Cyngor ar Dai
Mae’r Tîm Cyngor ar Dai yn darparu cyngor ar dai yn rhad ac am ddim. Ein nod yw atal digartrefedd trwy gynnig cyngor a chymorth i’ch galluogi i aros yn eich cartref eich hun, neu efallai y gallwn helpu sicrhau llety amgen drwy edrych ar yr holl ddewisiadau tai. Bydd Swyddog Tai yn gweithio gyda chi i geisio eich atal rhag bod yn ddigartref neu i roi cymorth gyda’ch digartrefedd.
Mae’r Tîm Cyngor ar Dai yn gweithio’n unol â Deddf Tai (Cymru) 2014, a gellir gweld copi ohoni gan ddefnyddio’r ddolen isod, a fydd yn mynd â chi i wefan Llywodraeth Cymru:-
Gyda phwy y dylwn i gysylltu os oes gen i broblem o ran tai?
Oriau Swyddfa Cyngor Sir Penfro
Llun i Gwener rhwng 9 a 5 o’r gloch.
Cysylltwch â’r Swyddog Tai ar Ddyletswydd ar 01437 764551 neu drwy’r e-bost housingadvice@pembrokeshire.gov.uk,
Os ydych chi’n mynd i fod yn ddigartref y noson honno, ewch i weld y Swyddog Tai ar Ddyletswydd yn Adain y Gogledd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Tu allan i Oriau Swyddfa Cyngor Sir Penfro
Gwener 5 yr hwyr i 9 y bore dydd Llun.
Cysylltwch â’r Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd o’r Tîm Allan o Oriau ar 03003 332222
Beth yw digartrefedd?
‘Gallech fod yn ddigartref os ydych yn cysgu ar y stryd, os nad oes gennych hawliau i aros lle yr ydych chi, neu os ydych yn byw mewn tŷ sy’n anaddas. Gallwch fod yn ddigartref hyd yn oed os oes gennych do uwch eich pen.’ (Shelter Cymru, 2018)
Pa sefyllfa sy’n cyfrif fel bod yn ddigartref?
Nid oes rhaid i chi fod yn cysgu ar y stryd i gael eich dosbarthu’n ddigartref. Gallech fod yn ddigartref yn gyfreithiol os ydych:
Beth os ydw i’n ddigartref heno?
Os ystyrir eich bod yn ddigartref y noson honno, gall y swyddog ar ddyletswydd gynnig yr opsiynau canlynol i chi;
*Sylwer, nid yw’r rhestr hon yn gyflawn a bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Beth all y Cyngor ei wneud i’m helpu gyda fy mhroblemau tai?
Efallai y gall Swyddog Tai eich helpu gyda’r canlynol:
Pwy arall allai fy helpu gyda phroblem Tai?
Mae’r sefydliadau canlynol yn gweithio ochr yn ochr â’r Cyngor a’r gwasanaeth y mae ganddo ddyletswydd statudol i’w ddarparu, ac efallai y gall eich helpu neu gynorthwyo gyda’ch problemau tai.
Shelter Cymru
Prif Swyddfa Shelter Cymru, 25 Walter Road, Abertawe, SA1 5NN
Ffôn: 0345 075 5005
Gwefan: Shelter Cymru
Oriau agor: Llun i Gwener o 9:30am – 4pm
Cymdeithas Gofal Sir Benfro
19 Market Street, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1NF
E-bost: pcs@pembrokeshirecaresociety.org.uk
Ffôn: 01437 765335 Rhad ffôn: 0800 783 5001
Gwefan: Cymdeithas Gofal Sir Benfro
Oriau agor: Llun i Gwener o 10am- 4pm
PATCH
Pencadlys PATCH, The Old School, Waterloo Road, Hakin, Aberdaugleddau, SA73 3PB
E-bost: contact@patchcharity.org.uk neu tracy@patchcharity.org.uk
Ffôn: 01646 699275 Llun, Mercher ac Iau o 9am - 2pm
Symudol: 07775571431 Llun – Gwener o 9am – 4pm
Gwefan: PATCH
Oriau agor: Llun i Gwener 10am – 2pm
Canolfan Cyngor ar Bopeth
43 Cartlett, Hwlffordd, SA61 2LH neu 38 Meyrick St, Doc Penfro SA72 6UT
E-bost: advice@pembscab.org
Rhif Ffôn Lleol: 01437 806070 / Llinell Gymorth Genedlaethol: 0344 477 2020
Gwefan: Cyngor ar Bopeth Sir Benfro neu Cyngor ar Bopeth
Yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd
Byddai angen i chi fynychu apwyntiad gyda Swyddog Tai a fyddai’n eich helpu i lenwi Asesiad Anghenion Tai er mwyn asesu eich angen o ran tai – gelwir hwn yn Asesiad Adran 62 yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014. Gall ffrind, aelod o’r teulu, eiriolwr neu weithiwr cymorth ddod gyda chi i’ch apwyntiad.
Byddai angen i chi ddod â’r dogfennau canlynol gyda chi (neu wneud trefniadau gyda’r Swyddog Tai i ddarparu’r wybodaeth hon ar ddyddiad diweddarach a gytunwyd):
*Sylwer nad yw’r rhestr hon yn rhestr gyflawn a gall y Swyddog Tai ddarparu manylion pellach fel bo’r angen.
Gweler y daflen ffeithiau apwyntiad asesiad anghenion tai i gael mwy o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl yn eich apwyntiad.
Beth sy’n digwydd ar ôl fy apwyntiad?
Bydd eich Swyddog Tai yn gwneud penderfyniad wedyn yn unol â deddfwriaeth Deddf Tai (Cymru) 2014 a fydd yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn eich Asesiad Anghenion Tai ac unrhyw ymholiadau pellach a wnaed gan eich Swyddog Tai. Bydd y penderfyniad hwn yn pennu pa help neu gymorth y mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i’w darparu i chi, os o gwbl. Gallai’r penderfyniad fod yn un o’r canlynol:-
Beth fydd fy Swyddog Tai a minnau’n ei wneud i ddatrys fy mhroblemau Tai?
Creu Cynllun Tai Personol gyda thasgau y bydd angen i chi a’ch Swyddog Tai eu gwneud er mwyn eich helpu i ddod o hyd i lety addas, cynaliadwy a fforddiadwy. Bydd hwn yn nodi manylion y camau rhesymol y byddai angen i chi’ch dau eu cymryd yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Gallai’r rhain gynnwys:
* Sylwer nad yw’r rhestr hon yn gyflawn a bydd eich Cynllun Tai Personol yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol ac yn cael ei ddiweddaru fel bo’r gofyn.
Strategaeth Ddigartrefedd Cynllun Gweithredu 2019-2023