Cynllunio Argyfwng
Newidiadau i wasanaethau
Canolfan Gyswllt a'r 'Canolfannau Gwasanaethu Cwsmeriaid
Ar hyn o bryd mae ein CANOLFAN GYSWLLT CWSMERIAID ar agor o 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener i ddelio â holl ymholiadau cyffredinol. Cysylltwch â ni ar 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk Mae ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Adain y Gogledd, Neuadd y Sir, Hwlffordd ar agor ar sail apwyntiad yn unig. Mae ein CANOLFANNAU GWASANAETHAU CWSMERIAID yn Doc Penfro AR GAU ar hyn o bryd. Nid oes gennym ddyddiad wedi'i gynllunio ar gyfer ailagor ein Canolfannau Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar hyn o bryd. Talu Biliau’r Cyngor Ydych chi’n arfer talu eich biliau Cyngor gydag arian parod ar hyn o bryd mewn Canolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid? Rydym eisiau helpu i chi wneud trefniadau talu eraill gwahanol a byddem yn eich annog i ddewis un o’r dewisiadau talu isod i dalu biliau’r Cyngor. 1. Sefydlu Debyd Uniongyrchol Mae debyd uniongyrchol yn ffordd syml, gyfleus a diogel o dalu biliau. Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu eich Treth Gyngor ar-lein yn www.sir-benfro.gov.uk/debyd-uniongyrchol. I sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer y Dreth Gyngor neu un o filiau eraill y Cyngor dros y ffôn, cysylltwch â’r Gwasanaethau Cyllid ar 01437 764551. Rhaid i chi fod yr un sy’n talu’r bil a bod â manylion eich cyfrif banc wrth law 2. Talu Ar-lein Mae talu ar-lein yn gyflym, diogel a sicr ac mae ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos. I dalu biliau’r cyngor ar-lein, ymwelwch ag www.sir-benfro.gov.uk/gwneud-taliad 3. Galw ein Llinell Dalu Awtomatig Galw ein llinell dalu ar 01437 775164. Mae hwn yn wasanaeth awtomatig, ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos 4. Siarad â ni dros y ffôn Galw ein Canolfan Gysylltu ar 01437 764551 i dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd Os nad ydych yn gallu talu eich biliau heblaw mewn arian parod, dywedwch wrthym mor fuan ag y gallwch er mwyn i ni allu gwneud trefniadau eraill ar eich cyfer |
Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd ein CANOLFANNAU GWASTRAFF AC AILGYLCHU yn Waterloo, Winsel, Manorowen, Tyddewi, Hermon a Crane Cross ar agor ar amserlen y gaeaf. Os hoffech fynd â gwastaff ac ailgylchu i un o'r gwastraff ac ailgylchu i un o'r canolfannau, dilynwch y cyfarwyddiadau ar ein tudalen Canolfan Wastraff ac Ailgylchu Ar hyn o bryd mae ein CASGLIADAU GWASTRAFF AC AILGYLCHU O GARTREFI yn parhaus fel arfer. Gallwch weld mwy am drefniadau casglu ar gyfer eich eiddo trwy deipio eich cod post yn blwch Chwilio am Eich Diwrnod Biniau ar ein tudalen Gwastraff ac Ailgylchu neu drwy Fy Nghyfrif Helpwch ein criwiau casglu drwy leihau faint o wastraff cartrefi rydych yn ei greu. Gyda phwysau ar wasanaethau, dylech osgoi gwneud unrhyw waith clirio mawr gartref neu gyflawni unrhyw brosiect DIY neu ardd sy'n debygol o gynhyrchu llawer o wastraff. |
Ysgolion a Sefydiadau Gofal Plant
YSGOLION A SEFYDLIADAU GOFAL PLANT Plant ac Ysgolion – Pontio ir normal newydd |
Meysydd Parcio, Cyfleusterau Cyhoeddus a Cyhoeddus a Gwasanaethau Bysiau
MEYSYDD PARCIO Meysydd parcio a reolir gan y cyngor AR AGOR CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS Mae toiledau cyhoeddus a reolir gan y cyngor AR AGOR Mae rhagor o wybodaeth am doiledau cyhoeddus yn Sir Benfro ar gael ar Mapiau Toiledau Cyhoeddus GWASANAETHAU BYSIAU Rydym wedi gwneud newidiadau i lawer o wasanaethau bysiau. Sylwch y byddwn yn cadw hysbysrwydd amserlenni ar ein gwefan yn ddiweddar ond ni fu modd diweddaru’r hysbysrwydd sydd i’w weld yn holl safleoedd bysiau. |
Canolfannau Hamdden a Llyfrgelloedd
LLYFRGELLOEDD Am fwy o wybodaeth: Llyfrgelloedd yn ailagor CANOLFANNAU HAMDDEN Bydd Canolfannau Hamdden Sir Benfro yn AR AGOR. Am ragor o wybodaeth gweler Hamdden Sir Benfro |
Gwasanaethau Cofrestru, Amlosgfa, Mynwentydd ac Archifdy Sir Benfro
GWASANAETHAU COFRESTRU Peidiwch â mynd i'r swyddfa gofrestru heb apwyntiad gan ei fod ar gau i'r cyhoedd yn gyffredinol. Hysbysiad priodas / partneriaeth sifil a cofrestru genedigaethau Mae apwyntiadau cofrestru marwolaeth yn dal i gael eu cynnal dros y ffôn a gallwch wneud apwyntiad naill ai trwy eich trefnydd angladdau, trwy e-bostio registrar@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 775176. Rhowch enw’r ymadawedig a’ch rhif ffôn yn ystod y dydd yn yr e-bost. Bydd apwyntiadau cofrestru genedigaethau babanod a aned yn Sir Benfro’n gofyn cyfarfod byr wyneb yn wyneb ac mae modd trefnu hynny drwy’r cyfeiriad e-bost neu rif ffôn uchod. Gellir cofrestru babanod sy'n cael eu geni yn Sir Gaerfyrddin (e.e. Ysbyty Cyffredinol Glangwili) gyda Swyddfa Gofrestru Sir Gaerfyrddin; mae system cadw lle ar-lein ar gael yn www.sirgar.llyw.cymru neu dros y ffôn ar 01267 228210. Cofrestru marwolaethau / genedigaethau marw Mae cofrestriadau marwolaeth yn cael eu darparu dros y ffôn - 01437 775176 Seremonïau Priodas, Partneriaeth Sifil a Dathlu Mae rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn caniatáu priodasau a phartneriaethau sifil i gael eu cynnal ac mae swyddfeydd cofrestru, mannau addoli a safleoedd cymeradwy yn gallu agor at y diben hwn ym mhob lefel rhybudd ar gyfer y coronafeirws, yn amodol ar yr angen i weithredu pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ledaenu'r feirws ar y safle. Bydd angen i chi wirio gyda'r Gwasanaeth Cofrestru ynghylch y cyfyngiadau ar y niferoedd sy'n gallu mynychu. Mae'n ofynnol i 'safleoedd cymeradwy' trwyddedig gau at bob diben o dan gyfyngiadau Lefel 4 ac mae'n bosibl y bydd cyfyngiadau ar amseroedd agor a'r niferoedd sy'n cael mynychu ar lefelau eraill. Bydd y Gwasanaeth Cofrestru yn cysylltu â phob cwpl cyn eu seremoni gyda chanllawiau pellach. Er mwyn cysylltu â'r Gwasanaeth Cofrestru mewn perthynas â threfniadau newydd neu sy'n bodoli eisoes, anfonwch e-bost at ceremonies@pembrokeshire.gov.uk. Os ydych yn byw yn Sir Benfro ac angen apwyntiad i roi hysbysiad priodas neu bartneriaeth sifil ar gyfer seremoni sy’n digwydd yn y tri mis nesaf, e-bostiwch ceremonies@pembrokeshire.gov.uk gyda manylion cysylltu, a dyddiad ac amser eich seremoni. Os ydych chi’n ddinesydd tramor ac angen rhoi rhybudd mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig, rydym hefyd yn gallu cynnig apwyntiad os ydych yn byw yn Sir Gâr neu Geredigion neu os ydych wedi archebu seremoni yn Sir Benfro. Copi Tystysgrifau Gellir gwneud cais neu drwy ffonio 01437 775176 AMLOSGFA PARC GWYN Mae swyddfa Amlosgfa Parc Gwyn AR GAU i'r cyhoedd ar hyn o bryd. Mae'r tiroedd AR AGOR rhwng 10am a 5pm ond gofynnir i ymwelwyr gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol. Angladdau - Mae canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru yn nodi y gall mynychu angladdau ‘gynnwys yr unigolyn sy'n trefnu'r angladd ac unrhyw un a wahoddir gan yr unigolyn hwnnw (neu unrhyw ofalwr unrhyw un o’r unigolion hynny).’ Sylwch fod nifer y galarwyr sy'n mynychu angladdau ym Mharc Gwyn wedi'i gyfyngu ar hyn o bryd i 32 o bobl yng nghapel y gwasanaeth a chaiff nifer anghyfyngedig o bobl sefyll y tu allan. MYNWENTYDD Ar hyn o bryd, mae ein mynwentydd AR AGOR i'r cyhoedd, er bod hi'n ofynnol i ymwelwyr barchu arweiniad ar gadw pellter cymdeithasol. Y rhain yw: Rhosfarced, Llangwm, Freystrop, Llanisan-yn-Rhos, City Road Hwlffordd, Nolton Haven, Llanfair Nant-y-Gof (Trecwn), Llanwnda, Llanion Doc Penfro, Cil-maen a St Michael's Penfro. Mae Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro AR AGOR I gychwyn, bydd y gwasanaeth ar agor rhwng 10am a 4pm ar ddyddiau Iau a Gwener bob wythnos yn unig. Bydd mynediad i'r cyhoedd trwy apwyntiad yn unig a rhaid i bawb ffonio 01437 775975 rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener er mwyn cadw lle. Peidiwch â defnyddio'r rhif ffôn hwn am unrhyw ymholiadau eraill. Dylech barhau i gyfeirio'r holl ymholiadau eraill ynghylch y gwasanaeth Archifdy ac Astudiaethau Lleol i 01437 775456. Dylid ffonio 01437 775978 ar gyfer yr holl ymholiadau sy'n ymwneud â rhaglen frechu COVID-19. Bydd angen cadw man eistedd ar gyfer pob terfynell gyfrifiadurol a mannau desg ymchwil ymlaen llaw.
Gellir cadw eich lle ar gyfer yr amseroedd canlynol:
1) 10am – 11.45am
2) 12pm – 1.45pm
3) 2pm – 4pm
Mae hyn yn caniatáu glanhau'r mannau astudio rhwng yr apwyntiadau er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws.
Mae'r lleoedd yn yr ystafell ymchwil wedi'u lleihau er mwyn rhoi cap ar nifer y bobl yn yr ystafell ymchwil ar unrhyw adeg.
Bydd angen gwneud apwyntiad hefyd ar gyfer adneuo neu roi cofnodion: ni fydd yn bosibl mwyach cyrraedd heb rybudd gyda chasgliad i gyflwyno i'r gwasanaeth er mwyn iddo gael ei gadw'n ddiogel. Ffoniwch 01437 775456 er mwyn trefnu apwyntiad at y diben hwn.
|
Maenordy Scolton, Parciau a Hawliau Tramwy
Maenor Scolton yn AGOR
Mae PARCIAU CHWARAE - bydd y parciau chwarae a reolir gan Gyngor Sir Penfro AR AGOR Mae HAWLIAU TRAMWY A PHARCIAU CYHOEDDUS ARALL ynaros AR AGOR Fodd bynnag, caiff defnyddwyr eu hatgoffa i gadw pellter cymdeithasol ac aros 2 fetr draw oddi wrth bobl eraill ac anifeiliaid. Y cyngor i berchenogion cŵn yw cadw’u hanifeiliaid anwes ar denynnau. |
Gwasanaethau Tai
CYNLLUN NEILLTUO CARTREFI DEWISEDIG Ail-agorodd Hysbyseb Cartrefi Dewis. DIGARTREFEDD Mae staff ar gael i roi cyngor a chymorth dros y ffôn i’r rhai hynny all fod mewn perygl o ddod yn ddigartref cyn bo hir. Ffoniwch 01437 764551 neu e-bostio housingadvice@pembrokeshire.gov.uk TENANTIAID PRESENNOL Bydd yr adran dai’n dal i roi cyngor a chymorth i denantiaid dros y ffôn ar gyfer argyfyngau tenantiaeth yn unig. Mae staff tai hefyd yn gfyn i denantiaid ddweud wrthynt os ydynt yn hunan-ynysu neu’n dangos unrhyw symptomau er mwyn i ni allu sicrhau diogelwch staff os byydd argyfwng. Ffoniwch 01437 764551 neu e-bostio tenman@pembrokeshire.gov.uk |
Neuadd y Sir a Chanolfan Arloesedd y Bont
Ar hyn o bryd mae NEUADD Y SIR AR GAU i’r cyhoedd |