Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Gronfa Busnesau dan Gyfyngiadau i gefnogi busnesau sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith ar 4 Rhagfyr i reoli lledaeniad Covid-19. Diben y grant yw cynnig cefnogaeth i fusnesau â’u llif arian, a’u helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith. Nod y grant yw ategu mesurau eraill sy’n ymateb i Covid-19 i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Grant A
Bydd busnesau yn y sector lletygarwch sy’n derbyn rhyddhad ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys i gael taliad o £3,000.
Dylai busnesau lletygarwch a dderbyniodd y grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud ym mis Hydref trwy eu hawdurdod lleol, ac nad ydynt wedi derbyn taliad awtomatig, gofrestru bellach ar gyfer y grant newydd hwn.
Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau symud gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr, dylai pob busnes manwerthu, twristiaeth a hamdden dianghenraid a orfodwyd i gau, ac sydd wedi derbyn y grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud ym mis Hydref, dderbyn taliad awtomatig trwy Gronfa Cyfyngiadau’r Gronfa Cadernid Economaidd. Ni fydd yn rhaid i'r busnesau hyn ailgofrestru eu manylion. Fodd bynnag, bydd angen i unrhyw fusnes nad yw wedi cael hysbysiad am daliad erbyn 8 Ionawr gofrestru.
Bydd busnesau twristiaeth, hamdden, manwerthu hanfodol a chadwyn gyflenwi eraill yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os bydd ganddynt ostyngiad o fwy na 40% yn eu trosiant yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud. Mae angen i'r busnesau hyn gofrestru eu manylion.
Grant B:
Bydd busnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000 os cânt eu gorfodi i gau
Dylai busnesau lletygarwch a dderbyniodd y grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud ym mis Hydref trwy eu hawdurdod lleol, ac nad ydynt wedi derbyn taliad awtomatig, gofrestru bellach ar gyfer y grant newydd hwn.
Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau symud gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr, dylai pob busnes manwerthu, twristiaeth a hamdden dianghenraid a orfodwyd i gau, ac sydd wedi derbyn y grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud ym mis Hydref, dderbyn taliad awtomatig trwy Gronfa Cyfyngiadau’r Gronfa Cadernid Economaidd. Ni fydd yn rhaid i'r busnesau hyn ailgofrestru eu manylion. Fodd bynnag, bydd angen i unrhyw fusnes nad yw wedi cael hysbysiad am daliad erbyn 8 Ionawr gofrestru.
Bydd busnesau twristiaeth, hamdden, manwerthu hanfodol a chadwyn gyflenwi eraill yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os bydd ganddynt ostyngiad o fwy na 40% yn eu trosiant yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud. Mae angen i'r busnesau hyn gofrestru eu manylion
Grant C:
Bydd busnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £150,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000 os yw’r cyfyngiadau yn effeithio arnynt. Bydd busnesau twristiaeth a hamdden yn yr un braced gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os oes ganddynt ostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
Ar gyfer busnesau y mae angen iddynt gofrestru, rhaid i’r hereditament fod ar y rhestr ardrethi annomestig ar 1 Medi 2020, a rhaid i’r eiddo fod ym meddiant y talwr ardrethi ar 30 Tachwedd 2020.
Bydd yn rhaid i fusnesau sydd angen dangos gostyngiad mewn trosiant ddatgan eu bod wedi profi gostyngiad o 40% ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019. Ar gyfer busnesau nad oeddent wedi dechrau masnachu ym mis Rhagfyr 2019, dylid cymharu'r gostyngiad o 40% yn y trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 â'u trosiant misol ar gyfer mis Medi.
O ran llety hunanarlwyo, byddwch yn gymwys os byddwch yn bodloni POB UN o’r meini prawf canlynol yn unig:
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch y ddogfen canllawiau ar gyfer Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud.