Yn ei rôl fel Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), mae gan Gyngor Sir Penfro gyfrifoldeb i warchod, cadw a gwella’r amgylchedd naturiol wrth ystyried datblygiadau arfaethedig, ceisiadau cynllunio a newidiadau i ddefnydd tir.
Gall rhywogaethau a chynefinoedd gael eu heffeithio’n andwyol o ganlyniad i ddatblygu a chyfrifoldeb yr ACLl yw ystyried yr effaith y gallai’r cynnig gael ar ecoleg y safle. Os oes posibilrwydd o unrhyw effaith andwyol, efallai y bydd angen cynnwys camau i liniaru neu wneud yn iawn am hynny yn rhan o’r cynllun er mwyn gwrthwneud unrhyw ganlyniadau negyddol.
Mae deddfwriaeth Ewrop a’r Deyrnas Unedig, a chynlluniau cenedlaethol a lleol yn rhoi cyfrifoldebau ar yr ACLl sy’n cynnwys gwarchod Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, rhywogaethau a warchodir gan y Deyrnas Unedig a Safleoedd a Rhywogaethau Pwysig Iawn. Mae’r lefel o warchodaeth sy’n cael ei rhoi i’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn yn amrywio ond y mae’n ystyriaeth berthnasol y dylid ystyried eu gwarchodaeth ar bob cam o’r broses gynllunio a datblygu.
Mae’r cynlluniau a’r ddeddfwriaeth berthnasol yn cynnwys:
Polisi Cynllunio Lleol |
Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro |
Polisi Cynllunio Cenedlaethol |
Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 5, Tachwedd 2012) Pennod 5 |
Nodyn Cyngor Technegol 5 (TAN 5), Cynllunio a Chadwraeth Natur (2009) |
|
Deddfwriaeth Genedlaethol |
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (yn trosi deddfwriaeth Ewrop, Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Chyfarwyddeb Adar, i gyfraith y Deyrnas Unedig) |
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 |
|
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 |
|
Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 |
Mae Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro yn ystyried effaith bosibl datblygu arfaethedig ar yr amgylchedd naturiol, rhywogaethau a chynefinoedd, o dan benawdau GN.1 a GN.37.
Mae maen prawf 4 GN.1. - Polisi Datblygu Cyffredinol yn nodi y bydd
Datblygu yn cael ei ganiatáu pan fo’n parchu ac yn gwarchod yr amgylchedd naturiol gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir.
GN.37 Gwarchod a Gwella Bioamrywiaeth
Dylai pob datblygiad ddangos dull cadarnhaol o ymdrin â chynnal a chadw a, lle bynnag y bo modd, cyfoethogi bioamrywiaeth. Dim ond dan amgylchiadau arbennig lle y sicrheir bod yr effeithiau cyn lleied â phosibl neu y caiff yr effeithiau eu lliniaru drwy ddylunio gofalus, amserlennu gwaith neu gamau priodol eraill, y caniateir datblygiad a fyddai’n amharu neu’n niweidio mewn modd arall ar rywogaethau a warchodir neu’u cynefinoedd, neu gyfanrwydd cynefinoedd, safleoedd neu nodweddion eraill o bwysigrwydd i fywyd gwyllt a rhywogaethau unigol.
Mae Safonau Prydain ar gyfer Bioamrywiaeth - Cod ymarfer ar gyfer cynllunio a datblygu (BS240404:2013) yn cyfuno arferion gorau a chanllawiau ar gyfer y rhai yn y sector cynllunio a datblygu. Bydd Cyngor Sir Penfro yn cymryd i ystyriaeth y Safon Brydeinig ar gyfer Bioamrywiaeth a byddem yn annog y rhai yn y sector cynllunio, datblygu ac amgylcheddol i fabwysiadu prosesau a'r argymhellion fel cyhoeddir.
Dilysiad
Yn unol â Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 â Safonau Prydain ar gyfer Bioamrywiaeth ni fydd ceisiadau sy'n gofyn am arolygon ecolegol yn cael eu dilysu hyd nes gellir gwybodaeth o'r fath cael ei ddarparu. Dylai lefel y wybodaeth fod yn angenrheidiol, yn berthnasol ac yn gymesur i'r datblygiad ac yn ddigonol i hysbysu'r penderfyniad ar y cais.
Mae'r Rhestr Sbardun ar gyfer ystlumod yn darparu rhagor o wybodaeth am gynigion sy'n debygol o fod angen arolygon o ystlumod, gweithgareddau eraill sy'n debygol o fod angen arolygon ecolegol yn cynnwys tyrbinau gwynt, cynlluniau trydan dŵr a datblygiad gerllaw safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol a genedlaethol (gweler Safleoedd Gwarchodedig). Mae trafodaethau cyn cyflwyno cais yn darparu cyfle i ymgeiswyr ganfod a oes angen arolygon ac yn cael eu hargymell ar gam cynnar.
I gael mwy o wybodaeth am faterion ecolegol mewn perthynas â chynllunio a datblygu, cysylltwch â’r:
Ecolegydd Cynllunio
Y Tîm Cadwraeth
Cynllunio
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
01437 776376
ecology@pembrokeshire.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd yma
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn
DOLENNI
Nodyn Cyngor Technegol 5, Cynllunio a Chadwraeth Natur (2009)
CDLl Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro