Mae gan Canolfan Cyngor Ar Bopeth Sir Benfro ac Age Cymru Sir Benfro staff a all roi cyngor a chymorth arbenigol os ydych yn gwneud cais am fudd-daliadau.
Gallwch gael manylion llawn ynglŷn â’r hyn sydd ar gael, pwy sy’n gymwys a sut i wneud cais gan eich swyddfa budd-daliadau leol. Gallwch gael taflenni a ffurflenni hawlio budd-dal hefyd drwy ymweld ag www.gov.uk.
Cyngor ar Bopeth Sir Benfro
Llinell Gyngor 01437 806070 amser Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Gwener 10-2 Dydd Iau 10-12 a 4-6. Answerphone 01437 767936/01646 623104
Mae gwybodaeth wedi’i recordio ymlaen llaw ar gael 24 awr y diwrnod ar 0845 120 2939
Mae Cyngor ar Bopeth Sir Benfro hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio yn y prif swyddfeydd yn Hwlffordd a Doc Penfro - manylion ar y wefan, neu gellir e-bostio neu ffonio.
Age Cymru
Cymorth a chyngor am nifer o wahanol bethau, gan gynnwys budd-daliadau a threth i bobl hŷn..
Ffôn: 08000 223 444.
Cymorth ar-lein
Mae www.gov.uk yn awgrymu’r cyfrifianellau canlynol, sy’n rhad ac am ddim ac anhysbys, i’ch helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau a chredydau treth y mae gennych chi a’ch teulu hawl iddynt,
Cyfrifianell budd-daliadau Turn2Us www.benefits-calculator.turn2us.org.uk
Cyfrifianell ‘entitled to’ www.entitledto.com