Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. I gefnogi busnesau a sefydliadau yn Sir Benfro i gael mynediad at gynllun Kickstart, bydd Cyngor Sir Penfro yn dod yn gynrychiolydd ar gyfer y cynllun. Fel cynrychiolydd, byddwn yn cydweithio gyda chi i sicrhau’r gofyniad lleiaf o 30 cyfle gwaith ar gyfer pob cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Bydd Cyngor Sir Penfro, fel cynrychiolydd ar gyfer Cynllun Kickstart, yn:
Yn ogystal, gall Cyngor Sir Penfro gynnig gwasanaethau i'ch helpu chi i fodloni gofynion cymorth gwaith a hyfforddiant y cynllun.
Os ydych chi'n creu cyfleoedd i berson ifanc ag anabledd neu gyflwr iechyd, gallwn eich cyfeirio at gyngor ar sut y gall y cynllun Mynediad i'r Gwaith eich cefnogi chi hefyd.
Gyda chynllun Kickstart, gallwch greu lleoliadau gwaith chwe mis ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.
Dylai'r lleoliadau gwaith rydych chi'n eu creu annog gweithwyr i ddatblygu sgiliau a phrofiad a fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw yn y swyddi maen nhw'n eu cyflawni ar ôl y lleoliad gwaith.
Bydd cyllid yn talu cant y cant o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig ag isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r gwariant hwn i'w hawlio yn ôl o'r cynllun.
Mae swm o £1,500 y swydd hefyd ar gael ar gyfer costau sefydlu, cefnogaeth a hyfforddiant (bydd 7 taliad fesul cam, £1,500 ar ôl cadarnhau dechrau'r swydd, ad-daliad cyflog / costau cysylltiedig yn mis).
Fe gewch y cyllid os bydd eich cais yn llwyddiannus
Er nad yw'r cynllun ei hun yn brentisiaeth, gall pobl ifanc symud ymlaen i brentisiaeth ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl eu lleoliad.
Gall unrhyw fusnes neu sefydliad wneud cais am y cyllid, waeth beth a fo'i faint, cyhyd â bod y swyddi sy'n cael eu creu yn newydd.
Ni allant ddisodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi'u cynllunio, ac ni allant beri i weithwyr neu gontractwyr presennol golli neu leihau eu cyflogaeth.
Rhaid i'r rolau rydych chi'n eu creu fod yn:
Cyfradd 21-24 oed |
£8.20 |
||
Cyfradd 18-20 oed |
£6.45 |
|
|
Cyfradd 16-17 oed |
£4.55 |
|
Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2020
Os ydych chi am roi cyfle trwy gynllun cynrychiolwyr Kickstart Cyngor Sir Penfro, gallwch gofrestru'ch diddordeb ar-lein: PCC Kickstart
Os oes angen help arnoch gyda'r broses, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni trwy employability@pembrokeshire.gov.uk a bydd un o'n Swyddogion Cyswllt Busnes mewn cysylltiad i ddarparu cefnogaeth.
Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch diddordeb ar gyfer y cynllun, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau'r camau nesaf.
Bydd angen:
Os oes angen cymorth arnoch i ddeall neu fodloni gofynion y cynllun, cysylltwch â'n Swyddogion Cyswllt Busnes trwy e-bostio employability@pembrokeshire.gov.uk