Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Gronfa Busnesau dan Gyfyngiadau i gefnogi busnesau sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith ar 4 Rhagfyr i reoli lledaeniad Covid-19. Diben y grant yw cynnig cefnogaeth i fusnesau â’u llif arian, a’u helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith. Nod y grant yw ategu mesurau eraill sy’n ymateb i Covid-19 i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Grant A
Bydd busnesau yn y sector lletygarwch sy’n derbyn rhyddhad ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys i gael taliad o £3,000.
Dylai busnesau lletygarwch a dderbyniodd y grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud ym mis Hydref trwy eu hawdurdod lleol, ac nad ydynt wedi derbyn taliad awtomatig, gofrestru bellach ar gyfer y grant newydd hwn.
Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau symud gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr, dylai pob busnes manwerthu, twristiaeth a hamdden dianghenraid a orfodwyd i gau, ac sydd wedi derbyn y grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud ym mis Hydref, dderbyn taliad awtomatig trwy Gronfa Cyfyngiadau’r Gronfa Cadernid Economaidd. Ni fydd yn rhaid i'r busnesau hyn ailgofrestru eu manylion. Fodd bynnag, bydd angen i unrhyw fusnes nad yw wedi cael hysbysiad am daliad erbyn 8 Ionawr gofrestru.
Bydd busnesau twristiaeth, hamdden, manwerthu hanfodol a chadwyn gyflenwi eraill yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os bydd ganddynt ostyngiad o fwy na 40% yn eu trosiant yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud. Mae angen i'r busnesau hyn gofrestru eu manylion.
Grant B:
Bydd busnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000 os cânt eu gorfodi i gau
Dylai busnesau lletygarwch a dderbyniodd y grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud ym mis Hydref trwy eu hawdurdod lleol, ac nad ydynt wedi derbyn taliad awtomatig, gofrestru bellach ar gyfer y grant newydd hwn.
Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau symud gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr, dylai pob busnes manwerthu, twristiaeth a hamdden dianghenraid a orfodwyd i gau, ac sydd wedi derbyn y grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud ym mis Hydref, dderbyn taliad awtomatig trwy Gronfa Cyfyngiadau’r Gronfa Cadernid Economaidd. Ni fydd yn rhaid i'r busnesau hyn ailgofrestru eu manylion. Fodd bynnag, bydd angen i unrhyw fusnes nad yw wedi cael hysbysiad am daliad erbyn 8 Ionawr gofrestru.
Bydd busnesau twristiaeth, hamdden, manwerthu hanfodol a chadwyn gyflenwi eraill yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os bydd ganddynt ostyngiad o fwy na 40% yn eu trosiant yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud. Mae angen i'r busnesau hyn gofrestru eu manylion
Grant C:
Bydd busnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £150,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000 os yw’r cyfyngiadau yn effeithio arnynt. Bydd busnesau twristiaeth a hamdden yn yr un braced gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os oes ganddynt ostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
Ar gyfer busnesau y mae angen iddynt gofrestru, rhaid i’r hereditament fod ar y rhestr ardrethi annomestig ar 1 Medi 2020, a rhaid i’r eiddo fod ym meddiant y talwr ardrethi ar 30 Tachwedd 2020.
Bydd yn rhaid i fusnesau sydd angen dangos gostyngiad mewn trosiant ddatgan eu bod wedi profi gostyngiad o 40% ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019. Ar gyfer busnesau nad oeddent wedi dechrau masnachu ym mis Rhagfyr 2019, dylid cymharu'r gostyngiad o 40% yn y trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 â'u trosiant misol ar gyfer mis Medi.
O ran llety hunanarlwyo, byddwch yn gymwys os byddwch yn bodloni POB UN o’r meini prawf canlynol yn unig:
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch y ddogfen canllawiau ar gyfer Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i helpu busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cael eu effeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar y 4ydd Rhagfyr. Diben y grant yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau diweddaraf. Mae’r grant yn ceisio ategu mesurau COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
• Wedi cael eu gorfodi i gau fel canlyniad i'r cyfyngiadau cenedlaethol mewn lle ar gyfer busnesau lletygarwch
• NEU yn gallu dangos fod y cyfyngiadau diweddaraf yn arwain at ostyngiad o 40% o leiaf yn eu trosiant (amcangyfrif) ar gyfer Rhagfyr 2020 o’i gymharu a Rhagfyr 2019 (neu Medi 2020 os ddim yn masnachu yn Rhagfyr 2019)
Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn:
Mewn perthynas â llety hunanarlwyo, mae’r un canllawiau ag ar gyfer cynlluniau grant blaenorol sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig yn berthnasol, sef na fydd eiddo’n gymwys i gael y grant oni bai bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:
Ar gyfer eiddo hunanarlwyo, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn llawn i ofyn am gyfrifon busnes masnachu, rhestrau archebu a ffurflenni treth hunanasesu a gyflwynwyd i CThEM ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 os oes angen tystiolaeth ychwanegol i ddangos i’r meini prawf hyn gael eu bodloni.
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch y ddogfen canllawiau ar gyfer Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud.
Ar 1 Ionawr 2021 bydd y cyfnod pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, a’r Deyrnas Unedig yn gweithredu ffin allanol, lawn fel cenedl sofran. Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau’n cael eu gosod ar symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE.
Er mwyn rhoi mwy o amser i’r diwydiant wneud trefniadau angenrheidiol, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cyflwyno’r rheolaethau ffin newydd mewn tri cham hyd at 1 Gorffennaf 2021.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllaw ar sut y bydd y ffin â’r Undeb Ewropeaidd yn gweithio ar ôl y cyfnod pontio.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. I gefnogi busnesau a sefydliadau yn Sir Benfro i gael mynediad at gynllun Kickstart, bydd Cyngor Sir Penfro yn dod yn gynrychiolydd ar gyfer y cynllun. Fel cynrychiolydd, byddwn yn cydweithio gyda chi i sicrhau’r gofyniad lleiaf o 30 cyfle gwaith ar gyfer pob cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Bydd Cyngor Sir Penfro, fel cynrychiolydd ar gyfer Cynllun Kickstart, yn:
Yn ogystal, gall Cyngor Sir Penfro gynnig gwasanaethau i'ch helpu chi i fodloni gofynion cymorth gwaith a hyfforddiant y cynllun.
Os ydych chi'n creu cyfleoedd i berson ifanc ag anabledd neu gyflwr iechyd, gallwn eich cyfeirio at gyngor ar sut y gall y cynllun Mynediad i'r Gwaith eich cefnogi chi hefyd.
Gyda chynllun Kickstart, gallwch greu lleoliadau gwaith chwe mis ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.
Dylai'r lleoliadau gwaith rydych chi'n eu creu annog gweithwyr i ddatblygu sgiliau a phrofiad a fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw yn y swyddi maen nhw'n eu cyflawni ar ôl y lleoliad gwaith.
Bydd cyllid yn talu cant y cant o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig ag isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r gwariant hwn i'w hawlio yn ôl o'r cynllun.
Mae swm o £1,500 y swydd hefyd ar gael ar gyfer costau sefydlu, cefnogaeth a hyfforddiant (bydd 7 taliad fesul cam, £1,500 ar ôl cadarnhau dechrau'r swydd, ad-daliad cyflog / costau cysylltiedig yn mis).
Fe gewch y cyllid os bydd eich cais yn llwyddiannus
Er nad yw'r cynllun ei hun yn brentisiaeth, gall pobl ifanc symud ymlaen i brentisiaeth ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl eu lleoliad.
Gall unrhyw fusnes neu sefydliad wneud cais am y cyllid, waeth beth a fo'i faint, cyhyd â bod y swyddi sy'n cael eu creu yn newydd.
Ni allant ddisodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi'u cynllunio, ac ni allant beri i weithwyr neu gontractwyr presennol golli neu leihau eu cyflogaeth.
Rhaid i'r rolau rydych chi'n eu creu fod yn:
Cyfradd 21-24 oed |
£8.20 |
||
Cyfradd 18-20 oed |
£6.45 |
|
|
Cyfradd 16-17 oed |
£4.55 |
|
Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2020
Os ydych chi am roi cyfle trwy gynllun cynrychiolwyr Kickstart Cyngor Sir Penfro, gallwch gofrestru'ch diddordeb ar-lein: PCC Kickstart
Os oes angen help arnoch gyda'r broses, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni trwy employability@pembrokeshire.gov.uk a bydd un o'n Swyddogion Cyswllt Busnes mewn cysylltiad i ddarparu cefnogaeth.
Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch diddordeb ar gyfer y cynllun, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau'r camau nesaf.
Bydd angen:
Os oes angen cymorth arnoch i ddeall neu fodloni gofynion y cynllun, cysylltwch â'n Swyddogion Cyswllt Busnes trwy e-bostio employability@pembrokeshire.gov.uk
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim!
Gyda'n gilydd gallwn weithio ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes.
Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan – mae Helo Blod yma i dy helpu!
Mae Helo Blod yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Cer draw i wefan Helo Blod i ddarganfod mwy neu e-bostia heledd.llwyd@heloblodlleol.cymru !
Cyflwynir y grant hwn (hyd at uchafswm o £1,000) mewn ymateb i'r problemau a wynebir mewn canol trefi o ganlyniad i bandemig COVID-19. Nod y grant yw sicrhau bod canol ein trefi yn gweithio'n ddiogel er mwyn cefnogi hyfywedd hirdymor busnesau.
Mae'r cyllid hwn ar gael hyd at uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%, yn ôl-weithredol o 26 Mehefin 2020 i fusnesau canol trefi.
Dylai prosiectau arfaethedig ystyried y canlynol:
Rhaid i'r holl ddodrefn a chyfarpar fod yn unol â'r Canllaw Dylunio.
Gall ceisiadau gael eu hystyried lle bydd prosiectau’n derbyn caniatâd Diwylliant Caffi.
Gall fod cydymffurfio â Thrwyddedu Stryd, Anghenion Cynllunio a Chaniatâd Priffyrdd, lle bydd angen. Am wybodaeth a chyngor ebostiwch streetcare@pembrokeshire.gov.uk
Mae grantiau ar gael i fentrau annibynnol a bach a chanolig sy'n meddu ar drwydded caffi palmant. Os nad oes gennych drwydded, gallwch wneud cais yn yma
Mae canol trefi Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot, Penfro, Doc Penfro, Tyddewi, Abergwaun ac Wdig, Aberdaugleddau, Arberth, Neyland, Trefdraeth, Crymych a Llandudoch yn gymwys ar gyfer y grant hwn. Cyfeiriwch at y mapiau trefi sydd wedi'u hatodi.
At hynny, rhaid i'ch busnes:
Caiff ceisiadau ôl-weithredol am grantiau eu hystyried cyhyd â bod yr eitemau/gwaith wedi'u harchebu ar 26 Mehefin neu ar ôl hynny, a'u bod yn cydymffurfio â'r gofynion addasrwydd.
Llwythwch i lawr y Ffurflen Gais Diwylliant Caffi a’i ebostio i Covid19businesssupport@pembrokeshire.gov.uk er mwyn gwneud cais.
Hysbysiad Preifatrwydd - Grant Diwylliant Caffi
Bydd adnodd 'canfod cymorth' Llywodraeth y DU yn helpu busnesau a phobl hunangyflogedig i benderfynu'n gyflym ac yn hawdd pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt yn ystod pandemig y coronafeirws
Defnyddio’r Adnodd Canfod Cymorth Busnes
Cronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau
Ar 30 Tachwedd cyhoeddodd y Prif Weinidog becyn cymorth gwerth £340m wedi'i gyfeirio'n bennaf at y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a'r gadwyn gyflenwi gysylltiedig.
Diben y gronfa yw cefnogi busnesau i'r flwyddyn newydd gyda chymorth llif arian i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith.
Bydd busnesau lletygarwch a dderbyniodd grant o’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud ym mis Hydref drwy eu Hawdurdod Lleol yn dechrau derbyn taliadau drwy’r Gronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau i'w cyfrif banc yn ystod mis Rhagfyr. Ni fydd yn ofynnol i'r busnesau hyn ail-gofrestru eu manylion.
Er mwyn i bob busnes cymwys arall dderbyn cymorth o’r Gronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau, bydd angen iddynt gofrestru eu manylion, yn ogystal â gwneud cais byr ar-lein i'w hawdurdod lleol perthnasol am yr elfennau dewisol. Bydd y taliadau hyn yn dechrau cyrraedd busnesau ym mis Ionawr.
Mae'r gronfa'n cynnwys dau grant ar wahân:
Cronfa ERF NDR Busnesau dan Gyfyngiadau:
Bydd Cronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau yn darparu'r cymorth ariannol canlynol:
Cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Busnes dan gyfyngiadau:
Sut i gael mynediad i’r Gronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau:
https://www.sir-benfro.gov.uk/cyngor-a-chefnogaeth-i-fusnesau/cronfa-busnesau-dan-gyfyngiadau
Grant Dewisiol ERF Busnesau dan Gyfyngiadau
Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn:
Sut i gael mynediad i’r Gronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau:
Y cyntaf i’r felin fydd hi o ran ceisiadau. Gallai hyn arwain at beidio â gwerthuso ceisiadau ar ôl eu cyflwyno os yw’r gronfa wedi’i hymrwymo’n llawn.
Cymorth Penodol i’r Sector yr ERF:
Os nad ydych yn gymwys i gael y grantiau uchod, efallai y byddwch yn gymwys i gael Cronfa Benodol i'r Sector ERF, mae mwy o fanylion ar gael ar dudalen Cymorth Penodol i'r Sector yr ERF.
Sut i gael mynediad i’r Gronfa ERF Busnesau dan Gyfyngiadau:
https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/cymorth-penodol-ir-sector-yr-erf
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog am y cyfnod atal byr, mae'r Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei chynyddu i bron £300m, sy'n cynnwys £150m yn ychwanegol i gefnogi busnesau y mae'r cyfnod atal byr yn effeithio arnynt. Mae hefyd yn cynnwys £20m yn ychwanegol i'r gronfa £80m a gyhoeddwyd eisoes i helpu busnesau i ddatblygu yn y tymor hwy, ac mae £20m ohono wedi'i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.
Mae trydydd cam y Gronfa hefyd yn cynnwys Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud a fydd yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol i fusnesau cymwys
Mae'r cyllid diweddaraf yn rhan o becyn £53 miliwn Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sectorau diwylliant a chelfyddydol sy'n ymdopi â cholli refeniw'n ddramatig o ganlyniad i'r pandemig. Edrychwch yma i gael rhagor o fanylion.
Gweler mwy o fanylion a sut i wneud cais: Cymorth Ariannol a Grantiau Busnes Cymru
Mae busnesau yn y sectorau Lletygarwch, hamdden a manwerthu sydd â Gwerth Ardrethol o dan £500,000 yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes 100% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/2021.
Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws Tachwedd 2020 - Ebrill 2021
O dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, bydd holl gyflogwyr y DU sydd â chynllun PAYE yn gallu cael cymorth i barhau i dalu cyflog eu gweithwyr i'r rhai a fyddai fel arall wedi cael eu diswyddo oherwydd COVID-19
Nod y Cynllun Cefnogi Swyddi yw diogelu swyddi hyfyw mewn busnesau sy'n wynebu llai o alw dros fisoedd y gaeaf oherwydd Covid-19, er mwyn helpu i gadw eu gweithwyr yn gysylltiedig â'r gweithlu. Bydd y cynllun yn agor ar 1 Tachwedd 2020 ac yn rhedeg am 6 mis. Cynllun Cefnogi Swyddi
Am ragor o wybodaeth: Canllawiau i weithwyr, cyflogwyr a busnesau
Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (hawlio ar 19 Hydref 2020 neu cyn hynny)
Am ragor o wybodaeth: Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
Estyniad grant Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
Mae'r estyniad grant ar gyfer unigolion hunangyflogedig sy'n gymwys ar hyn o bryd ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ac sy’n parhau i fasnachu, ond yn wynebu llai o alw oherwydd y coronafeirws (COVID-19).
Am ragor o wybodaeth: Cymorth i'r Hunangyflogedig
Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru
Mae manylion y gronfa, cymhwysedd a’r broses ymgeisio i'w gweld ar: Development Bank of Wales
*Diweddariad pwysig* Oherwydd y niferoedd digynsail o geisiadau, mae Banc Datblygu Cymru bellach wedi'i danysgrifio'n llawn ar gyfer Cynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth:Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes
I gael rhagor o wybodaeth: Gwneud cais am Fenthyciad Adfer yn sgil y Coronafeirws
I gael rhagor o wybodaeth: Llywodraeth Cymru: Grant i helpu'r Sector Pysgota
Gwybodaeth ar gyfer Busnesau sydd ar agor yn ystod y Coronafeirws
Gwybodaeth am y Cynllun Cymorth i Fusnesau Bach
Os ydych yn gyflogwr sy'n awyddus i greu lleoliadau gwaith i bobl ifanc, gwnewch gais am gyllid fel rhan o'r Cynllun Kickstart.
Gall sicrhau bod eich busnes yn ddiogel ac yn cydymffurfio yn ystod COVID-19 tra'n parhau'n gynhyrchiol ac yn broffidiol deimlo fel her enfawr. Ond mae cymorth ar gael, heb gost i fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru, drwy raglen Arloesedd SMART, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
O helpu eich busnes i weithredu'n ddiogel a bodloni'r canllawiau angenrheidiol, i weithio gyda chi i nodi cyfleoedd eraill i wneud eich cwmni'n fwy cynhyrchiol a phroffidiol, mae Arloesedd SMART yma i helpu. Gwnewch eich busnes yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gynhyrchiol heddiw.
Mae cannoedd o fusnesau eisoes wedi elwa o raglen Arloesedd SMART.
Darganfyddwch fwy nawr: Cymorth Arloesi
*Mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop hyd nes y bydd y rhaglen yn cau.
Hoffem glywed hefyd gan fusnesau er mwyn inni allu deall faint o gefnogaeth sydd ei angen..
Cysylltwch â ni drwy e-bost drwy covid19businesssupport@pembrokeshire.gov.uk
|
Dolenni defnyddiol a chymorth arall sydd ar gael Dolenni Defnyddiol
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau eraill i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Ein nod yw atal Brexit rhag effeithio ar wasanaethau'r Cyngor ac ar fusnesau a thrigolion Sir Benfro yn negyddol.
Rydym wrthi'n gwneud y canlynol:
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud:
Dolenni Defnyddiol
Noder: Nid yw Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
“Un Siop un Stop” Brexit – Llywodraeth Cymru
Sefydliadau Eraill yn Ne-orllewin Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Statws Preswylydd Sefydlog yr UE
Dolenni nad ydynt yn ymwneud â'r llywodraeth (gweler y rhestr uchod o ddolenni Llywodraeth Cymru)
Ymgynghoriadau sy'n ymwneud â Brexit
Noder: Nid yw Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Ar Gau
Llywodraeth Cymru: Diwygiadau i ddeddfwriaeth bwyd Cymru
Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS): Dyfodol prisio carbon yn y DU
Polisïau'r môr a physgodfeydd yng Nghymru yn dilyn Brexit
Agored
Arolwg ar gyfer dinasyddion yr UE/AEE/Swistir. Y Cynllun Preswylio: Ydy o’n gweithio yng Nghymru?
Cau: 10 Medi 2019
Llywodraeth Cymru: Cynigion diwygiedig ar gyfer cefnogi ffermwyr Cymru ar ôl Brexit
Cau: 30 Hydref 2019
Home Office: Papur Gwyn System Mewnfudo Seiliedig ar Sgiliau’r Dyfodol
Cau: Rhagfyr 2019
Trosolwg
Mae Sir Benfro’n ardal o harddwch eithriadol sy’n cynnwys traethau gwobrwyol, cestyll, safleoedd hynafol a pharc cenedlaethol arfordirol. Mae’r gefnlen drawiadol hon yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fentrwyr a busnesau lleol ddatblygu cyfleoedd masnachu.
Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd consesiynau masnachu ledled y Sir ac mae’n croesawu ceisiadau amdanynt. Rydym hefyd yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb mewn datblygu cyfleoedd consesiynau newydd.
Consesiynau sy’n cael eu cynnig
Math o gontract yw consesiynau masnachu rhwng awdurdodau / endidau contractio a chyflenwyr.
Enghreifftiau o gonsesiynau masnachu cyfredol yw:
Ble caiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu?
Caiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru. Sefydlwyd y wefan hon gan Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o helpu busnesau gael hyd i gontractau sy’n cael eu cynnig gan y sector cyhoeddus ledled Cymru.
Mae tudalen 'chwilio am gontractau' yn rhoi ffordd syml i’ch busnes gael hyd i gyfleoedd i ddarparu nwyddau, gwaith neu wasanaethau i’r sector cyhoeddus. Gallwch chwilio trwy ddefnyddio geiriau allweddol, yn ôl lleoliad, neu drwy rybuddion (cyfleoedd cyfredol, cyfleoedd yn y dyfodol neu ganlyniadau contractau). Gallech chwilio, er enghraifft, trwy ddefnyddio dim ond y gair allweddol 'Consesiwn'. Fel arall, gallech chwilio yn ôl y gair allweddol 'Consesiwn' a dewis ymhle i chwilio, fel 'De-orllewin Cymru', i weld pa fathau o gyfleoedd consesiynau sydd yn y fan honno.
Os oes gennych ddiddordeb mewn contract consesiwn arbennig sy’n cael ei hysbysu, yna bydd angen i chi gyflwyno’r wybodaeth y gofynnir amdani erbyn y dyddiad cau.
Pryd gaiff cyfleoedd consesiynau eu hysbysebu?
Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gyfle consesiwn. Mae rhai contractau consesiynau’n dymhorol ac yn gweithredu yn ystod cyfnodau prysurach y flwyddyn, mae rhai’n flynyddol ac fe all rhai gael eu dyfarnu am nifer o flynyddoedd. Yn nodweddiadol, caiff contractau eu hysbysu o leiaf fis cyn iddynt ddechrau. Mae cyfleuster ar Gwerthwchigymru i gael hysbysiad o gyfleoedd cynnig newydd sy’n cyfateb i’r categorïau busnes sydd o ddiddordeb i chi.
Oes gennych chi syniad am gonsesiwn masnachu?
Os hoffech fynegi eich diddordeb mewn dilyn consesiwn masnachu newydd mewn safle arbennig yn Sir Benfro bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen Gais Consesiwen
Cysylltiadau allweddol
I gael rhagor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol gydag un o’n swyddogion, ffoniwch 01437 764551 a gofynnwch am gael siarad â swyddog ynghylch cyfleoedd consesiynau masnachu neu e-bostiwch procurement@pembrokeshire.gov.uk gan roi manylion beth fyddech yn hoffi’i drafod ynghyd â’ch manylion cysylltu.
Mae'r dolenni canlynol yn cynnig cyngor sylfaenol ynglŷn â chydymffurfio â safonau a diogelwch bwyd a dylid eu defnyddio yn fan cychwyn ar gyfer eich busnes.
Taflen | Dolen |
Hylendid Bwyd a'ch Busnes Chi | Hylendid Bwyd - Canllaw I Fusnesau |
Dechrau: eich camau cyntaf i redeg busnes arlwyo | Dechrau |
Hyfforddwyr Hylendid Bwyd | |
Graddfa Hylendid Bwyd : Mae hylendid da yn dda i'ch busnes | |
Cofrestru busnesau bwyd | Cofrestru-Mangreoedd-Bwyd |
Systemau rheoli diogelwch bwyd, yn cynnwys Bwyd Diogelach Busnes Gwell |
Systemau-Rheoli-Diogelwch-Bwyd |
Darparu gwybodaeth am alergenau ar fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw | Adnoddau ar gyfer rhoi gwybodaeth am alergenau |
Stop Cyn Creu Bloc - poster |
Mae ‘Camau Bach at Fenter' wedi helpu nifer o fentrwyr ifanc yn Sir Benfro, yn cynnwys ffotograffwyr, cynhyrchwyr melysion a masnachwyr ar-lein. O fentora i gynllunio busnes, rydyn ni'n cynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc yn Sir Benfro rhwng 14 a 25 oed gydag angerdd tros fusnes. Hyd yma mae ein benthyciad ‘Camau Bach at Fenter' wedi ei roi i 6 o fentrwyr ifanc yn Sir Benfro.
Mae Jack Lear wedi bod yn rhedeg busnes ar-lein am ychydig mwy na 18 mis, yn arbenigo mewn siwtiau corff lycra un darn, neu Sanau Corff, fel gwisgoedd ffansi. Mae Jack wedi dod o hyd i farchnad ar gyfer y wisg ffansi boblogaidd ledled y byd, a chymerodd archeb yn ddiweddar o'r Caribî! Pan ddechreuodd werthu rhagor, penderfynodd Jack fod arno angen rhagor o le i gadw'r gwisgoedd ac felly cymerodd les ar eiddo yn Noc Penfro. Roedd benthyciad ‘Camau Bach at Fenter' yn gymorth i Jack i dalu am ddodi celfi yn yr eiddo. Gwelwch wefan Jack ar: Body Socks
Mae Angharad Thomas yn ddisgybl yn Ysgol Greenhill gyda diddordeb tanbaid mewn ffotograffiaeth. Un o ddiddordebau Angharad oedd e' i ddechrau, cipio ambell i funud fach gyda'i ffrindiau a golygfeydd pert yng nghefn gwlad hardd Sir Benfro. Erbyn hyn mae Angharad wedi troi ei hobi yn fusnes ac eleni yn unig mae hi wedi tynnu lluniau o dair priodas leol yn ogystal â'i gwaith arall, sef portreadau a lluniau corfforaethol, a'i gwaith ysgol hefyd. Gwelwch waith Angharad ar http://angharadthomasphotography.format.com/
Mae llawer o fentrau bach a chanolig eu maint yn Sir Benfro. Mae amrywiaeth fawr o fusnesau gyda ni yn y sir, yn amrywio o'n sectorau traddodiadol sef twristiaeth ac amaeth i fusnesau ynni a pheirianneg a busnesau creadigol, cyfryngau a gweithgynhyrchu ar ben hynny.
Mae tîm cymorth busnes y Cyngor yn gweithio i gynnig cyngor a chymorth o safon uchel i fusnesau, unigolion a sefydliadau eraill.
Ei nod yw meithrin diwylliant o fenter a mentergarwch llwyddiannus yn economi Sir Benfro.
Darperir cymorth wedi ei dargedu ar gyfer busnesau penodol er mwyn helpu i ddatblygu prosiectau hyfyw a chreu swyddi.
Cysylltwch â'r tîm cymorth busnes ar 01437 776167 / 776166 am ragor o wybodaeth.
Cyngor cyffredinol
Cyngor ar gyfer Cychwyn Arni
CThEM - Dechrau eich busnes eich hun - pecyn e-ddysgu (cyngor ynghylch materion trethi ac Yswiriant Gwladol)
Datblygu Bwyd
Mae'r Tîm Datblygu Bwyd yn darparu cymorth i'r sector bwyd-amaeth a gall hefyd roi cyngor ynghylch cyfleoedd marchnata a'r gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau ym maes manwerthu, gwerthiant uniongyrchol a lletygarwch.
Mae'r tîm yn cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant, ac mae e hefyd yn adnodd ar gyfer y cyhoedd a'r fasnach, fel ei gilydd, mewn perthynas â bwyd a diod. Mae ei weithgareddau'n cynnwys:
Arloesi
Menter Ieuenctid
Mae llawer o fentrau bach a chanolig eu maint yn Sir Benfro. Mae amrywiaeth fawr o fusnesau gyda ni yn y sir, yn amrywio o'n sectorau traddodiadol sef twristiaeth ac amaeth i fusnesau ynni a pheirianneg a busnesau creadigol, cyfryngau a gweithgynhyrchu ar ben hynny.
Mae tîm cymorth busnes y Cyngor yn gweithio i gynnig cyngor a chymorth o safon uchel i fusnesau, unigolion a sefydliadau eraill.
Ei nod yw meithrin diwylliant o fenter a mentergarwch llwyddiannus yn economi Sir Benfro.
Sefydlwyd Ynni Morol Sir Benfro i roi gwybodaeth a hybu Sir Benfro fel Canolbwynt Ynni Adnewyddadwy o’r Môr. Bydd y wefan hon yn dod yn “siop un alwad” i ddatblygwyr, buddsoddwyr a’r cyhoedd sydd eisiau gwybod mwy am y prosiectau, yr adnodd, cydsynio, cyllido, ymchwil a seilwaith.
Mae Dinas-ranbarth Bae Abertawe’n cwmpasu tiriogaeth pedwar awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr a Sir Benfro.
Cynllun Talebau Cysylltiad Band Llydan
Ardal Menter Dyfrffordd y Daugleddau
Ardaloedd daearyddol sy'n cefnogi busnesau newydd a busnesau sy'n ehangu drwy ddarparu seilwaith a chymhellion o'r radd flaenaf i fusnesau yw Ardaloedd Menter.
Cysylltwch â'r tîm cymorth busnes ar 01437 776167 am ragor o wybodaeth, cymorth a chyngor.
Mae dod o hyd i gymorth ariannol i ddechrau a thyfu eich busnes yn anodd bob amser. Mae llawer o wahanol fathau o gyllid addas i'ch busnes a'ch prosiect. Yn wir, gallai cyfuniadau o ddewisiadau fod yn well nag unrhyw ffynhonnell ar ei phen ei hun.
Mae nifer o gwestiynau y bydd rhaid i chi eu hystyried cyn y byddwch yn gallu ystyried pa ffynhonnell o arian sy'n iawn i'ch busnes chi. Faint sydd ei angen arnoch, i ba bwrpas ac am ba hyd, yn ogystal â'r sicrwydd sydd gennych i'w gynnig a phrofiad y busnes a'r rheolwyr - bydd hyn oll yn berthnasol i bwy sy'n fodlon buddsoddi ynddoch chi.
Cyn i chi ystyried mynd at arianwyr, mae adolygu a diweddaru eich cynllun busnes yn syniad da.
Yn Sir Benfro, rydym wedi gweithio gyda'n gilydd gyda nifer o sefydliadau i ddarparu dewisiadau cymorth ariannol.
Cyngor Cyffredinol
Loteri Sir Benfro
Camau Bach i Fenter - Cymorth ariannol i bobl o dan 25 oed
Mae cyllid busnes hyblyg o £1,000 hyd at £5,000,000 ar gael gan Fanc Datblygu Cymru, AC mae busnesau sydd wedi’u lleoli o fewn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn gymwys i dderbyn cyfradd llog ostyngol.
Yr hyn sydd fwyaf pwysig ym mhob busnes yw'r bobl. Bydd dod o hyd i'r bobl iawn i weithio yn eich busnes, eu hyfforddi a'u cadw i ddatblygu cymaint ag y bo modd yn hybu llwyddiant eich sefydliad.
Mae Cyngor Sir Penfro yn gallu eich helpu chi i ysgrifennu manyleb swydd, hysbysebu'r swyddogaeth ac yna llunio rhestr fer o'r ymgeiswyr. Unwaith y bydd ymgeisydd llwyddiannus gyda chi rydym yn gallu helpu i gasglu tystlythyrau a gwneud yr archwiliadau cefndirol i sicrhau eu bod yn cyflawni eich safonau. Gallwn roi cymorth i'ch gweithiwr newydd gyda hyfforddiant cyn cyflogi a'ch helpu i gychwyn yn gywir gyda chontractau cyflogaeth ac ymsefydlu ar gyfer gweithwyr newydd.
Mae nifer o fentrau arbennig ar gael i gefnogi pobl sydd wedi colli eu gwaith a'r rhai o dan 25 oed.
Cysylltwch â'r tîm cymorth busnes ar 01437 776167 am ragor o wybodaeth.
Cyngor cyffredinol ynglŷn â recriwtio
Gwaith yn yr Arfaeth - rhaglenni cyflogaeth
Gwaith yn yr Arfaeth yng Nghyngor Sir Penfro
Y Ganolfan Waith - cyfleoedd i weithio a chymorth cyflogaeth
Diweithdra - ReAct - cymorth ar gyfer cyflogi rhywun sydd wedi ei wneud yn ddi-waith
Twf Swyddi Cymru - cymorth ar gyfer cyflogi rhywun 16-24 oed
Mae llwyddiant eich busnes yn dibynnu ar ddatblygu eich tîm. Pa un a yw'n sgiliau gwasanaeth cwsmer neu weldio, byddwch yn cadw llygad bob amser ar ddyfodol eich busnes a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn cyflawni.
Trwy fuddsoddi mewn hyfforddi a datblygu daw eich gweithlu yn fwy hyblyg. Byddant yn dod yn fwy cynhyrchiol a thrwy gynnig i bobl y cyfle i ennill sgiliau newydd, byddwch yn cadw eich gweithwyr yn well hefyd.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad sgiliau ac mae'n gweithio gyda phartneriaid eraill i gyflenwi nifer o brosiectau i roi cymorth i sectorau a sgiliau penodol.
Cysylltwch â'r tîm cymorth busnes ar 01437 776167 am ragor o wybodaeth.
Cyngor Cyffredinol
Sir Benfro yn Dysgu
Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol
partneriaeth datblygu gweithlu gofal cymdeithasol scwdp
Workways workwaysplus@pembrokeshire.gov.uk 01437 776609
Hyfforddiant Hylendid Bwyd
Pum deg+
Mae'r Tîm Trwyddedu yn dosbarthu trwyddedau, cofrestriadau a hawlenni ar gyfer llawer o wahanol weithgareddau gyda'r nod o sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Unwaith y bydd trwydded wedi ei dosbarthu, rydym yn ymweld ag adeiladau trwyddedig i'w harchwilio ac yn archwilio cerbydau trwyddedig. Rydym yn gweithio law yn llaw â Dyfed-Powys ac mawwfire i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â thelerau ac amodau trwyddedau yn ogystal â deddfwriaeth berthnasol arall. Mae gennym hefyd systemau monitro i ddarganfod ac atal gweithgareddau didrwydded.
Yn ogystal â’r gwaith gorfodi hwn, rydym yn cymryd rhan hefyd mewn mentrau addysg a gwybodaeth ar gyfer trwyddedigion a'u gweithwyr i hybu eu hymwybyddiaeth o faterion diogelwch cyhoeddus.
I gael gwybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer trwyddedau a hawlenni penodol, dewiswch y dolen priodol os gwelwch yn dda.
I gael rhagor o wybodaeth/cyngor ar unrhyw beth uchod mae croeso i chi alw:
Dylid cyfeirio pob ffurflen gais / gohebiaeth i'r:
Adran Diogelwch Cyhoeddus
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Mae angen rheoli'r amgylchedd o'n cwmpas yn ofalus i sicrhau bod datblygiad yn gynaliadwy. Mae gan y Cyngor gyfrifoldebau dros baratoi'r cynllun datblygu, rheoli datblygiad, rheoli adeiladu, gorfodi, hawliau tramwy cyhoeddus, tir comin a bioamrywiaeth.
Yn yr adran hon fe welwch ragor o fanylion y gwasanaethau cynllunio hyn, ynghyd â chwestiynau cyffredin, cyfarwyddyd cynllunio i'w lawrlwytho, a rhestri sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd o geisiadau a dderbyniwyd a phenderfyniadau a wnaed.
Gallwch chwilio a dilyn hynt cais cynllunio (yn agor ffenestr newydd)
Sylwch mai'r Cyngor yw'r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer pob rhan o Sir Benfro oddi allan i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dylid cyfeirio ymholiadau cynllunio perthnasol i dir yn y Parc Cenedlaethol at Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithio mewn partneriaeth â’r Porth Cynllunio er mwyn darparu gwasanaethau a gwybodaeth am y system gynllunio.
Cliciwch ar y dolen er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y Planning Portal a dolenni, uniongyrchol penodol i Sir Benfro, â gwasanaethau a enwyd.
Gall ein Hadran Twristiaeth darparu gwybodaeth ar ystod eang o bynciau yn cynnwys cyngor ar gyfer Busnesau Twristiaeth; Pwy ’dy Pwy yn nhwristiaeth; Strategaeth Twristiaeth yn Sir Benfro; papurau ymchwil; ystadegau; arolygon deiliadaeth ac arolygon busnes twristiaeth.