Cyngor a chymorth o ran gwneud cais am fudd-daliadau
Cyngor a chymorth i wneud cais am fudd-daliadau
Mae gan Canolfan Cyngor Ar Bopeth Sir Benfro ac Age Cymru Sir Benfro staff a all roi cyngor a chymorth arbenigol os ydych yn gwneud cais am fudd-daliadau.
Gallwch gael manylion llawn ynglŷn â’r hyn sydd ar gael, pwy sy’n gymwys a sut i wneud cais gan eich swyddfa budd-daliadau leol. Gallwch gael taflenni a ffurflenni hawlio budd-dal hefyd drwy ymweld ag GOV.UK
Llinell Gyngor 01437 806070 amser Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Gwener 10-2 Dydd Iau 10-12 a 4-6. Answerphone 01437 767936/01646 623104
Mae gwybodaeth wedi’i recordio ymlaen llaw ar gael 24 awr y diwrnod ar 0845 120 2939
Mae Cyngor ar Bopeth Sir Benfro hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio yn y prif swyddfeydd yn Hwlffordd a Doc Penfro - manylion ar y wefan, neu gellir e-bostio neu ffonio.
Age Cymru
Cymorth a chyngor am nifer o wahanol bethau, gan gynnwys budd-daliadau a threth i bobl hŷn.
Ffôn: 08000 223 444.
Am fwy o wybodaeth:
GOV.UK