pobl i sicrhau a/neu gynnal tenantiaeth, gan gynnwys pecynnau ail-setlo, cyngor ar ddyled, cymorth mewn argyfwng, pecynnau byw i rai sy’n cysgu allan neu i denantiaid newydd, cynlluniau bond, cynlluniau gwarant teithio a mwy.
Cymdeithas Gofal Sir Benfro, 1 Corner House, Barn Street, Hwlffordd, Sir Benfro. SA61 1BW
Ffôn: 01437 765335 Freephone: 0800 783 5001
e-bost: path@pembrokeshirecaresociety.org.uk