Nodyn Cyfarwyddyd i'r Cyhoedd sy'n Cyflwyno Cwestiynau yng Nghyfarfodydd Cyffredin y Cyngor
Mae gan y cyhoedd sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Benfro hawl i ofyn cwestiynau yng nghyfarfodydd Cyffredin y Cyngor. Ni chaiff unrhyw un gyflwyno mwy na dau gwestiwn mewn unrhyw un cyfarfod.
I ofyn cwestiwn, cwblhewch y ffurflen atodedig os gwelwch yn dda
Cyflwyno Cwestiynau i`r Cyngor Gan Aelod o`r Cyhoedd
Rhaid i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd dderbyn y ffurflen o leiaf ddeg diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod lle gaiff ei gyflwyno.
Gofynnir cwestiynau ar lafar gan y Cadeirydd ar ran yr aelod perthnasol o'r cyhoedd, yn y drefn y cawsant eu derbyn. Gall y Cadeirydd roi cwestiynau tebyg ynghyd os y'i hystyrir yn briodol gwneud hynny.
Gall y Cadeirydd, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, wrthod cwestiwn os ystyrir:
Bydd cwestiynau ond yn cael eu hystyried gan y cyhoedd sydd:
Os caiff cwestiwn ei wrthod gan nad yw'n bodloni'r meini prawf uchod, bydd yn cael ei ddychwelyd ynghyd â'r rhesymau dros ei wrthod. Mae penderfyniad y Cadeirydd, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, yn derfynol.
Bydd y Cadeirydd yn gwahodd yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet priodol neu Gadeirydd y Pwyllgor priodol i ymateb i'r cwestiwn. Rhaid i'r person sy'n ateb naill ai ddarparu ateb llafar sylweddol i'r cwestiwn neu ymgymryd i roi ateb ysgrifenedig o fewn deg Diwrnod Gwaith Clir i ddyddiad y cyfarfod.
Caniateir uchafswm o 30 munud ar gyfer holi at ateb yr holl gwestiynau.
Pan na fydd cwestiwn yn cael ei gyrraedd yn ystod y cyfarfod, bydd y Cadeirydd yn dosbarthu'r cwestiynau i'r Arweinydd, yr Aelod Cabinet priodol neu Gadeirydd y Pwyllgor priodol ar unwaith wedi i'r cyfarfod ddod i ben a bydd y person hwnnw/honno'n anfon ateb ysgrifenedig o fewn deg Diwrnod Gwaith Clir i ddyddiad y cyfarfod, gyda'r ateb yna'n ffurfio rhan o'r Cofnodion.
Mae'n rhaid i chi fynychu'r cyfarfod yn bersonol a chyflwyno'ch hun i'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd neu ei chynrychiolydd cyn dechrau'r cyfarfod. Os na fyddwch yn gwneud hynny, yna ni fydd y cwestiwn yn cael ei roi gerbron y cyfarfod.
Bydd angen i ni weld tystiolaeth o'ch hunaniaeth ar ddiwrnod y cyfarfod, e.e. pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustodau diweddar.