Sir Benfro yn paratoi ar gyfer Brexit
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau eraill i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Ein nod yw atal Brexit rhag effeithio ar wasanaethau'r Cyngor ac ar fusnesau a thrigolion Sir Benfro yn negyddol.
Rydym wrthi'n gwneud y canlynol:
- Rydym wedi penodi swyddog a fydd yn cydlynu ymateb y Cyngor i Brexit;
- Rydym wedi nodi Brexit fel risg gorfforaethol allweddol, ac rydym yn gweithio i feithrin y ddealltwriaeth orau bosibl o'r goblygiadau i'r Cyngor a Sir Benfro;
- Rydym yn monitro digwyddiadau cenedlaethol i ddeall amgylchiadau sy'n debygol o godi yn sgil Brexit, a defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a diweddaru Strategaeth Brexit Gorfforaethol a dogfennau strategol allweddol eraill megis y Cynllun Ariannol Tymor Canolig;
- Rydym yn cydweithio â'n holl wasanaethau i ddeall goblygiadau Brexit ac i roi mesurau wrth gefn ar waith;
- Rydym yn bartner yn Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys sy'n paratoi atebion amlasiantaeth i'r heriau y gall Brexit eu hachosi;
- Rydym yn cydweithio â grwpiau cenedlaethol sy'n cynllunio ar gyfer Brexit, er enghraifft ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud:
- Rhannu gwybodaeth gywir a dibynadwy am Brexit â busnesau, cymunedau a phobl yn Sir Benfro, neu eu cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth;
- Darparu gwybodaeth a chymorth i'n cyflogeion o aelod-wladwriaethau eraill yn yr UE y gall fod angen iddynt ddefnyddio'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE;
- Sicrhau y caiff holl brosiectau'r Cyngor a ariennir gan yr UE eu cwblhau a'u dirwyn i ben yn unol â'r holl reoliadau cymwys;
- Ystyried sut y gellir helpu meysydd o economi, cymdeithas neu amgylchedd Sir Benfro y gall Brexit effeithio arnynt yn anghymesur;
- Cydweithio â phartïon eraill sydd â diddordeb er mwyn sicrhau bod cronfeydd rhanbarthol newydd ar gael a bod y rhaglenni i'w cyflawni yn addas ar gyfer anghenion a chyfleoedd Sir Benfro.
Cysylltu â ni
Brexit@pembrokeshire.gov.uk
Ken Skates Brexit
Dolenni Defnyddiol
Noder: Nid yw Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
“Un Siop un Stop” Brexit – Llywodraeth Cymru
Llywodraeth y DU
Sefydliadau Eraill yn Ne-orllewin Cymru
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Statws Preswylydd Sefydlog yr UE
Dolenni nad ydynt yn ymwneud â'r llywodraeth (gweler y rhestr uchod o ddolenni Llywodraeth Cymru)
Citizens Advice
The 3 Million
Ymgynghoriadau sy'n ymwneud â Brexit
Noder: Nid yw Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Ar Gau
Llywodraeth Cymru: Diwygiadau i ddeddfwriaeth bwyd Cymru
Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS): Dyfodol prisio carbon yn y DU
Polisïau'r môr a physgodfeydd yng Nghymru yn dilyn Brexit
Agored
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit – y goblygiadau i Gymru
Arolwg ar gyfer dinasyddion yr UE/AEE/Swistir. Y Cynllun Preswylio: Ydy o’n gweithio yng Nghymru?
Cau: 10 Medi 2019
Llywodraeth Cymru: Cynigion diwygiedig ar gyfer cefnogi ffermwyr Cymru ar ôl Brexit
Cau: 30 Hydref 2019
Home Office: Papur Gwyn System Mewnfudo Seiliedig ar Sgiliau’r Dyfodol
Cau: Rhagfyr 2019