Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad i Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau i gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd mis Mawrth. Mae'r grant hwn yn daladwy ar ben y grant cyfyngiadau a gyhoeddwyd cyn y Nadolig. Diben y grant yw cynnig cefnogaeth i fusnesau â’u llif arian, a’u helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith. Nod y grant yw ategu mesurau eraill sy’n ymateb i Covid-19 i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Talwyd am y grant hwn yn awtomatig, ond os nad ydych wedi derbyn taliad erbyn 16 Chwefror 2021, bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
Grant A
Bydd busnesau yn y sector manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, ac sydd wedi gorfod cau, yn gymwys i gael taliad o £3,000. Bydd busnesau cadwyn gyflenwi i'r sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n gymwys ar gyfer SBRR hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
Grant B:
Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000 os cânt eu gorfodi i gau. Bydd busnesau cadwyn gyflenwi i'r sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y gymorth hon os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
Grant C:
Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000 os cânt eu gorfodi i gau. Bydd busnesau cadwyn gyflenwi i'r sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn yr un dosbarth gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
Mae'r cynllun wedi'i ymestyn i'r busnesau hynny sydd â gwerth ardrethol o rhwng £150,001 a £500,000. Bydd yn rhaid i'r busnesau hyn, y mae’r cyfyngiadau wedi effeithio arnynt, wneud cais.
Nodiadau sy’n berthnasol i’r tri grant
Ar gyfer busnesau y mae angen iddynt gofrestru, rhaid i’r hereditament fod ar y rhestr ardrethi annomestig ar 1 Medi 2020, a rhaid i’r eiddo fod ym meddiant y talwr ardrethi ar 30 Tachwedd 2020.
Bydd yn rhaid i fusnesau sydd angen dangos gostyngiad mewn trosiant ddatgan eu bod wedi profi gostyngiad o 40% ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019. Ar gyfer busnesau nad oeddent wedi dechrau masnachu ym mis Rhagfyr 2019, dylid cymharu'r gostyngiad o 40% yn y trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 â'u trosiant misol ar gyfer mis Medi.
Busnesau hunanarlwyo
O ran llety hunanarlwyo, byddwch yn gymwys os byddwch yn bodloni POB UN o’r meini prawf canlynol yn unig:
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch y ddogfen canllawiau ar gyfer Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud.