Mae ‘Camau Bach at Fenter' wedi helpu nifer o fentrwyr ifanc yn Sir Benfro, yn cynnwys ffotograffwyr, cynhyrchwyr melysion a masnachwyr ar-lein. O fentora i gynllunio busnes, rydyn ni'n cynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc yn Sir Benfro rhwng 14 a 25 oed gydag angerdd tros fusnes. Hyd yma mae ein benthyciad ‘Camau Bach at Fenter' wedi ei roi i 6 o fentrwyr ifanc yn Sir Benfro.
Mae Jack Lear wedi bod yn rhedeg busnes ar-lein am ychydig mwy na 18 mis, yn arbenigo mewn siwtiau corff lycra un darn, neu Sanau Corff, fel gwisgoedd ffansi. Mae Jack wedi dod o hyd i farchnad ar gyfer y wisg ffansi boblogaidd ledled y byd, a chymerodd archeb yn ddiweddar o'r Caribî! Pan ddechreuodd werthu rhagor, penderfynodd Jack fod arno angen rhagor o le i gadw'r gwisgoedd ac felly cymerodd les ar eiddo yn Noc Penfro. Roedd benthyciad ‘Camau Bach at Fenter' yn gymorth i Jack i dalu am ddodi celfi yn yr eiddo. Gwelwch wefan Jack ar: Body Socks
Mae Angharad Thomas yn ddisgybl yn Ysgol Greenhill gyda diddordeb tanbaid mewn ffotograffiaeth. Un o ddiddordebau Angharad oedd e' i ddechrau, cipio ambell i funud fach gyda'i ffrindiau a golygfeydd pert yng nghefn gwlad hardd Sir Benfro. Erbyn hyn mae Angharad wedi troi ei hobi yn fusnes ac eleni yn unig mae hi wedi tynnu lluniau o dair priodas leol yn ogystal â'i gwaith arall, sef portreadau a lluniau corfforaethol, a'i gwaith ysgol hefyd. Gwelwch waith Angharad ar http://angharadthomasphotography.format.com/